Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i wybod mwy am sut gall myfyrwyr a graddedigion rhyngwladol weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg 

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogi myfyrwyr rhyngwladol. Mae buddion amrywiol i ddarparwr gofal cymdeithasol wrth recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Gallant gyflwyno sgiliau iaith, amrywiaeth ddiwylliannol, cydnerthedd a llawer mwy i dîm. Fodd bynnag, nid yw recriwtio myfyrwyr a graddedigion yn ateb cyflym i broblemau staffio. Mae'n ymrwymiad difrifol sy'n gosod cyfrifoldebau sylweddol ar y cyflogwr.

Mae'r adnodd hwn yn canolbwyntio ar fyfyrwyr a graddedigion tramor sydd:

  • eisoes yn y Deyrnas Unedig ar fisa myfyriwr
  • yn dymuno gweithio fel gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol, neu nyrsys yn y maes gofal cymdeithasol ochr yn ochr ag astudio ar gyfer eu gradd

Nid yw mewnfudo yn fater datganoledig ac mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdano. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r Swyddfa Gartref ar effeithiau polisi mewnfudo yng Nghymru.

Egwyddorion sylfaenol 

Rhaid i bawb sy’n dod o dramor ac sy’n cael eu recriwtio fodloni meini prawf cymhwysedd eu fisa dewisol. Mae angen iddynt feddu ar y sgiliau a'r cymwysterau cywir ar gyfer y rôl. Rhaid i'r cyflogwr sicrhau bod recriwtiaid yn addas i weithio yn y maes gofal cymdeithasol. Rhaid iddynt bob amser ddilyn rheoliadau ac arferion recriwtio diogel.

I fod yn barod ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol, mae'n rhaid i gyflogwyr feddu ar y canlynol:

  • swyddi a ariennir sydd o fewn y terfynau amser ar gyfer gweithio fel y nodir isod
  • y gallu cywir ar gael i roi cefnogaeth i’r myfyriwr tramor
  • ymwybyddiaeth o'r ddyletswydd gofal barhaus tuag at y bobl maen nhw'n eu recriwtio

Anghenion a phrofiad pobl sy'n derbyn gofal yw'r flaenoriaeth fwyaf o hyd. Mae eu diogelwch a'u lles yn hollbwysig.

Gofynion ar gyfer recriwtio gweithwyr ar fisa myfyriwr  

Bydd myfyriwr a ganiateir yn y DU ar fisa myfyriwr (gov.uk) yn cael cymeradwyaeth glir i weithio yn ei basbort neu yn ei Drwydded Breswylio Fiometrig. Mae hyn yn nodi eu caniatâd i weithio a nifer yr oriau gweithio a ganiateir yn ystod y tymor fel 10 neu 20 awr yr wythnos. Yn ystod gwyliau, gall myfyrwyr weithio'n llawn amser. I gael eglurder ar ganiatâd y myfyriwr i weithio, gan gynnwys faint o oriau y gall weithio, dylai cyflogwyr wirio ei hawl i weithio ar-lein (gov.uk). Ni chaniateir i bobl ar fisa ymwelydd neu fisa myfyriwr tymor byr weithio. 

Ni chaniateir i fyfyrwyr fod mewn swydd lawn amser barhaol. Hynny yw, oni bai eu bod yn gwneud cais i newid i'r llwybr fisa Gweithiwr Crefftus ar ôl cwblhau astudiaeth lefel gradd yn y DU. Ni chaniateir iddynt fod yn hunangyflogedig chwaith.

Nid oes angen trwydded noddi na thystysgrif noddi ar gyflogwyr i gyflogi rhywun sydd ar fisa Myfyriwr.

Mae'r union gyfnod y gall myfyriwr aros yn y DU yn dibynnu ar hyd ei gwrs a'r hyn y mae'n ei astudio, a hyd yr astudiaeth y mae eisoes wedi'i chwblhau. Os yw'n 18 oed neu'n hŷn a bod ei gwrs ar lefel gradd, fel arfer gall aros yn y DU am hyd at 3 blynedd, neu hyd at 5 mlynedd ar gyfer Doethuriaeth. Os yw'n is na lefel gradd, fel arfer gall aros yn y DU am hyd at 2 flynedd.

Treth ac yswiriant gwladol

Rhaid i Weithwyr ar fisa Myfyriwr wneud cais am Rif Yswiriant Gwladol. Bydd Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu'n awtomatig o'u cyflogau. Os yw myfyriwr yn ennill mwy na swm penodol, gall ei incwm fod yn drethadwy. Ewch i wefan Cyllid a Thollau EF am ragor o wybodaeth.

Gwiriadau hawl i weithio

Rhaid i bob cyflogwr wirio bod gan y person y mae'n bwriadu ei recriwtio 'hawl i weithio' yn y DU. Mae gan wefan Llywodraeth y DU ganllawiau ar gweld hawl i weithio ymgeisydd y swydd. Wrth gynnal gwiriad hawl i weithio mae angen i'r cyflogwr sicrhau ei fod yn deall unrhyw gyfyngiadau fisa a allai fod gan y myfyriwr. Mae angen i gyflogwyr sicrhau nad yw'r gwaith yn ymestyn y tu hwnt i hyd y fisa a hefyd bod y fisa cywir ar waith cyn i'r swydd ddechrau.  

Cydymffurfiaeth

Mae'n hanfodol i gyflogwyr recriwtiaid tramor gadw'r dogfennau sydd eu hangen, a'r cofnodion rheolaidd sydd eu hangen ar weithwyr gofal cymdeithasol newydd hefyd. Er enghraifft, rhaid i gyflogwyr nodi amseroedd tymor a gwyliau myfyrwyr sydd â chyfyngiadau fisa ar unrhyw waith yn ystod y tymor ar gyfer pan fyddant yn gweithio ac yn astudio yma. Dylent nodi dyddiad dod i ben fisa'r myfyriwr yn y dyddiadur hefyd er mwyn sicrhau nad ydynt yn parhau i'w gyflogi os nad oes ganddo ganiatâd i fod yn y DU mwyach.

Bydd angen i gyflogwyr sicrhau hefyd bod yr oriau y mae'r myfyriwr yn gweithio bob wythnos gan gynnwys gwaith cyflogedig neu wirfoddol arall yn is na therfyn y fisa. Mae Adran Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) yn cymryd yr amodau gwaith sydd ar fisâu myfyrwyr o ddifrif. Gallant gymryd camau gorfodi yn erbyn cyflogwyr a myfyrwyr sy'n torri'r rheolau. Er enghraifft, gall myfyrwyr sy'n gweithio gormod neu'n gwneud gwaith gwaharddedig wynebu cael eu halltudio.

Gallai cyflogwyr myfyrwyr tramor sy'n cael eu dal yn gweithio'n anghyfreithlon wynebu cosbau ariannol a throseddol.

Gofynion ar gyfer recriwtio gweithwyr ar fisa i Raddedigion 

Gyda fisa graddedigion, gall myfyrwyr rhyngwladol weithio yn y DU, neu chwilio am waith yn y DU, ar ôl cwblhau eu hastudiaethau. Mae fisa graddedigion yn para am 2 flynedd ar ôl cwblhau cwrs yn llwyddiannus yn y DU. Gyda PhD neu gymhwyster doethurol arall, bydd yn para am 3 blynedd. Gall y gwaith fod mewn unrhyw sector ac ar unrhyw lefel heb unrhyw ofynion isafswm cyflog. Mae'r Llwybr Fisa Graddedigion yn llwybr heb ei noddi, sy'n golygu nad oes angen i ymgeiswyr gael cynnig swydd na Thystysgrif Nawdd i fod yn gymwys. Mae'r costau presennol ar gyfer y fisa a'r gordal gofal iechyd i’w gweld ar wefan Llywodraeth y DU. Rhaid talu’r ddau yn wrth wneud cais. Y myfyriwr sy’n newid i’r llwybr graddedigion fyddai’n gyfrifol am dalu’r costau hyn. Bydd y fisa yn dechrau o'r diwrnod y caiff y cais ei gymeradwyo.

Rhaid i ymgeiswyr am fisa i raddedigion fodloni'r holl feini prawf canlynol:

  • bod yn bresennol yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd
  • bod â fisa myfyriwr cyfredol 
  • bod wedi astudio gradd baglor, ôl-radd neu gwrs cymwys yn y DU am isafswm cyfnod ar fisa Myfyriwr neu fisa myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol) 
  • bod wedi cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus fel y cadarnhawyd gan eu darparwr addysg i'r Swyddfa Gartref

Gwirio cymhwystra cwrs ar wefan Llywodraeth y DU.

Ni ellir ymestyn fisa graddedigion. Os yw gweithiwr ar fisa graddedigion eisiau aros yn hirach yn y DU, dylai newid i fisa gwahanol fel fisa gweithwyr crefftus. Dylai graddedigion sydd eisoes yn gweithio yn y maes iechyd neu ofal cymdeithasol ac sy'n dymuno aros yn y wlad wirio eu cymhwystra ar gyfer y fisa Gweithwyr Iechyd a Gofal (HCWV). Mae'r HCWV yn fath o fisa gweithwyr crefftus a'i nod yw recriwtio gweithwyr tramor i'r sector gofal cymdeithasol. Ni chodir y gordal iechyd mewnfudo ar gyfer y fisa hon. Mae'r HCWV yn gofyn am nawdd gan y cyflogwr ac mae hynny'n golygu costau i’r cyflogwr. Mae'r rhain yn cynnwys y ffi sgiliau mewnfudo a'r dystysgrif nawdd.

Gwiriadau cyn cyflogi 

Rhaid i ddarparwyr gymhwyso'r un broses ac egwyddorion recriwtio diogel ar gyfer staff o dramor ag y byddent ar gyfer staff a recriwtiwyd yn y DU. 

Ni all y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gael mynediad at gofnodion troseddol a gedwir dramor. Eto i gyd, dylai cyflogwyr barhau i gynnal gwiriadau DBS mewn perthynas â darpar weithwyr rhag ofn:

  • bod person wedi'i wahardd
  • bod gan berson gofnod troseddol yn y Deyrnas Unedig
  • bod person yn dod o fan lle gall y DBS rannu data

Os ydych yn defnyddio cwmni ambarél i wneud gwiriadau DBS sy'n dweud bod gwiriad DBS dim ond yn bosibl ar ôl i'r gweithiwr gyrraedd y DU, dylech herio'r cwmni. Os na fydd y cwmni'n newid ei sefyllfa, ystyriwch ddefnyddio cwmni gwahanol.

Os nad yw'n bresennol, rhaid i gyflogwyr gofal cymdeithasol gysylltu â'r llysgenhadaeth berthnasol ar gyfer cofnodion troseddol i fodloni rheoliadau. Mae rhagor o fanylion ar gael yn adran y DBS ar wefan Llywodraeth y DU. Mae'n bwysig bod cyflogwyr yn gwirio bod gan weithwyr o dramor y trwyddedau cywir i weithio mewn lleoliad gofal yn y DU. Mae hyn yn annibynnol ar ofynion y cais am fisa. Gall cyflogwyr fod yn torri'r gyfraith os nad ydynt yn sicrhau bod yr holl ddogfennau cywir gan weithwyr rhyngwladol. Mae enghreifftiau o ddogfennau adnabod derbyniol wedi’u rhestru isod.

Recriwtio myfyrwyr a graddedigion rhyngwladol yn llwyddiannus

Yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau llwyddiant yw cefnogaeth ac ymdrech gan y cyflogwr i helpu myfyrwyr i gynefino â’u rôl newydd. Mae'n helpu i fod yn rhagweithiol a meddwl sut i gefnogi rhywun sy'n dechrau gweithio mewn swydd newydd. Mae'r hyn y gallai'r cyflogwr fod am ei ddarparu yn dibynnu ar nifer o ffactorau a allai gynnwys:

  • lleoliad
  • trafnidiaeth
  • llety
  • os oes gan y myfyriwr ffrindiau neu deulu yma eisoes

Yr hyn sydd yr un mor bwysig yw paratoi'r tîm presennol, y bobl sy'n derbyn gofal, a'u teuluoedd. 

Gallu 

Mae angen y gallu ar y sefydliad i reoli prosesau recriwtio, hyfforddi ac integreiddio gweithwyr tramor. Gall hon fod yn wers bwysig i'r dyfodol. Gall cymorth gan gymheiriaid neu ofyn am gyngor gan rywun sydd wedi recriwtio gweithwyr ar fisa myfyriwr fod yn ddefnyddiol. 

Costau ac amseru 

Mae'r canllaw hwn ar gyfer darparwyr sy'n ystyried cyflogi myfyrwyr a graddedigion tramor sydd eisoes yn y DU. Felly mae'r costau a'r amseriadau yn debyg i broses recriwtio'r DU.

Cefnogi'r broses o recriwtio dramor 

Mae cael cyswllt rheolaidd â'r recriwtiaid yn ystod y broses gynefino yn bwysig. Mae cyswllt agos yn helpu i sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac am bwy sydd angen gwneud beth. Mae'n rhoi cyfle hefyd i godi unrhyw faterion a'u rheoli'n gynnar. Mae cyswllt rheolaidd â rheolwyr llinell yn y dyddiau cynnar yn ogystal â goruchwylio wedi'i gynllunio dros gyfnod y gyflogaeth yn hanfodol. Mae enghreifftiau o fathau eraill o gefnogaeth yn cynnwys:

  • cyfarfod rhithwir neu ddulliau eraill o gysylltu staff presennol a staff newydd
  • darparu pecyn croeso gyda gwybodaeth am y sefydliad, hyfforddiant, cofrestru ac yn y blaen
  • helpu i wneud cais am rif yswiriant gwladol, cofrestru â meddyg teulu/deintydd, agor cyfrif banc
  • darparu gwybodaeth a/neu ganllaw lleol i ymgyfarwyddo'r recriwtiad â chysylltiadau trafnidiaeth 
  • trefnu cynllun cyfeillio rhwng staff presennol a recriwtiaid tramor newydd (mae o gymorth os yw'r cyfaill yn rhywun sydd â diddordeb cyffredin)
  • darparu gwybodaeth am rwydweithiau cymorth ethnig, safleoedd crefyddol a chyfleusterau

Paratoi staff a'r sefydliad 

Efallai y bydd cyflogwyr yn sylwi bod gan staff presennol deimladau cymysg am recriwtio myfyrwyr neu raddedigion rhyngwladol. Mae llawer o ddarparwyr yn paratoi eu timau i'w cael yn barod i groesawu recriwtiaid tramor. Mae rhai enghreifftiau i gefnogi recriwtiaid tramor eisoes wedi'u crybwyll yn y bennod uchod. Er enghraifft, dylai/gall cyflogwyr wneud y canlynol: 

  • annog staff i fod â meddwl agored ac amlygu'r manteision o gael gweithlu mwy amrywiol
  • treulio amser yn gwneud yr ymchwil, darllen a deall y canllawiau 
  • cynllunio ymlaen llaw a chaniatáu amser
  • sicrhau bod recriwtiaid yn barod a bod popeth wedi'i drefnu fel DBS, gwiriadau penodi eraill, a llety
  • cynnwys staff wrth ddatblygu pecynnau croeso a chanllawiau ar gyfer recriwtiaid newydd
  • buddsoddi amser yn gofalu am y recriwtiaid pan fyddant yn dechrau gweithio a'u helpu i gynefino

Paratoi pobl sy'n derbyn gwasanaethau gennych a'u teuluoedd 

Mewn rhai achosion, nid yw derbynwyr gofal a/neu eu teuluoedd wedi derbyn amrywiaeth ddiwylliannol neu ethnig staff gofal. Mae'n bwysig fel cyflogwr eich bod yn rhagweithiol ac yn gefnogol. Dyma enghreifftiau:

  • dweud wrth y gweithwyr sut i ymateb i wahaniaethu gyda rheolau a mesurau ar gyfer cydraddoldeb yn y gweithle
  • hysbysu derbynwyr gofal a'u teuluoedd o bolisïau perthnasol fel dim goddefgarwch tuag at hiliaeth
  • cyflwyno gweithwyr newydd i dderbynwyr gofal mewn ffordd briodol 
  • briffio gweithwyr yn drylwyr fel y gallant er enghraifft baratoi sgwrs am hoff bwnc gyda'r derbynnydd gofal

Llety a thrafnidiaeth   

Bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr lety yn barod. Gall fod yn anodd iddynt gyrraedd eu gweithle, oherwydd efallai nad oes ganddynt gar (na thrwydded yrru) a’u bod yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, lifftiau neu fynd ar feic. Gall hyn fod yn anodd neu'n anniogel, yn enwedig os ydynt yn gwneud sifftiau nos. Mae'r sefyllfa'n amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. Fodd bynnag, mae'n syniad da i gyflogwr wybod sefyllfa'r myfyriwr unigol er mwyn gallu ystyried hynny wrth greu rhestr ddyletswyddau er enghraifft. 

Arferion recriwtio moesegol 

Mae'r cod ymarfer ar gyfer recriwtio rhyngwladol yn effeithio ar gyflogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol tramor yn y DU. Mae egwyddorion y cod yn berthnasol i fyfyrwyr a graddedigion rhyngwladol hyd yn oed os ydynt eisoes yn y DU. Mae'n bwysig i gyflogwr ymgyfarwyddo â’r cod. Mae safonau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer recriwtio rhyngwladol moesegol yn sail i'r cod.

Mae'r meincnodau arferion gorau ar gyfer recriwtio dramor yn cynnwys y canlynol:

  • mae lefel briodol o Saesneg gan yr holl recriwtiaid 
  • mae’r gwiriadau cyn cyflogaeth cywir gan ymgeiswyr, gan gynnwys ar gyfer euogfarnau neu rybuddion, yn unol â chyfraith y DU
  • mae fisa dilys gan ymgeiswyr sy'n cael cynnig swydd 
  • mae mynediad at gymorth a phroses gynefino briodol ar gael i’r holl recriwtiaid 

Ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern 

Caethwasiaeth fodern yw cam fanteisio’n anghyfreithlon ar bobl er budd personol neu fasnachol. Mae ffoaduriaid a phobl eraill sydd wedi'u dadleoli yn fwy agored i arferion caethwasiaeth fodern.

Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod yn unrhyw oedran, rhywedd, cenedligrwydd neu ethnigrwydd. Weithiau maent wedi cael eu twyllo neu wedi cael eu bygwth gan eu gorfodi i weithio. Efallai eu bod yn teimlo na allant adael na rhoi gwybod am drosedd oherwydd eu bod ofn neu oherwydd eu bod yn cael eu bygwth. Efallai nad ydynt yn credu eu bod yn ddioddefwr.

Bu achosion diweddar o gaethwasiaeth fodern yn sector gofal cymdeithasol Cymru. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r arwyddion. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am gaethwasiaeth fodern a sut i roi gwybod am bryderon.

Gallwch gael cyngor am eich cyfrifoldebau fel cyflogwr gan Acas. Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo gwaith teg ac wedi llunio cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi.

Rheoleiddio a chofrestru 

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r rheolau a wnaed oddi tani yn berthnasol i bobl sy'n darparu gofal a chymorth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr a myfyrwyr rhyngwladol. Mae gofynion penodol o ran bod yn ffit i weithio ar gyfer darparwr gofal cymdeithasol cofrestredig. Gweler Rhan 10 y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 ('y Rheoliadau').

Mae cofrestru yn golygu myfyrwyr sy'n ymuno â gweithlu proffesiynol. Mae'r angen i gofrestru yn dibynnu ar y rôl, boed ydyw ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol, neu nyrsys ym maes gofal cymdeithasol. Mae'n rhaid i berson gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) os yw'n cael ei gyflogi i ddarparu gofal a chymorth mewn:

  • cartref gofal i blant neu i oedolion
  • llety diogel
  • gwasanaeth cymorth yn y cartref
  • gwasanaeth preswyl i deuluoedd

Mae myfyrwyr sy'n dymuno gweithio fel gweithwyr cymdeithasol angen cofrestru â GCC cyn dechrau gweithio yng Nghymru. Mae hyn yn ychwanegol at eu gofynion fisa. Rhaid i geisiadau i gofrestru gael eu cymeradwyo. Mae hyn er mwyn cadarnhau nad oes unrhyw resymau pam na ddylai'r person fod ar y gofrestr. Gall person o restr o bobl gymeradwy yn y sefydliad gymeradwyo'r cais. Mae GCC yn defnyddio dull cefnogol o ymdrin ag ymgeiswyr rhyngwladol a'u cyflogwyr. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm cofrestru ar ymholiadau@gofalcymdeithasol.cymru.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gweithio fel nyrs ac sydd wedi hyfforddi dramor gofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Mae hyn yn ychwanegol at eu gofynion fisa.

Rheoli risg 

Mae'n ddyletswydd ar gyflogwr i asesu a rheoli risgiau a nodwyd wrth recriwtio. Rhaid iddynt sicrhau bod pobl yn y gwasanaeth yn cael eu diogelu a'u gwarchod. Mae hyn yn wir p’un a oes gan y myfyriwr gofnod troseddol ai peidio. Nid yw bod â chofnod troseddol o reidrwydd yn golygu y bydd y person yn peri risg i bobl. Nid yw absenoldeb cofnod troseddol (neu anallu i gael gafael ar un) yn golygu nad yw person yn peri risg. 

Mae'n bwysig cynnal pob gwiriad cyn cyflogaeth. Gall cofnodi'r gwiriadau mewn asesiad risg cyn cyflogaeth fod yn ddefnyddiol. Gallai'r asesiad hwn ystyried agweddau fel:

  • unrhyw ddatganiadau y gallai'r unigolyn fod wedi'u gwneud gan gynnwys am droseddau yn y gorffennol
  • os ydyw'n berson 'addas' ar gyfer y rôl
  • unrhyw drafodaethau a gafodd y cyflogwr gyda'r ymgeisydd am eu gwiriadau cofnodion troseddol

Mae angen i gyflogwr sicrhau hefyd bod recriwtio yn ddiogel i'r myfyriwr. Weithiau mae'n risg os yw awdurdodau gwlad gartref rhywun yn gwybod am eu harhosiad yn y DU. Trafodwch hyn gyda'r myfyriwr, gan ganiatáu iddo leisio pryderon.

Dolenni defnyddiol eraill