Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Adran 1: Pa gamau y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried, a pham?

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld cynnydd digynsail mewn costau byw. Cyrhaeddodd chwyddiant CPI blynyddol "pob eitem" yr ONS 10.1% ym mis Medi 2022, gyda bwyd a diod ar 14.6%. Mae'r IGD yn rhagweld y bydd chwyddiant bwyd a diod ar gyfartaledd rhwng 10% a 12% dros y flwyddyn gyfan. O ystyried yr ansicrwydd byd-eang presennol, ni allwn fod yn sicr na fydd hyn yn cynyddu ymhellach fyth.

Ym mis Ebrill 2022, cynyddodd Ofgem y cap ar bris ynni 54%. Dangosodd dadansoddiad diweddar fod nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 12% yn 2018 i tua 45% o ganlyniad i'r cynnydd ym mhris tanwydd ym mis Ebrill.

Roedd hyn yn golygu y gallai 614,000 o aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd yn y cap ar brisiau o ddefnyddio mesur tlodi tanwydd Cymru (10% o incwm ar filiau tanwydd). Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2021.

Nid yw’n argoeli’n dda o gwbl. Mae biliau ynni bron wedi dyblu ers mis Ebrill 2021. Ar 8 Medi cyhoeddodd Llywodraeth y DU gap o £2,500 ar brisiau dros 2 flynedd. Cyflwynwyd hyn ar ôl i Ofgem gyhoeddi cynnydd yn y cap ar brisiau ynni domestig i £3,549 o 1 Hydref 2022, sy'n gynnydd o 80% o'i lefel gyfredol o £1,971.

Yn natganiad cyllidol Hydref 2022, cyhoeddodd y Canghellor y bydd cap y llywodraeth yn codi o £2,500 ar gyfer cartref nodweddiadol i £3000 am 12 mis arall o Ebrill 2023. Bydd deiliaid tai nawr yn wynebu cynnydd pellach o £500 nad ydynt yn gallu eu fforddio. Mae'n siŵr y bydd hyn yn gwneud rhagor o gartrefi yng Nghymru yn dlawd o ran tanwydd. 

Cynyddodd budd-daliadau lles 3.1% yn unig ym mis Ebrill ar adeg pan ragwelwyd y byddai chwyddiant yn oddeutu 7.5%. Mae hyn wedi golygu gostyngiad o £290 mewn incwm o fudd-daliadau o flwyddyn i flwyddyn ar gyfer aelwydydd incwm isel.

Mae hyn ar ben y £1,000 y flwyddyn y collodd mwy na 230,000 o aelwydydd yng Nghymru ym mis Hydref 2021 pan ddaeth Llywodraeth y DU â'r cynnydd o £20 yr wythnos i Gredyd Cynhwysol i ben.

Mae'r codiadau hyn mewn prisiau wedi rhoi pwysau sylweddol ar aelwydydd. Ym mis Gorffennaf 2022, canfu adroddiad Sefydliad Bevan "A snapshot of poverty in Summer 2022" fod 45% o aelwydydd Cymru yn ei chael hi'n anodd fforddio unrhyw beth y tu hwnt i hanfodion bob dydd, gydag un o bob wyth aelwyd heb ddigon o arian i dalu am y pethau sylfaenol naill ai weithiau neu'n aml.  

Mae pob aelwyd yng Nghymru yn debygol o fod yn teimlo'r effaith. Fodd bynnag, mae'r argyfwng presennol yn effeithio fwyaf ar aelwydydd incwm isel oherwydd eu bod yn gwario mwy ar eitemau hanfodol nag aelwydydd incwm uchel.

Ar 30 Medi 2021 cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn lansio Cronfa Gymorth i Aelwydydd gwerth £500m. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth amlwg eu bod yn gwybod y byddai gormod o bobl na fyddai'n gallu cael dau ben llinyn ynghyd y gaeaf diwethaf. Dyfarnwyd £25m i Gymru mewn cyllid canlyniadol.

Ein huchelgais oedd cefnogi aelwydydd yr effeithiwyd ar eu hincwm yn ddifrifol pan benderfynodd Llywodraeth y DU ddileu'r taliad ychwanegol o £20 yr wythnos ar gyfer Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth Gwaith. Roeddem hefyd yn awyddus i helpu aelwydydd sy'n cael un o'r budd-daliadau yn lle enillion ar sail prawf modd y gwrthododd Llywodraeth y DU eu cynyddu £20 yr wythnos.

Ar 26 Awst amcangyfrifodd Sefydliad Joseph Roundtree yn eu hadroddiad "in Wales nearly a fifth of households (19%) will lose £1,040 annual income via the removal of the £20 uplift in Universal Credit and Working Tax Credit. This is around 275,000 low income households who in total lose £286m”.

Ar 16 Tachwedd 2021, yn dilyn cyllid ychwanegol gronfeydd wrth gefn y Trysorlys, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £51m ar gyfer aelwydydd incwm isel i fodloni'r pwysau uniongyrchol ar gostau byw yng ngaeaf 2021/22. Roedd y cyllid hwn yn cynnwys £38m ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf er mwyn rhoi i taliad untro o £100 i aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau oedran gweithio ar sail prawf modd.

O ystyried bod angen cefnogi aelwydydd ar frys, nid oedd digon o amser i gynnal asesiad effaith llawn ac ymgynghori ar gynigion.

Agorodd y cynllun ar 13 Rhagfyr ac fe wnaeth roi cymorth uniongyrchol i aelwydydd sy'n derbyn budd-dal lles ar sail prawf modd i'w helpu i dalu eu costau ynni.

Roeddem yn gwybod y byddai llawer o ofalwyr ar incwm isel yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gymhorthdal Incwm neu Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr â'u Lwfans Gofalwr. Felly, gallent fod yn gymwys i wneud cais am gymorth tanwydd y gaeaf.

Nid yw'r aelwydydd hynny sy'n cael budd-daliadau fel y Taliad Annibyniaeth Personol, y Lwfans Byw i'r Anabl a chymorth cyfrannol arall wedi bod yn destun i'r un penderfyniadau ar sail prawf modd â'r rhai yn y grŵp budd-daliadau cymwys ac o ystyried y gyllideb sefydlog, nid oeddem wedi gallu cefnogi aelwydydd sy'n derbyn taliadau anabledd heb brawf modd.

Cafwyd arian ychwanegol o'r cronfeydd wrth gefn, ac ar 1 Chwefror 2022 cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y byddai'r taliad Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn dyblu o £100 i £200 wrth i'r argyfwng costau byw ddwysáu.

Roeddem yn gwybod y byddai hyd at 60% o aelwydydd cymwys yn hawlio cymorth gyda'u bil treth gyngor drwy ein Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Ysgrifennodd awdurdodau lleol at yr aelwydydd cymwys yr oeddent yn ymwybodol ohonynt, gan ofyn am wybodaeth sylfaenol i gefnogi'r hawliad. Targedwyd y garfan a oedd yn weddill drwy ein hymgyrch gyfathrebu a oedd yn cynnwys:

  • hyrwyddo'r cynllun drwy ein sianeli cyfathrebu, a gweithiodd swyddogion yn agos â CLlLC ac awdurdodau lleol i gefnogi'r defnydd o'r cynllun
  • defnyddio ein hymgyrch gyfathrebu Pwyslais ar Incwm sy'n cynnwys marchnata ein Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf yn ddigidol, i sicrhau bod aelwydydd cymwys yn cael cymorth gyda'u biliau tanwydd y gaeaf hwn
  • rhoi pecyn cymorth o adnoddau cyfathrebu i'n rhanddeiliaid, gan gynnwys y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant a Gweithredu Ynni Cenedlaethol

Daeth y cynllun i ben ar 28 Chwefror a gwnaed y taliadau terfynol ar 30 Ebrill. Llwyddodd 166,780 o aelwydydd i hawlio ar gyfer ein Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ar gost o £35,455,925.

Mae hyn gyfwerth â 45% o'r 364,264 o aelwydydd a amcangyfrifwyd yn ein cyngor gwreiddiol. Fodd bynnag, mae swyddogion bellach yn ymwybodol y gallai'r data a ddefnyddiwyd i ragweld uchafswm nifer yr aelwydydd cymwys ar gyfer cynllun 2021 i 2022 fod wedi arwain at amcangyfrif rhy uchel o ran y niferoedd a fyddai'n manteisio ar y cynllun.

Roedd ein cynllun yn cynnig un taliad i bob aelwyd ond, o ddefnyddio'r data sydd ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar hawlwyr budd-daliadau/aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau, mae wedi profi'n anodd nodi'n gywir yr eiddo lle mae nifer o oedolion (pob un yn derbyn budd-daliadau cymwys) yn byw gyda'i gilydd mewn un eiddo. Ar ben hynny, gan nad oes gennym unrhyw ddata ar atebolrwydd i dalu am danwydd, nid yw'n glir faint o aelwydydd oedd yn gymwys ar gyfer ein Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf mewn gwirionedd.

O ddefnyddio'r data o'r aelwydydd hynny yr oeddem yn gwybod eu bod yn gymwys, derbyniodd 72% daliad tanwydd.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gario £180m o gyllid ymlaen o 2021 i 2022, y tu allan i drefniadau arferol Cronfa Wrth Gefn Cymru, i ymateb i'r argyfwng costau byw yn 2022-23. Roedd y pecyn cyfan, a oedd yn cwmpasu 2021 i 2022 a 2022 i 2023, yn werth mwy na £330m ac roedd yn cynnwys £150m ar gyfer y Cynllun Cymorth Costau Byw yn ogystal â £90m ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd arall yn 2022 i 2023.

Rhagwelwyd y byddai'r cynllun yn daliad untro i fynd i'r afael â'r pwysau ariannol uniongyrchol, tymor byr, sy'n wynebu aelwydydd.

O ganlyniad, ni wnaed unrhyw drefniadau ffurfiol i werthuso'r cynllun. Fodd bynnag, gwnaeth adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd o'r cynllun cyntaf lywio'r gwaith o ddatblygu Cynllun Cymorth Tanwydd dilynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023.

Roedd ein meini prawf cymhwystra blaenorol yn golygu nad oedd llawer o aelwydydd incwm isel yn gymwys i gael cymorth. Yn dilyn adborth gan ein rhanddeiliaid, gwnaethom ymestyn y meini prawf cymhwystra i gefnogi mwy o aelwydydd agored i niwed.

Mae'r penderfyniad i ymestyn y cynllun cymorth tanwydd yn golygu y bydd bron i 200,000 o aelwydydd ychwanegol sy'n cael credydau treth plant, credydau pensiwn, budd-daliadau anabledd, lwfans gofalwyr a budd-daliadau cyfrannol a'r rhai sy'n cael cymorth o Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i dalu eu bil treth gyngor, bellach yn gymwys.

Mae'r tabl canlynol yn nodi'r niferoedd sy'n derbyn budd-daliadau gwahanol.

Budd-dal cymwys

Aelwydydd

Credyd Cynhwysol

233,693

Budd-dal prawf modd etifeddol

(Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm)

  99,746

Credydau Treth Gwaith

62,100

Credyd Treth Plant

 30,200

Credyd Pensiwn

 84,631

Budd-daliadau Anabledd (Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Byw i'r Anabl, Lwfans Gweini)

 139,904

Lwfans Gofalwr

 28,170

Budd-daliadau Cyfrannol

(Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol)

 33,968

Cyfanswm yr aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau cymwys

712,412

Cynigiwyd ehangu hyn drwy gynnwys 316,873 o aelwydydd eraill sy'n derbyn budd-daliadau, gan ddod â'r cyfanswm amcangyfrifedig o aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau i 712,412.

Aelwyd sy'n derbyn budd-daliadau (benefit household) yw'r term a ddefnyddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddisgrifio pobl sydd wedi'u henwi ar hawliad am fudd-dal lles fel rhai sy'n byw gyda'i gilydd. Mae aelwydydd gwahanol sy'n derbyn budd-daliadau yn aml yn byw yn yr un eiddo. Mae'n bwysig pwysleisio na fydd pob aelwyd a nodir yn y tabl yn gymwys i gael y taliad tanwydd gan mai dim ond un taliad sy'n cael ei wneud fesul eiddo. Ystyriwyd hyn wrth amcangyfrif nifer yr aelwydydd sy'n gymwys i gael y taliad tanwydd.

Y ffigurau a gyflwynwyd ar gyfer y meini prawf estynedig yw nifer y bobl sydd ond yn derbyn y budd-dal hwnnw (ac nid unrhyw fudd-dal arall). Bydd yna achosion lle bydd aelwydydd yn derbyn nifer o fudd-daliadau cymwys. Er enghraifft, mae cwpl yn derbyn Credyd Pensiwn (hawliad ar y cyd), mae un partner yn derbyn Lwfans Gweini (hawliad unigol) ac mae'r partner arall yn derbyn Lwfans Gofalwr (hawliad unigol). Dim ond unwaith y telir Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru i aelwyd h.y. y person sy'n talu'r bil tanwydd, waeth a oes mwy nag un person yn yr aelwyd honno sy'n derbyn budd-daliadau.

Mae data'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dangos bod 60% o'r aelwydydd hynny sy'n Credyd Cynhwysol yn hawlio'r elfen tai, sy'n gyfystyr â chostau tai eraill, gan gynnwys atebolrwydd tanwydd, a defnyddiwyd hyn i bennu tua 427,447 o aelwydydd cymwys ar gyfer ein cynllun.

Cafodd hyn ei gadarnhau gan ein harolwg gwybodaeth am deuluoedd ac fe'i defnyddiwyd i ragweld y bydd tua 422,000 o aelwydydd yn gymwys i gael cymorth o dan y meini prawf cymhwystra estynedig.

Ar 19 Gorffennaf 2022, cyflwynodd swyddogion Atodiad i MA/JH/075/22 i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Roedd y cyngor yn dweud y byddai ychwanegu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor i gymhwyso ar gyfer cynllun 2022 i 2023 yn caniatáu awtomeiddio'r cynllun yn well gan y byddai'r awdurdodau'n gallu defnyddio TG i wirio ceisiadau yn erbyn eu cronfa ddata ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Treth Gyngor yn hytrach na gwirio cronfa ddata'r Adran Gwaith a Phensiynol am fudd-dal cymwys.

Wedyn cyfrifodd swyddogion garfan newydd, yn seiliedig ar 265,000 ar gyfer y budd-daliadau hynny sydd hefyd yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a'r 162,000 sy'n weddill o'r rhai sydd â hawl i fudd-daliadau heb brawf modd.

Roedd y gyllideb ar gyfer cynnwys pawb sy'n gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn seiliedig ar 386,500 o aelwydydd (o ystyried y byddai 100% o'r 265,000 sy'n cael gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn manteisio ar y cynllun, a 75% o'r 121,500 sy'n cael taliadau â llaw), a gyda £9 o gostau gweinyddol ar ben hynny daeth hyn i £80,778,500.

Er mwyn cydnabod y gofynion gweinyddol llai ar awdurdodau lleol, cynigiodd Llywodraeth Cymru ffi brosesu o £5 i'r rhai sy'n derbyn gostyngiadau drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a ffi o £9 i'r rhai nad ydynt yn derbyn gostyngiad. Rhoddodd hyn ffi ymgeisio gyfartalog o £6.50 yn hytrach na'r gyfradd safonol flaenorol o £9 ar gyfer unrhyw gais a brosesir.

Er hynny, mae dadansoddiad mwy diweddar yn amcangyfrif mai 85% o'r rhai sy'n cael gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a fyddai'n manteisio ar y cynllun (yn seiliedig ar y niferoedd sy'n manteisio ar y cynllun costau byw) a 75% o'r rhai sy'n cael taliadau â llaw. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 345,346 o daliadau, a chyda chost prosesu gweinyddol o £6.50 fesul cais mae'n dod â chyfanswm y gost a ragwelir i £71,313,846. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd tanwariant o £18m.yn erbyn y gyllideb o £90miliwn. O'r tanwariant hwn, cytunwyd i roi £2.4m ar gyfer y gwaith 'Costau Byw' (MA-JH-2801-22) a £4m arall ar gyfer Cronfa'r Sefydliad Banc Tanwydd, gan adael tanwariant rhagweledig o oddeutu £11.5m. Mae peth o'r tanwariant hwn wedi gwrthbwyso pwysau ar y Gronfa Cymorth Dewisol yn 2022 i 2023.

Y tymor hir

Mae ansicrwydd ynghylch faint o amser y bydd yr argyfwng costau byw presennol yn parhau. Bydd ein cynllun cymorth tanwydd yn cefnogi aelwydydd sy'n wynebu'r penderfyniadau uniongyrchol rhwng gwresogi a bwyta nawr.

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau a Thollau Ei Fawrhydi wedi cytuno y gellir trin y cynllun hwn fel Darpariaeth Llesiant Leol ac ar y sail honno gellir ei anwybyddu wrth asesu treth ac unrhyw fudd-dal prawf modd a dderbynnir gan yr aelwyd.

Dyma'r ail daliad tanwydd mewn dwy flynedd, ac mae'n ansicr a fydd adrannau Llywodraeth y DU yn parhau i dderbyn y cynllun fel darpariaeth llesiant leol. Pe bai'r cynllun yn rhedeg eto yn 2023/24, gellir ei ystyried wedyn yn daliad blynyddol ac ni fyddai'n gymwys i'w ddiystyru, ac felly byddai'n cael ei drin fel incwm trethadwy a/neu'n cael ei ddidynnu o fudd-daliad aelwyd.

Atal

Pwrpas y taliad yw lliniaru effaith costau ynni cynyddol ar gostau byw aelwydydd yn gyffredinol a thargedu'r rhai sy'n fwy tebygol o fod mewn tlodi. Ni fwriedir iddo fod yn fesur o dlodi tanwydd. Os mai'r bwriad oedd targedu tlodi tanwydd, yna ystyrir budd-daliadau lles yn fesur gwael; mae effeithlonrwydd eiddo, oedran y deiliad tŷ a'r sector tai y maent yn byw ynddo yn ganllaw gwell. 

Integreiddio

Rydym yn deall nad oeddem wedi gallu helpu pawb gyda'n cynllun peilot incwm sylfaenol, ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cymorth pellach.

Ers mis Tachwedd 2021, rydym wedi buddsoddi dros £380 miliwn i liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar aelwydydd difreintiedig.

Mae'n helpu i ariannu taliad costau byw gwerth £150 i bob aelwyd mewn eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor ac i bob aelwyd sy'n cael cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob un o fandiau'r dreth gyngor.

Ers mis Ionawr 2020, mae gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl wedi helpu 127,000 o bobl i fynd i'r afael â 602,000 o broblemau lles cymdeithasol. Cafodd y bobl hyn gymorth i hawlio incwm ychwanegol gwerth £75 miliwn a chafodd dyledion gwerth £22 miliwn eu dileu.

Ers 2010 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, mae mwy na £394m wedi'i fuddsoddi er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy'r Rhaglen Cartrefi Clyd, gyda mwy na 67,100 o aelwydydd incwm isel yn elwa ar y rhaglen hon gan arbed mwy na £300 ar gyfartaledd ar eu biliau ynni domestig blynyddol ar sail prisiau 2021.

Cydweithio

Mae'r canllawiau ar gyfer y cynllun wedi'u llunio ar y cyd â phartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Maent wedi ein helpu i ddeall rhai o'r heriau o ran gweinyddu'r taliad a sut y gallem dargedu ein cynulleidfaoedd i sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn manteisio arno.

Yn dilyn adborth gan ein rhanddeiliaid, rydym wedi ymestyn y meini prawf cymhwystra i gefnogi mwy o aelwydydd agored i niwed gyda'r cymorth hanfodol hwn.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda Gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon i drafod y gwersi y maen nhw wedi'u dysgu a chael eu gwybodaeth a'u harbenigedd er mwyn helpu i lywio'r cynigion. 

Roedd ein meini prawf cymhwystra blaenorol yn golygu nad oedd llawer o aelwydydd incwm isel yn gymwys i gael cymorth. Yn unol ag adborth a gawsom gan ein rhanddeiliaid, ein huwchgynadleddau costau byw, a sylwadau a phrofiadau defnyddwyr y cynllun blaenorol, gwnaethom weithredu newidiadau sydd wedi ymestyn y cymorth i fwy o aelwydydd. gan gynnwys:

  • cefnogi carfan ehangach o aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau
  • mesurau i gefnogi aelwydydd â chostau ynni a drosglwyddir
  • cymorth i aelwydydd sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid
  • ymestyn y cyfnod talu er mwyn rhoi mwy o gyfle i unigolion hawlio a mwy o amser i Awdurdodau Lleol nodi preswylwyr cymwys a phrosesu taliadau

Effaith

Mae tystiolaeth gynyddol bod aelwydydd yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â'u costau tanwydd cynyddol. Mae Mesur Tlodi Tanwydd Cymru yn amcangyfrif y gallai 45% o aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd mewn prrisiau ym mis Ebrill 2022. Mae'n amlwg bod angen gweithredu ar unwaith.

Mae Gweinidogion Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a darparu'r cymorth gan fod ganddynt y modd i ddarparu cymorth parhaol ac ystyrlon i aelwydydd. Fodd bynnag, nid ydynt wedi ymateb i'r galwadau hyn.

Bydd Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i'r aelwydydd incwm isel yr ydym yn ymwybodol ohonynt a bydd yn gallu defnyddio data yn ymwneud â budd-daliadau lles y gall awdurdodau lleol gael mynediad ato.

Mae'r cynllun hwn yn ceisio adeiladu ar ei ragflaenydd drwy ymgorffori adborth a beirniadaeth am Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf 21/22 drwy gydweithio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, comisiynwyr, awdurdodau lleol a thrydydd partïon.

Hynny yw:

  • cefnogi carfan ehangach o aelwydydd sy'n derbyn budd-daliadau
  • mesurau i gefnogi aelwydydd â chostau ynni a drosglwyddir
  • cymorth i aelwydydd sy'n defnyddio tanwydd oddi ar y grid
  • ymestyn y cyfnod talu er mwyn rhoi mwy o gyfle i unigolion hawlio a mwy o amser i Awdurdodau Lleol nodi preswylwyr cymwys a phrosesu taliadau

Rydym yn amcangyfrif mai 225,000 o aelwydydd a oedd yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y cynllun 2021 i 2022, a thrwy ymestyn y cymorth mae hyn bron wedi dyblu i 427,000.

Costau ac arbedion

Mae'r Gweinidog Cyllid wedi sicrhau bod £90m ar gael ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru eleni, er y bydd £4m yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynlluniau Talebau Tanwydd a Chronfa Wres. Roedd y gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru wedi'i seilio ar 386,650 o aelwydydd (100% o'r 265,000 sy'n cael gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Treth Gyngor a 75% o'r 121,500 sy'n cael taliadau â llaw) a gyda £9 o gost gweinyddol mae hyn yn £80,809,850.

I symleiddio'r broses i dderbynwyr a lleihau costau gweinyddu, rydym wedi archwilio sut i'w gwneud yn haws i bobl y mae'r awdurdodau lleol yn gwybod amdanynt ac sy'n gymwys i dderbyn y taliad wneud hynny heb orfod gwneud cais uniongyrchol. 

Gofynnir i Awdurdodau Lleol, lle bo'n bosibl, brosesu ymhellach fanylion banc y rhai sy'n derbyn gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gesglir fel rhan o'r Cynllun Cymorth Costau Byw i weinyddu Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru.

Er mwyn cydnabod y gofynion gweinyddol llai ar awdurdodau lleol, cynigiodd Llywodraeth Cymru ffi brosesu o £5 i'r rhai sy'n derbyn gostyngiadau drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a ffi o £9 i'r rhai nad ydynt yn derbyn gostyngiad. Rhoddodd hyn ffi ymgeisio gyfartalog o £6.50 yn hytrach na'r gyfradd safonol flaenorol o £9 ar gyfer unrhyw gais a brosesir.

Er hynny, mae dadansoddiad mwy diweddar yn amcangyfrif mai 85% o'r rhai sy'n cael gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a fyddai'n manteisio ar y cynllun (yn seiliedig ar y niferoedd sy'n manteisio ar y cynllun costau byw) a 75% o'r rhai sy'n cael taliadau â llaw. Mae hyn yn rhoi cyfanswm o 345,346 o daliadau, a chyda cost prosesu gweinyddol o £6.50 fesul cais mae'n dod â chyfanswm y gost i £71,313,846.

Mecanwaith

Gofynnir i Awdurdodau Lleol, lle bo'n bosibl, brosesu ymhellach fanylion banc y rhai sy'n derbyn gostyngiad drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a gasglwyd fel rhan o'r Cynllun Cymorth Costau Byw, y Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf blaenorol neu'r Taliad Gofalwr Di-dâl i weinyddu Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru yn awtomatig.

Lle nad yw hyn yn bosibl, dylai aelwydydd wneud cais am y cynllun drwy wefan eu hawdurdod lleol. Dylai aelwydydd allu gwneud cais dros y ffôn neu'r drwy post ar gais.

Bydd aelwydydd sy'n gymwys ar gyfer y taliad yn derbyn taliad BACS o £200. Mewn dwy ardal awdurdod, bydd aelwydydd y nodir eu bod yn gymwys drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yn derbyn talebau All-Pay y gellir eu newid i arian parod yn eu swyddfa bost.

Adran 8: casgliad

Sut y mae pobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?

Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y 15 Chwefror 2022 y bydd £90m arall ar gael i redeg cynllun cymorth tanwydd arall, cymerodd Llywodraeth Cymru gamau i ddysgu wrth y cynllun blaenorol i sicrhau ei bod yn cefnogi'r rhai mwyaf anghenus.

Cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ddwy Uwchgynadledd Costau Byw gyda dros 150 o gyfranogwyr o'n sefydliadau partner megis Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth a National Energy Action i drafod y materion allweddol yr ydym yn eu hwynebu ar draws y llywodraeth lle wnaeth ein siaradwyr sôn am y sefyllfa ar lawr gwlad. Roedd y myfyrdodau a gynigiwyd gan y rhai a oedd yn bresennol o bob sector yn dystiolaeth bwerus i ni ei hystyried wrth gynllunio ein gweithgarwch a'n hymateb yn y dyfodol i gefnogi pobl ledled Cymru.

Trwy ohebiaeth gan y cyhoedd, Gweinidogion, comisiynwyr a rhanddeiliaid, clywsom sut roedd y cynllun yn cefnogi teuluoedd ar hyn o bryd, lle nad oedd yn ddigonol a sut y gellid ehangu'r gefnogaeth, ac fe wnaethom weithredu ar hynny.

Mae'r wybodaeth uchod ac yn yr asesiadau effaith llawn yn rhoi mwy o wybodaeth am yr effeithiau sylweddol, yn gadarnhaol ac yn negyddol, ar y grwpiau isod:

  • plant a'u cynrychiolwyr
  • pobl sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • siaradwyr Cymraeg a grwpiau arbenigol y Gymraeg
  • pobl eraill a allai gael eu heffeithio gan y cynnig

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i’r cynnig fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?

Caiff y Cynllun Cymorth Costau Byw ei fonitro a chaiff y gwerthusiadau eu rhannu â swyddogion Llywodraeth Cymru a'i chysylltiadau yn yr awdurdodau ar gyfer y cynllun.  Bydd diweddariadau’n cael eu darparu i Weinidogion Cymru yn ôl yr angen. Bydd hyn yn cynnwys adrodd yn wythnosol ar nifer y ceisiadau, nifer y bobl a gefnogir o dan y cynllun, y nifer sy'n manteisio ar y cymorth yn erbyn y niferoedd disgwyliedig, y gwariant cyffredinol a throsolwg o unrhyw broblemau mewn perthynas â gweinyddu'r cynllun.