Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru
Mae'r adroddiad hwn am Ddeiliadaeth Llety yn rhoi gwybodaeth am lefelau deiliadaeth llety â gwasanaeth a llety hunanddarpar, yn ogystal â hosteli a safleoedd gwersylla/carafanio er nad oes data ar gael ar gyfer y sector gwersylla a charafanau yn yr adroddiad hwn gan fod y categori hwn yn amrywio yn ôl tymor. Ceir data trydydd parti hefyd gan Transparent (gosodiadau tymor byr), ac STR Global (cadwyni gwestai mawr).
Sector â gwasanaeth
- Cododd y ddeiliadaeth yn gyson yn ystod Chwarter 1. , a 59% oedd y ddeiliadaeth yn gyffredinol ym mis Mawrth. Gogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru ar y blaen o ran deiliadaeth ystafelloedd.
- Mae deiliadaeth uwch mewn eiddo mwy, ac mae gwestai yn gwneud yn llawer gwell na thai gwestai / gwely a brecwast
- Mae data trydydd parti STR yn dangos mai gwestai 50 - 100 ystafell sy'n gwneud orau o ran deiliadaeth.
- Mae data STR yn dangos cynnydd cyson mewn deiliadaeth, ac mae cymariaethau â 2022 hefyd yn dangos cynnydd o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer pob mis.
- Cyrhaeddodd Cyfradd Ddyddiol Cyfartalog yn uwch flwyddyn ar ôl blwyddyn ar gyfer Ionawr a Chwefror, ond gostyngodd yn is na lefelau 2022 ym mis Mawrth. Mae RevPAR yn dangos patrwm tebyg.
Sector hunanddarpar
- Cododd y ddeiliadaeth fesul uned yn gyson bob mis (55% ym mis Mawrth) ond gostyngodd nifer y gwelyau ryw ychydig (roedd ar ei uchaf ym mis Chwefror ar 45%, a gostyngodd i 40% ym mis Mawrth). Yn rhanbarthol, roedd deiliadaeth yn Ne-orllewin Cymru ymhell ar y blaen i Ogledd, Canolbarth a De-ddwyrain Cymru.
- Llwyddodd busnesau sy'n rhan o asiantaeth neu grŵp i lenwi 64% o'u hystafelloedd - sy'n sylweddol uwch na busnesau annibynnol (27%).
- Mae data trydydd parti Transparent yn dangos bod deiliadaeth mewn mannau gosod tymor byr yn amrywio ryw ychydig o fis i fis a'i bod yn gyson is na lefelau 2022 am yr un cyfnod ar draws pob rhanbarth.
Sector hosteli
- Dangosodd y sector hosteli gynnydd o fis i fis o ran deiliadaeth (41% ym mis Mawrth) a nodwyd yma lefelau ychydig yn is, ond tebyg i sectorau eraill.
Sector gwersylla a charafanau
- Gan eu bod ar gau ar adegau penodol, ni ofynnwyd i safleoedd gwersylla a charafanau am deiliadaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Adroddiadau
Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, Ionawr i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 873 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.