Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor: adroddiad blynyddol 2022 i 2023
Crynodeb o faint o aelwydydd a gafodd gymorth gan y cynllun.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Ar 1 Ebrill 2013, cafodd Budd-dal y Dreth Gyngor (CTB) yng Nghymru ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) a chafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd Rheoliadau’r CTRS yn seiliedig i raddau helaeth ar hen reolau’r CTB. Roedd hyn yn sicrhau bod aelwydydd yn cadw’u hawl i gael cymorth i fodloni eu hatebolrwydd treth gyngor. Rydym wedi diwygio'r Rheoliadau gwreiddiol bob blwyddyn ers hynny er mwyn cynnal yr hawliau hyn.
Rhoesom £244m i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013 i 2014 i’w galluogi i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi cynnal y trefniadau ariannu hyn bob blwyddyn ers hynny.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am roi’r CTRS ar waith yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Mae hyn yn helpu i sicrhau tryloywder mewn maes y mae cyllid sylweddol yn parhau i gael ei ddyrannu iddo.
Y prif ffigurau
- Roedd 260,912 o aelwydydd yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023, o'i gymharu â 268,020 ym mis Mawrth 2022, sy’n ostyngiad o 7,108 o achosion (2.7%).
- Cyfanswm amcangyfrifedig gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd drwy'r CTRS yng Nghymru yn 2022 oedd £287.2m, o'i gymharu â £287.6m yn y flwyddyn ariannol flaenorol, sy’n ostyngiad o £0.4m (0.1%).
- Roedd 102,526 o aelwydydd pensiynwyr yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023, o’i gymharu â 103,987 ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn golygu bod llwyth achosion pensiynwyr yn cynnwys 1,461 yn llai o achosion (1.4%).
- Roedd 158,386 o aelwydydd oedran gweithio yng Nghymru yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023, o’i gymharu â 164,033 ym mis Mawrth 2022, sy’n ostyngiad o 5,647 o achosion (3.4%).
- O blith y 260,912 o aelwydydd yng Nghymru a oedd yn cael gostyngiad, nid oedd 210,721 (80.8%) yn talu unrhyw dreth gyngor o gwbl.
- Ym mis Mawrth 2023, roedd 44.4% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn achosion wedi’u pasbortio ac 19.2% yn achosion safonol heb eu pasbortio. Roedd 36.4% o’r aelwydydd a gafodd ostyngiad yn cael Credyd Cynhwysol.
- Credyd Pensiwn oedd y math mwyaf cyffredin o achos wedi’i basbortio, ac roedd yn cyfrif am oddeutu 22.3% o’r holl achosion o ostyngiadau yn y dreth gyngor.
- Roedd 84.9% o'r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo ym mandiau A i C ym mis Mawrth 2023.
- Cafodd Tribiwnlys Prisio Cymru 19 o apeliadau newydd yn ymwneud â’r CTRS rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, o’i gymharu â 36 yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
Y cefndir
Yn yr Adolygiad o Wariant yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bwriad i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor (CTB). Rhoddodd gyfrifoldeb i awdurdodau lleol yn Lloegr dros ddatblygu trefniadau newydd. Ar yr un pryd, cyhoeddodd gynlluniau i drosglwyddo cyllid i'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a’r Alban, gan ddisgwyl y byddent yn sefydlu trefniadau newydd. Cafodd y cyllid i roi cymorth ar gyfer y dreth gyngor ei drosglwyddo o gyllidebau seiliedig ar alw i gyllidebau sefydlog, a chafodd ei gwtogi 10%.
Ar 1 Ebrill 2013, cafodd y CTB yng Nghymru ei ddisodli gan y CTRS. Cafodd aelwydydd cymwys eu trosglwyddo'n awtomatig i'r cynllun newydd. Roedd y rheoliadau a gyflwynwyd gennym yn 2013 yn seiliedig i raddau helaeth ar reolau blaenorol y CTB i gynnal yr hawl i gymorth. Rhoddwyd rhywfaint o ddisgresiwn lleol i’r awdurdodau lleol hefyd, sy’n galluogi pob un ohonynt i ystyried anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol.
Darparwyd £244m yn y setliad llywodraeth leol ar gyfer y Cynlluniau Gostyngiadau yn 2013‑14. Cafodd cyllideb sefydlog o £222m ei throsglwyddo gan Lywodraeth y DU. Rhoesom £22m ychwanegol i helpu awdurdodau lleol i barhau i roi’r cymorth llawn y mae gan bob aelwyd gymwys yr hawl i’w gael. Rydym wedi parhau i gynnal y trefniadau hyn bob blwyddyn ers hynny. Rydym hefyd wedi parhau i gynnal yr holl hawliau i gymorth o dan y cynllun. Mae newidiadau yn niferoedd llwythi achosion yn adlewyrchu newidiadau yn nifer yr aelwydydd sy'n ymgeisio ac yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cymorth.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn yn darparu data diwedd blwyddyn ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys llwyth achosion a gwerth gostyngiadau rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 yn seiliedig ar ddata rheoli achosion. Mae hefyd yn darparu dadansoddiad o'r tueddiadau a'r patrymau ers i’r CTRS gael ei gyflwyno. Mae'r holl ffigurau sy'n ymwneud â gwerth gostyngiadau wedi'u talgrynnu i'r £1,000 agosaf.
Mae Atodiad A yn darparu ystadegau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru
Daw'r data o offeryn modelu a rhagamcanu sy'n tynnu allan wybodaeth fanwl am achosion CTRS o systemau refeniw a budd-daliadau craidd awdurdodau lleol Cymru. Cymerir cipluniau o lwyth achosion CTRS yn fisol a defnyddir yr wybodaeth i amcangyfrif cyfanswm gwerth y gostyngiadau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r wybodaeth yn rhoi manylion cyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2023 a gwerth y dyfarniadau a ddarparwyd yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023. Mae llwyth achos yn cyfeirio at aelwydydd yn hytrach nag unigolion. Mewn geiriau eraill, mae rhai achosion yn cyfeirio at unigolyn, ac achosion eraill yn cyfeirio at gwpl neu deulu.
Mae tabl 1 yn dangos mai 260,912 oedd cyfanswm y llwyth achosion ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cymharu â 268,020 ym mis Mawrth 2022. Felly, mae’r llwyth achosion wedi gostwng 7,108 o achosion (3%).
Mae llwyth achos pob awdurdod lleol wedi lleihau. Wrecsam a welodd y gostyngiad canrannol lleiaf yn y llwyth achosion (0.5%). Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r gostyngiad canrannol mwyaf (4.3%).
Awdurdodau lleol |
Mawrth 2022 |
Mawrth 2023 |
% newid |
---|---|---|---|
Ynys Môn |
5,713 |
5,557 |
-2.7 |
Gwynedd |
8,719 |
8,449 |
-3.1 |
Conwy |
9,941 |
9,742 |
-2.0 |
Sir Ddinbych |
9,053 |
8,968 |
-0.9 |
Sir y Fflint |
10,549 |
10,231 |
-3.0 |
Wrecsam |
11,060 |
11,006 |
-0.5 |
Powys |
9,380 |
9,065 |
-3.4 |
Ceredigion |
5,410 |
5,278 |
-2.4 |
Sir Benfro |
9,534 |
9,169 |
-3.8 |
Sir Gaerfyrddin |
15,506 |
15,148 |
-2.3 |
Abertawe |
21,490 |
20,563 |
-4.3 |
Castell-nedd Port Talbot |
16,424 |
15,719 |
-4.3 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
12,682 |
12,552 |
-1.0 |
Bro Morgannwg |
9,454 |
9,071 |
-4.1 |
Rhondda Cynon Taf |
24,151 |
23,544 |
-2.5 |
Merthyr Tudful |
6,074 |
5,890 |
-3.0 |
Caerffili |
16,198 |
15,965 |
-1.4 |
Blaenau Gwent |
8,649 |
8,426 |
-2.6 |
Torfaen |
9,922 |
9,642 |
-2.8 |
Sir Fynwy |
5,677 |
5,531 |
-2.6 |
Casnewydd |
12,544 |
12,399 |
-1.2 |
Caerdydd |
29,890 |
28,997 |
-3.0 |
Cymru |
268,020 |
260,912 |
-2.7 |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Gwerth y gostyngiad yw faint y mae’r rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor wedi’i ostwng ar gyfer aelwydydd sy'n cael gostyngiad. Mae awdurdodau lleol yn cael arian i wneud iawn am yr incwm treth gyngor y byddent yn ei gael fel arall gan aelwydydd sy’n gymwys i gael cymorth ac sy’n gwneud cais amdano. Mae hynny’n golygu bod yr aelwydydd cymwys yn cael bil treth gyngor llai neu nad oes ganddyn nhw unrhyw fil i’w dalu.
Cyfanswm gwerth y gostyngiadau a ddarparwyd i holl aelwydydd Cymru rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 oedd £287.2m, o'i gymharu â £287.6m yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae hyn yn ostyngiad o £0.4m (0.1%).
Gwelodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ostyngiad yng ngwerth y gostyngiadau a ddarparwyd. Castell-nedd Port Talbot welodd y gostyngiad mwyaf (2.9%). Fe welodd deg awdurdod lleol gynnydd cymedrol, gyda Wrecsam â'r cynnydd canrannol mwyaf (2.5%). Mae tabl 2 yn dangos ffigurau ar gyfer cyfanswm gwerth y gostyngiadau yn ôl awdurdod lleol.
Awdurdodau lleol |
Cyfanswm 2021 i 2022 |
Cyfanswm 2022 i 2023 |
% newid |
---|---|---|---|
Ynys Môn |
6,163 |
6,124 |
-0.6 |
Gwynedd |
9,600 |
9,592 |
-0.1 |
Conwy |
10,752 |
10,885 |
1.2 |
Sir Ddinbych |
10,305 |
10,464 |
1.5 |
Sir y Fflint |
11,630 |
11,654 |
0.2 |
Wrecsam |
11,346 |
11,634 |
2.5 |
Powys |
10,563 |
10,624 |
0.6 |
Ceredigion |
6,150 |
6,136 |
-0.2 |
Sir Benfro |
9,248 |
9,353 |
1.1 |
Sir Gaerfyrddin |
16,719 |
16,774 |
0.3 |
Abertawe |
22,533 |
22,026 |
-2.3 |
Castell-nedd Port Talbot |
18,539 |
18,021 |
-2.9 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
14,987 |
14,823 |
-1.1 |
Bro Morgannwg |
10,885 |
10,879 |
-0.1 |
Rhondda Cynon Taf |
24,470 |
24,269 |
-0.8 |
Merthyr Tudful |
6,603 |
6,514 |
-1.4 |
Caerffili |
14,907 |
15,097 |
1.3 |
Blaenau Gwent |
9,581 |
9,484 |
-1.0 |
Torfaen |
10,088 |
10,072 |
-0.2 |
Sir Fynwy |
7,032 |
7,082 |
0.7 |
Casnewydd |
11,992 |
12,250 |
2.1 |
Caerdydd |
33,522 |
33,456 |
-0.2 |
Cymru |
287,615 |
287,213 |
-0.1 |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Awdurdodau lleol |
Treth Gyngor gyfartalog Band D |
Cynnydd blynyddol |
---|---|---|
Ynys Môn |
1,738 |
2.4 |
Gwynedd |
1,893 |
3.0 |
Conwy |
1,803 |
3.8 |
Sir Ddinbych |
1,853 |
3.1 |
Sir y Fflint |
1,815 |
3.9 |
Wrecsam |
1,741 |
3.9 |
Powys |
1,814 |
3.8 |
Ceredigion |
1,777 |
3.0 |
Sir Benfro |
1,579 |
5.0 |
Sir Gaerfyrddin |
1,780 |
2.9 |
Abertawe |
1,782 |
1.6 |
Castell-nedd Port Talbot |
2,012 |
0.8 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
1,951 |
0.7 |
Bro Morgannwg |
1,751 |
3.2 |
Rhondda Cynon Taf |
1,886 |
1.8 |
Merthyr Tudful |
2,050 |
1.6 |
Caerffili |
1,573 |
2.6 |
Blaenau Gwent |
2,099 |
1.0 |
Torfaen |
1,803 |
2.5 |
Sir Fynwy |
1,847 |
3.4 |
Casnewydd |
1,583 |
3.0 |
Caerdydd |
1,640 |
2.5 |
Cymru |
1,777 |
2.7 |
Ffynhonnell: Ffynhonnell: Ffurflenni Gofyniad Cyllidebol oddi wrth awdurdodau lleol
Mae tabl 4 yn dangos bod 18.6% o’r aelwydydd oedd atebol i dalu’r dreth gyngor yn cael gostyngiad ym mis Mawrth 2023.
Mae'r ffigur hwn yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall. Gan Sir Fynwy y mae'r nifer lleiaf o achosion mewn cymhariaeth â'r holl aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor (13.1%), a Blaenau Gwent sydd â'r llwyth achosion mwyaf mewn cymhariaeth â'r holl aelwydydd sy'n agored i dalu’r dreth gyngor (26.2%).
Awdurdodau lleol |
Nifer yr aelwydydd |
Llwyth achosion |
Achosion o'u cymharu ag |
---|---|---|---|
Ynys Môn |
34,195 |
5,557 |
16.3 |
Gwynedd |
56,684 |
8,449 |
14.9 |
Conwy |
55,733 |
9,742 |
17.5 |
Sir Ddinbych |
44,514 |
8,968 |
20.1 |
Sir y Fflint |
68,626 |
10,231 |
14.9 |
Wrecsam |
59,067 |
11,006 |
18.6 |
Powys |
63,615 |
9,065 |
14.2 |
Ceredigion |
33,557 |
5,278 |
15.7 |
Sir Benfro |
60,602 |
9,169 |
15.1 |
Sir Gaerfyrddin |
86,398 |
15,148 |
17.5 |
Abertawe |
107,769 |
20,563 |
19.1 |
Castell-nedd Port Talbot |
64,375 |
15,719 |
24.4 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
64,232 |
12,552 |
19.5 |
Bro Morgannwg |
59,573 |
9,071 |
15.2 |
Rhondda Cynon Taf |
106,269 |
23,544 |
22.2 |
Merthyr Tudful |
26,790 |
5,890 |
22.0 |
Caerffili |
78,317 |
15,965 |
20.4 |
Blaenau Gwent |
32,215 |
8,426 |
26.2 |
Torfaen |
42,021 |
9,642 |
22.9 |
Sir Fynwy |
42,312 |
5,531 |
13.1 |
Casnewydd |
68,094 |
12,399 |
18.2 |
Caerdydd |
148,861 |
28,997 |
19.5 |
Cymru |
1,403,819 |
260,912 |
18.6 |
(a) Ffynhonnell: Ffurflenni Anheddau’r Dreth Gyngor (CT1) oddi wrth yr awdurdodau lleol
(b) Ffynhonnell: Datatank Connect
Tueddiadau a phatrymau
Yn ogystal â ffigurau cyffredinol am lwyth achosion a gostyngiadau, mae'r offeryn modelu a rhagamcanu hefyd yn rhoi gwybodaeth gryno am nodweddion amrywiol yr aelwydydd sy'n cael CTR.
Llwyth achosion cyffredinol
Mae Ffigur 1 yn dangos tuedd y llwyth achosion ers cyflwyno CTRS ym mis Ebrill 2013.
Rhwng Ebrill 2013 a dechrau Ebrill 2020 roedd y llwyth achosion wedi gostwng dros 50,000. Oherwydd effaith y pandemig, aeth y duedd hon i’r cyfeiriad arall yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud ac erbyn mis Awst 2020 cynyddodd y lefelau i 285,553 - yr uchaf ers mis Tachwedd 2017. Dechreuodd y llwyth achosion ostwng pan gafodd cyfyngiadau’r pandemig eu llacio ac ym mis Mawrth 2023, 260,912 oedd cyfanswm y llwyth achosion. Mae hyn yn ostyngiad o 19% o’i gymharu â mis Mai 2013.
Mae tabl A1 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau misol ar gyfer y llwyth achosion byw am y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 yn ôl awdurdod lleol. Mae’n rhoi dadansoddiad pellach yn ôl llwythi achosion oedran gweithio a phensiwn.
Llwyth achosion CTRS yn ôl oedran
Mae tabl 5 yn nodi canran yr aelwydydd sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor, yn ôl grŵp oedran ac awdurdod lleol.
- Llwyth achosion Caerdydd sydd â'r gyfran uchaf o aelwydydd oedran gweithio (68.3%) ac felly’r gyfran isaf o aelwydydd pensiynwyr (31.7%).
- Llwyth achosion gostyngiadau treth gyngor Gwynedd ac Ynys Môn sydd â'r cyfrannau uchaf o aelwydydd pensiynwyr (47%) a'r cyfrannau isaf o aelwydydd oedran gweithio (53%).
Awdurdodau lleol |
Llwyth Achosion Oedran Gweithio |
Llwyth Achosion Pensiynwyr |
---|---|---|
Caerdydd |
68.3% |
31.7% |
Casnewydd |
64.3% |
35.7% |
Torfaen |
63.5% |
36.5% |
Castell-nedd Port Talbot |
63.5% |
36.5% |
Rhondda Cynon Taf |
63.0% |
37.0% |
Pen-y-bont ar Ogwr |
62.5% |
37.5% |
Merthyr Tudful |
62.0% |
38.0% |
Abertawe |
61.4% |
38.6% |
Wrecsam |
61.2% |
38.8% |
Bro Morgannwg |
61.0% |
39.0% |
Blaenau Gwent |
61.0% |
39.0% |
Caerffili |
59.1% |
40.9% |
Ceredigion |
58.7% |
41.3% |
Sir Gaerfyrddin |
58.1% |
41.9% |
Sir Ddinbych |
57.6% |
42.4% |
Sir Fynwy |
56.3% |
43.7% |
Conwy |
55.7% |
44.3% |
Sir Benfro |
55.5% |
44.5% |
Powys |
55.0% |
45.0% |
Sir y Fflint |
54.1% |
45.9% |
Ynys Môn |
54.0% |
46.0% |
Gwynedd |
53.0% |
47.0% |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Mae tabl A2 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl grŵp oedran gan ddangos y newid canrannol rhwng mis Mawrth 2022 a mis Mawrth 2023.
Ym mis Mawrth 2023, roedd 158,386 o achosion oedran gweithio. Mae hyn yn ostyngiad o 5,647 o achosion o’i gymharu â mis Mawrth 2022 (3.4%). Bu gostyngiad yn llwyth achosion oedran gweithio pob awdurdod lleol. Abertawe a welodd y gostyngiad mwyaf (6.1%), a Sir Ddinbych a welodd y lleiaf (0.3%).
Roedd 102,526 o aelwydydd pensiynwyr yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023 o'i gymharu â 103,987 ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn ostyngiad o 1.4%. Wrecsam a Chastell-nedd Port Talbot a welodd y gostyngiad mwyaf (2.6%).
Ers 2013 mae llwyth achosion cyffredinol aelwydydd pensiynwyr ledled Cymru wedi gostwng 24%. Gallai hyn fod yn rhannol oherwydd newidiadau yn oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod. Cynyddwyd yr oedran pensiwn i 66 ar gyfer dynion a menywod ym mis Hydref 2020. Mae’n bosibl hefyd y bu gostyngiad yng nghyfran y pensiynwyr sy'n mynd yn eu blaenau i gael gostyngiad treth gyngor am resymau eraill. Gallai hyn gynnwys pensiynwyr newydd sydd ag incwm uwch sy'n fwy tebygol o fod yn berchen-feddianwyr ac yn llai tebygol o wneud cais am ostyngiad.
Llwyth achosion CTRS yn ôl gwerth y dyfarniad
Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, gall aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yng Nghymru fod â hawl i gael naill ai ddyfarniad llawn pan fo eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor yn gostwng i sero, neu ddyfarniad rhannol pan fo rhwymedigaeth arnynt o hyd i dalu rhan o'u bil treth gyngor.
Yng Nghymru ym mis Mawrth 2023, cafodd 80.8% (210,721) o aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor ddyfarniad llawn ac nid oedd rhwymedigaeth arnynt i dalu unrhyw dreth gyngor. Ar draws awdurdodau lleol mae hyn yn amrywio o 73.4% o’r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn Wrecsam i i 86.4% yng Nghasnewydd.
Awdurdodau lleol |
Cyfanswm nifer y dyfarniadau |
Dyfarniad llawn |
% |
---|---|---|---|
Ynys Môn |
5,557 |
4,401 |
79.2 |
Gwynedd |
8,449 |
6,723 |
79.6 |
Conwy |
9,742 |
7,758 |
79.6 |
Sir Ddinbych |
8,968 |
7,130 |
79.5 |
Sir y Fflint |
10,231 |
7,807 |
76.3 |
Wrecsam |
11,006 |
8,075 |
73.4 |
Powys |
9,065 |
6,799 |
75.0 |
Ceredigion |
5,278 |
4,121 |
78.1 |
Sir Benfro |
9,169 |
7,530 |
82.1 |
Sir Gaerfyrddin |
15,148 |
12,228 |
80.7 |
Abertawe |
20,563 |
17,493 |
85.1 |
Castell-nedd Port Talbot |
15,719 |
12,859 |
81.8 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
12,552 |
9,771 |
77.8 |
Bro Morgannwg |
9,071 |
7,185 |
79.2 |
Rhondda Cynon Taf |
23,544 |
19,834 |
84.2 |
Merthyr Tudful |
5,890 |
4,633 |
78.7 |
Caerffili |
15,965 |
13,621 |
85.3 |
Blaenau Gwent |
8,426 |
6,575 |
78.0 |
Torfaen |
9,642 |
7,514 |
77.9 |
Sir Fynwy |
5,531 |
4,153 |
75.1 |
Casnewydd |
12,399 |
10,710 |
86.4 |
Caerdydd |
28,997 |
23,801 |
82.1 |
Cymru |
260,912 |
210,721 |
80.8 |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Llwyth achosion CTRS yn ôl statws asesu
Os yw aelwyd yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant), cyfeirir ati fel 'achos wedi’i basbortio'. Y rheswm dros hyn yw bod yr aelwyd yn cael ei hasesu'n awtomatig ar gyfer gostyngiad yn y dreth gyngor.
Os nad yw aelwyd yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, neu os yw'n cael Credyd Cynhwysol, cyfeirir ati fel 'achos heb ei basbortio'. Y rheswm dros hyn yw y bydd angen i'r aelwyd wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae Ffigur 2 yn nodi cyfran yr aelwydydd CTRS yn ôl statws asesu ers mis Mawrth 2019 ac mae'n dangos mai:
- achosion wedi’u pasbortio oedd 44.4% o lwyth achosion cyffredinol gostyngiadau yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn cymharu â 61% ym mis Mawrth 2019
- achosion safonol heb eu pasbortio oedd 19.2% o achosion gostyngiadau yn y dreth gyngor yn 2023, gostyngiad o 0.6 pwynt canran ers mis Mawrth 2022
- aelwydydd a oedd yn cael Credyd Cynhwysol oedd 36.4% o lwyth achosion cyffredinol gostyngiadau yn y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023 o'i gymharu ag 11.7% yn 2019
Wrth i'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol barhau, bydd cyfran yr achosion wedi’u pasbortio ac achosion safonol heb eu pasbortio yn parhau i ostwng, tra bydd cyfran yr achosion Credyd Cynhwysol yn parhau i gynyddu.
Mae tabl 7 yn dangos cyfran yr aelwydydd CTRS yn ôl statws ar gyfer pob awdurdod lleol ym mis Mawrth 2023. Mae'n dangos y canlynol:
- yn Wrecsam mae bron 43% o’r aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn cael Credyd Cynhwysol, gyda 37% o’r achosion yn cael budd-daliadau wedi’u pasbortio
- i'r gwrthwyneb, yng Nghaerffili, mae bron 50% o’r aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn cael budd-daliadau wedi’u pasbortio, gyda dim ond 32% yn cael Credyd Cynhwysol
Awdurdodau lleol |
Heb eu pasbortio |
Wedi’u pasbortio |
Credyd Cynhwysol |
---|---|---|---|
Wrecsam |
20.2% |
37.1% |
42.7% |
Torfaen |
19.5% |
38.1% |
42.4% |
Caerdydd |
17.2% |
41.9% |
40.9% |
Casnewydd |
15.7% |
44.5% |
39.8% |
Merthyr Tudful |
16.2% |
45.0% |
38.8% |
Castell-nedd Port Talbot |
18.7% |
43.3% |
37.9% |
Pen-y-bont ar Ogwr |
20.1% |
42.6% |
37.3% |
Blaenau Gwent |
20.0% |
43.6% |
36.4% |
Rhondda Cynon Taf |
17.6% |
46.7% |
35.7% |
Sir y Fflint |
24.6% |
40.1% |
35.3% |
Abertawe |
16.5% |
48.3% |
35.3% |
Sir Ddinbych |
20.6% |
44.3% |
35.2% |
Bro Morgannwg |
20.8% |
44.1% |
35.2% |
Conwy |
20.0% |
45.1% |
34.9% |
Sir Fynwy |
23.0% |
42.3% |
34.7% |
Powys |
23.1% |
42.5% |
34.4% |
Ceredigion |
20.1% |
46.0% |
33.8% |
Sir Gaerfyrddin |
20.2% |
47.1% |
32.7% |
Gwynedd |
20.8% |
46.5% |
32.6% |
Sir Benfro |
20.4% |
47.4% |
32.2% |
Ynys Môn |
22.0% |
46.1% |
32.0% |
Caerffili |
18.1% |
50.0% |
32.0% |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Newidiadau i’r llwyth achosion yn ôl statws incwm
Yn Ffigur 3 gwelir y newid mewn llwyth achosion yn ôl statws incwm rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2023. Mae’n dangos y canlynol:
- mae achosion wedi’u pasbortio (JSA, ESA, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn) wedi gostwng 54,544 ers 2019
- bu gostyngiad o 25,936 (34%) yn nifer yr achosion safonol heb eu pasbortio
- i'r gwrthwyneb, 94,963 oedd nifer yr achosion Credyd Cynhwysol ym mis Mawrth 2023, o'i gymharu â 32,773 ym mis Mawrth 2019, sef cynnydd o 190%
Y budd-daliadau pasbortio mwyaf cyffredin oedd ESA a Chredyd Pensiwn a oedd yn cyfrif am ychydig o dan hanner yr holl achosion o ostyngiadau yn y dreth gyngor ledled Cymru.
Mae tabl A3 yn Atodiad A yn rhoi'r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl statws incwm ac awdurdod lleol ar gyfer Mawrth 2023.
Effaith Credyd Cynhwysol ar CTRS
Erbyn mis Rhagfyr 2024 bydd Credyd Cynhwysol wedi disodli'r chwe budd-dal prawf modd oedran gweithio canlynol: Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA), Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai, Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith.
Rhaid i aelwydydd sy’n cael Credyd Cynhwysol wneud cais ar wahân am ostyngiad yn y dreth gyngor. Mae hyn yn wahanol i’r sefyllfa flaenorol lle byddent efallai wedi cael eu hasesu ar gyfer gostyngiad fel rhan o’r broses o gael eu budd-daliadau pasbortio. Yn yr achosion hyn, doedd dim angen i aelwydydd cymwys fod yn rhagweithiol o ran gwneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor.
Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod y newid hwn yn y dull gweithredu yn effeithio ar y llwyth achosion cyffredinol ar gyfer gostyngiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru, wrth i aelwydydd a aeth drosodd i’r system Credyd Cynhwysol adael system ostyngiadau’r dreth gyngor oherwydd diffyg ymwybyddiaeth am y dull newydd. Mae Credyd Cynhwysol hefyd yn effeithio ar gymhwysedd aelwydydd i gael gostyngiad yn y dreth gyngor, er enghraifft, os oes gan aelwyd incwm uwch yn sgil Credyd Cynhwysol o’i gymharu â’i hincwm o’r blaen, efallai y bydd yn cael llai o ostyngiad yn y dreth gyngor neu efallai na fydd yn bodloni’r meini prawf o gwbl ar gyfer cael gostyngiad.
Gwnaethom gomisiynu asesiad manwl o effaith Credyd Cynhwysol ar y Cynllun Gostyngiadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Terfynol gan Policy in Practice ym mis Gorffennaf 2020.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod Credyd Cynhwysol yn newid sylweddol i’r system cymorth lles ar gyfer aelwydydd incwm isel. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth bod symud i Gredyd Cynhwysol yn cael effaith ar wytnwch aelwydydd a lefelau dyled preswylwyr incwm isel yng Nghymru.
Llwyth achosion CTRS yn ôl math o deulu
- Y categori mwyaf yw aelwydydd un oedolyn heb ddibynyddion. Roedd yr aelwydydd hyn, sef 162,343, yn cyfrif am 62.2% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2023.
- Roedd nifer yr aelwydydd a oedd yn cynnwys cwpl a phlant dibynnol, sef 16,709 ym mis Mawrth 2023, yn cyfrif am 6.4% o gyfanswm yr achosion.
- Roedd nifer yr aelwydydd a oedd yn cynnwys cwpl heb ddibynyddion, sef 35,579, yn cyfrif am 13.6% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2023.
- Roedd nifer yr aelwydydd un rhiant, sef 46,281, yn cyfrif am 17.7% o gyfanswm yr achosion ym mis Mawrth 2023.
Mae tabl A4 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer y llwyth achosion gwirioneddol yn ôl math o deulu ac awdurdod lleol ar gyfer mis Mawrth 2023.
Llwyth achosion CTRS yn ôl band y dreth gyngor
Rhoddir pob annedd drethadwy mewn band treth gyngor yn dibynnu ar werth yr eiddo ar y farchnad ar 1 Ebrill 2003. Eiddo band A sydd â’r cyfraddau isaf o'r dreth gyngor ac eiddo band I sydd â’r cyfraddau uchaf (mae Band A- yn adlewyrchu cyfradd ostyngol ar gyfer eiddo a addaswyd ar gyfer pobl anabl).
Yng Nghymru, roedd 84.9% o'r aelwydydd a oedd yn cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn byw mewn eiddo ym mandiau A- i C ym mis Mawrth 2023. Gellir priodoli hyn yn rhannol i ddosbarthiad cyffredinol anheddau ar draws bandiau'r dreth gyngor yng Nghymru, gyda bron dri chwarter yr holl anheddau trethadwy yng Nghymru ym mandiau A i D.
Yn nhabl 8 gwelir canran llwyth achosion cyffredinol pob awdurdod lleol yn ôl bandiau'r dreth gyngor A i C, D ac E i I. Mae'n dangos y canlynol:
- ym Mlaenau Gwent, roedd 98.2% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor mewn eiddo bandiau A i C, gyda dim ond 49 o aelwydydd (0.6%) ym mandiau E i I
- ar y llaw arall, yn Sir Fynwy roedd 61.4% o aelwydydd sy’n cael gostyngiad yn y dreth gyngor mewn eiddo bandiau A i C, a 15.2% ym mandiau E i I
Awdurdodau lleol |
% ym |
% ym |
% ym |
---|---|---|---|
Blaenau Gwent |
98.2 |
1.2 |
0.6 |
Merthyr Tudful |
97.4 |
1.6 |
1.0 |
Rhondda Cynon Taf |
96.2 |
2.3 |
1.5 |
Castell-nedd Port Talbot |
95.4 |
3.0 |
1.6 |
Torfaen |
94.4 |
3.2 |
2.4 |
Caerffili |
94.1 |
4.2 |
1.7 |
Abertawe |
88.5 |
7.3 |
4.2 |
Casnewydd |
87.6 |
8.2 |
4.3 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
87.4 |
7.8 |
4.8 |
Gwynedd |
87.3 |
7.3 |
5.4 |
Wrecsam |
86.4 |
7.7 |
5.9 |
Sir Gaerfyrddin |
85.7 |
7.5 |
6.7 |
Sir Ddinbych |
84.7 |
9.3 |
6.0 |
Ynys Môn |
84.1 |
9.0 |
6.9 |
Sir y Fflint |
81.8 |
9.9 |
8.3 |
Conwy |
81.5 |
11.8 |
6.7 |
Sir Benfro |
81.1 |
10.4 |
8.5 |
Powys |
76.7 |
10.0 |
13.3 |
Bro Morgannwg |
71.3 |
16.8 |
11.9 |
Ceredigion |
70.4 |
15.7 |
13.9 |
Caerdydd |
67.2 |
19.8 |
12.9 |
Sir Fynwy |
61.4 |
23.4 |
15.2 |
Ffynhonnell: Datatank Connect
Mae Ffigur 6 yn dangos cyfran yr holl anheddau trethadwy sy'n cael gostyngiad yn y dreth gyngor yn ôl band y dreth gyngor. Band A sydd â'r gyfran uchaf o anheddau sy'n cael gostyngiad, sef 40.7%. Bandiau E i I sydd â’r gyfran isaf o anheddau sy'n cael gostyngiad, sef 4.3%.
Mae tabl A5 yn Atodiad A yn rhoi’r ffigurau ar gyfer llwyth achosion gwirioneddol y Cynllun Gostyngiadau yn ôl awdurdod lleol a band y dreth gyngor ym mis Mawrth 2023.
Meysydd disgresiwn lleol
O dan Reoliadau’r CTRS, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru fabwysiadu ei gynllun ei hun ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol erbyn 31 Ionawr. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys meysydd disgresiwn lleol, er mwyn i awdurdodau allu ystyried anghenion a blaenoriaethau eu hardal leol. Aeth pob awdurdod ati i fabwysiadu cynllun, ond petai un ohonynt heb wneud hynny, byddai’r cynllun diofyn wedi cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau bod aelwydydd cymwys yn dal i gael cymorth ariannol i gyflawni eu rhwymedigaeth i dalu’r dreth gyngor.
Dyma’r meysydd disgresiwn lleol lle gall awdurdod lleol ddewis cyflwyno darpariaethau mwy hael na’r gofynion sylfaenol yn y rheoliadau:
- cyfnod gostyngiad estynedig: gall awdurdodau lleol gynyddu’r cyfnod lle bydd gan ymgeiswyr hawl i barhau i gael gostyngiad mewn rhai amgylchiadau, y tu hwnt i’r cyfnod safonol o bedair wythnos.
- Ôl-ddyddio ceisiadau: gall awdurdodau lleol ôl-ddyddio ceisiadau am ostyngiadau y tu hwnt i’r cyfnod safonol o dri mis.
- pensiwn Anabledd Rhyfel a Phensiwn Rhyfel Gwraig Weddw: gall awdurdodau lleol ddiystyru mwy na’r swm statudol o £10 a gafwyd mewn perthynas â’r pensiynau hyn wrth gyfrifo incwm.
Ceir manylion am gynllun pob awdurdod lleol ar eu gwefannau.
Apeliadau
Tribiwnlys Prisio Cymru
Ers cyflwyno’r Cynllun Gostyngiadau ar 1 Ebrill 2013, Tribiwnlys Prisio Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am wrando ar apeliadau sy’n deillio o’r penderfyniadau ynghylch y Cynllun Gostyngiadau. Rhaid i unigolion sy’n talu’r dreth gyngor gyflwyno cwyn yn uniongyrchol i’w hawdurdod lleol cyn gallu cofrestru apêl.
Mae tabl 6 yn dangos canlyniad yr apeliadau ynglŷn â’r Cynllun Gostyngiadau a gyflwynwyd i Dribiwnlys Prisio Cymru yn y flwyddyn ariannol o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023. Daeth 19 apêl i law a chafodd 33 eu dwyn ymlaen o'r flwyddyn ariannol flaenorol.
Cafodd 11 achos eu setlo cyn gwrandawiad panel y tribiwnlys. Fel arfer, mae canlyniadau’r achosion hyn yn mynd o blaid y sawl sy’n apelio, gan fod awdurdod wedi ailystyried ei benderfyniad cychwynnol ar ôl cael tystiolaeth ychwanegol ynghylch hawliad y sawl sy’n apelio. Ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd 23 o achosion heb eu cwblhau eto.
Apeliadau a ddaeth i law |
Wedi'u dwyn ymlaen o'r cyfnod blaenorol |
Wedi’u setlo cyn gwrandawiad y tribiwnlys |
Wedi’u penderfynu gan y tribiwnlys |
Wedi’u dileu |
Wedi’u dwyn ymlaen i'r cyfnod nesaf |
19 |
33 |
11 |
18 |
0 |
23 |