Y cynllun cymorth I lesddeiliaid
Cyfeirnod y cymhorthdal SC10854 - mae’r cynllun cymhorthdal yn cyllido Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar ffurf grantiau i brynu eiddo i gefnogi lesddeiliaid sydd mewn caledi ariannol arwyddocaol trwy’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid
3. Sail gyfreithiol y DU
Adran 18 o Ddeddf Dai 1996, ac adrannau 58A a 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i sefydlu’r Cynllun.
4. Amcanion y Cynllun
Mae’r cynllun cymhorthdal yn cyllido Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar ffurf grantiau i brynu eiddo i gefnogi lesddeiliaid sydd mewn caledi ariannol arwyddocaol trwy’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid.
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd wedi dangos eu hymrwymiad i’r Cynllun trwy lofnodi Cytundeb Partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
7. Sector(au) a gefnogir
Gweithgareddau eiddo tirol
8. Hyd y Cynllun
2 Mai 2023 i 31 Mawrth 2025
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
£30,000,000
10. Ffurf y cymorth
Grant uniongyrchol a benthyciad
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae’r cynllun yn agored i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n dangos eu hymrwymiad i’r Cynllun trwy lofnodi Cytundeb Partneriaid â Llywodraeth Cymru. Bydd y Cytundeb hwn yn cadarnhau bod y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i gefnogi’r Cynllun ac yn bwriadu cymryd rhan yn y Cynllun yn unol â’r egwyddorion a’r trefniadau y cytunwyd arnynt.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Pennir Cerrig Milltir a Thargedau yn unol â’r Cytundeb Partneriaeth a’r Llythyr Dyfarnu Grant a roddir gyda’r arian a ddyfernir. Bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn prynu’r eiddo a nodir trwy’r Cynllun Cymorth i Les-ddeiliaid a bydd yn cadarnhau’r dyddiad cwblhau a ddisgrifir.
Caiff cyfuniad 50:50 o fenthyciad a grant ei neilltuo i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i dalu pris prynu’r eiddo. Fel y cytunwyd gan y sector, caiff addasiad o’r Model Hyfywedd Safonol ei ddefnyddio gan y tîm Grantiau Tai Cymdeithasol i gyfrif hyn.
13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£5,000,000
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cymru
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.