Heddiw, mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei ystadegau blynyddol diweddaraf ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (TTT).
Mae’r datganiad ystadegol yn cwmpasu'r cyfnod Ebrill 2022 i Fawrth 2023 ac mae’n cyflwyno data yn ôl ardal ddaearyddol; gan gynnwys data awdurdodau lleol, data ar lefel etholaeth, ac yn ôl y math o drafodiad.
Ar lefel genedlaethol, mae prif uchafbwyntiau data'r datganiad yn cynnwys:
- cyfanswm o 59,560 o drafodiadau ar gyfer y TTT
- £382.5 miliwn o dreth yn ddyledus am werthiannau a lesoedd eiddo a thir yng Nghymru
- £287.4 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau preswyl, gan gynnwys:
- £92.0 miliwn o refeniw ychwanegol a godwyd o gyfraddau uwch
- £95.1 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl
Ar lefel awdurdodau lleol, mae’r data yn amlygu rhai amrywiadau ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Er enghraifft, roedd trafodiadau cyfraddau uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn amrywio 16% yn Nhorfaen a Sir y Fflint i 32% yng Ngwynedd. Roedd newidiadau ar gyfer y canrannau hyn yn erbyn y flwyddyn flaenorol yn amrywio o leihad o 5 pwynt canran ar gyfer Gwynedd i gynnydd o 3 pwynt canran ar gyfer Sir Fynwy.
Mae sawl rheswm pam y gellid codi'r cyfraddau treth preswyl uwch o dan y TTT, gan gynnwys:
- pryniant eiddo prynu-i-osod
- ail gartrefi neu gartrefi gwyliau
- pontio rhwng dau eiddo, a
- phryniannau gan gwmnïau, megis darparwyr tai cymdeithasol
Ar gyfer data Ebrill 2022 i Fawrth 2023, ni allwn ddarparu dadansoddiad o’r bwriad y tu ôl i’r trafodiadau cyfradd uwch. Fodd bynnag, ar 28 Mehefin 2023 fe wnaethom gyflwyno cwestiwn newydd ar y ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn gofyn am y bwriad y tu ôl i bryniannau preswyl ar y cyfraddau treth uwch. Byddwn yn asesu’r data dros y misoedd nesaf gyda’r potensial i gyhoeddi’r dadansoddiad hwn mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.
Dywedodd Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Data a Dadansoddi ACC:
“Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth ychydig yn uwch na’r flwyddyn flaenorol ac yn sylweddol uwch nag yn y tair blynedd cyn hynny. Digwyddodd y cynnydd bychan mewn refeniw er gwaethaf niferoedd is o drafodiadau tua diwedd y flwyddyn ariannol, a oedd yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.
“Roedd y refeniw o drafodiadau amhreswyl yn sylweddol is yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth nag yn y flwyddyn flaenorol, er ei fod wedi parhau’n uwch nag yn y tair blynedd cyn hynny. Dyma’r prif reswm dros y gostyngiad mewn refeniw ar gyfer yr holl drafodiadau yn y flwyddyn ddiwethaf.
“Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, rydym wedi gweld llai o weithgarwch ar gyfer cyfraddau preswyl uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r ardaloedd gorllewinol neu ogleddol. Gallai rhesymau posibl am hyn gynnwys effaith amodau economaidd ehangach neu bolisïau ail gartrefi yn dechrau effeithio ar drafodiadau.”
Mae ACC wedi diweddaru ei eglurhad ar ddefnyddio ystadegau ardal leol a phryd a pham y mae cyfraddau uwch TTT yn gymwys.