Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi adroddiad am gysylltiadau rhynglywodraethol sy’n ymwneud â’r cyfnod 2021-23. Mae ar gael yma: Darparu gwybodaeth rynglywodraethol i'r Senedd: adroddiad 2021 i 2023
Diben yr adroddiad yw rhoi asesiad cytbwys o natur y gwaith rhynglywodraethol ar draws Llywodraeth Cymru, a chrynhoi’r ymgysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yng nghyd-destun y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’n ychwanegu at y diweddariadau rheolaidd y mae Llywodraeth Cymru’n eu rhoi i’r Senedd, yn y cyfarfodydd llawn a chyfarfodydd pwyllgor, a thrwy ddatganiadau ysgrifenedig a gohebiaeth.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.