Cyfarfod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg gyda'r Sector Gwirfoddol (CGGC): 20 Mehefin 2023
Agenda a chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (GyGA)
- Owain Lloyd, Llywodraeth Cymru
- Tom Woodward, Llywodraeth Cymru
- Matthew Mithan, Llywodraeth Cymru
- Janine Downing, CGGC (JD)
- Sara Sellek, CGGC
- Gethin Rhys (GR)
- Paul Glaze, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (PG)
- Loren Nadin, Governors for Schools
- Bethan Williams, The Prince's Trust Cymru (BW)
- Amanda Smith, Canolfan y Dechnoleg Amgen (AS)
- Eleanor Jones, CGGC
- Kelly Chamberlain
- Hannah Jones, Prince's Trust Cymru
- Lowri Jones, Mentrau Iaith Cymru (LJ)
- Kofoworola Oladunjoye, Cyngor Hil Cymru
- Francesca Wright
- Nathan Sadler, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
- Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
Anerchiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Agorodd GyGA y cyfarfod drwy amlinellu rhai o'r heriau sy'n cael eu profi ar hyn o bryd a'r gwaith sydd ar y gweill i fynd i'r afael â'r rhain. Mae hyn yn cynnwys yr argyfwng costau byw a sut mae hyn yn effeithio ar y deilliannau addysgol i bobl o gefndiroedd difreintiedig. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd sicrhau bod y system addysg mor deg â phosibl i bawb. Nid yw uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yng Nghymru wedi newid.
Yr argyfwng costau byw – effaith ar addysg
Trafododd LJ y pwyntiau a godwyd yn y papur a ddarparwyd gan y sector gwirfoddol cyn y cyfarfod ac amlinellodd y pryderon sy'n cael eu profi gan y sector yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae mwy a mwy o deuluoedd bregus yn troi at y sector gwirfoddol mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ac mae'r galw am wasanaethau wedi cynyddu'n sylweddol.
Croesawodd AS y gwaith o rannu arfer gorau y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei sylwadau agoriadol. Tynnwyd sylw at y costau cludiant cynyddol i ysgolion allu defnyddio canolfannau y tu allan i'w lleoliad arferol a sut y gall hyn gael effaith ar addysg person ifanc.
Esboniodd LJ fod y sector gwirfoddol eisiau gweld sut y gallant gydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu ysgolion gyda'u costau bob dydd ar gyfer pethau fel teithiau ysgol. Mae hyn yn cynnwys grantiau sydd ar gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ysgolion er budd profiadau dysgu eu disgyblion.
Gofynnodd BW a allent weithio gyda Llywodraeth Cymru i drefnu digwyddiad arddangos lle gellir esbonio'r opsiynau sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau addysg yn iawn.
Soniodd GR ei bod yn bwysig bod ysgolion lleol yn gwybod sut i ymgysylltu â sefydliadau lleol a'r gymuned gyda chymorth yr awdurdodau lleol, a pha rôl y gallai Llywodraeth Cymru ei chwarae o ran sicrhau bod ysgolion yn gwybod sut i ymgysylltu â'r trydydd sector yn eu cynefin, sy'n ganolog i'r cwricwlwm newydd.
Dywedodd GyGA fod angen cynnal sgwrs ar sut i ddefnyddio'r gyllideb sydd ar gael yn fwy effeithiol. Dywedodd hefyd ei bod yn bwysig i ni feddwl gyda'n gilydd sut all pawb gydweithredu y flwyddyn nesaf ac roedd yn hapus i swyddogion Llywodraeth Cymru weithio gyda'r sector gwirfoddol ar hyn. Cydnabu bod angen cefnogi ysgolion i gael y berthynas adeiladol honno â'r sector gwirfoddol. Dylai'r ffocws fod ar y cwricwlwm i weld sut all pawb helpu ysgolion gyda'i gilydd i ddarparu'r profiadau dysgu gorau posibl i bobl ifanc yng Nghymru. Ailadroddodd y Gweinidog hefyd bwysigrwydd canolbwyntio ar y mecanweithiau a fydd yn caniatáu i ysgolion gyflwyno'r drafodaeth.
Y Gymraeg
Gwahoddodd JD y Gweinidog i ymateb i'r tri chwestiwn a godwyd eisoes gan y sector gwirfoddol ar ôl i'w papur gael ei gyflwyno cyn y cyfarfod. Roedd y tri chwestiwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau'r cyfrifiad diweddar ac yn edrych ar ffyrdd o dyfu'r Gymraeg.
Fe wnaeth GyGA gydnabod canlyniadau siomedig y cyfrifiad, ond dywedodd fod llawer o fentrau newydd wedi'u cyflwyno yn y flwyddyn cyn y cyfrifiad. Mae angen meddwl am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad o ran y cyfrifiad. Er bod y ffigyrau'n dangos gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae'r cyd-destun yn llawer mwy cadarnhaol. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ystadegwyr edrych ar yr holl ddata i ganfod pa set o ganlyniadau sy'n rhoi'r farn decaf i ni, gan bwysleisio pwysigrwydd cofio'r cyd-destun ehangach. O ran fforwm, mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio gyda sefydliadau i gynyddu darpariaeth y Gymraeg o'r sector. Cynrychiolir llais y sector gwirfoddol ar y fforymau hyn drwy'r Fenter Iaith.
Croesawodd LJ sylwadau'r Gweinidog. Dywedodd fod modd gweld cyd-destun cadarnhaol drwy'r sector gwirfoddol. Mae pobl yn meddwl am ffyrdd arloesol o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ac mae'r cyfraniad hwnnw'n hanfodol. Mae'r defnydd o'r Gymraeg ar lefel leol yn gysylltiedig iawn â swyddi gwirfoddoli a gall y sector glymu hyn gyda'r sgyrsiau parhaus â Chomisiynydd y Gymraeg.
Unrhyw fater arall
Cododd PG ffyrdd y gall y sector gwirfoddol helpu i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a gofynnodd i'r Gweinidog am ragor o fanylion am rôl Adnodd.
Cadarnhaodd GyGA fod hyn wrthi'n cael ei ddatblygu. Y canllaw adnoddau yw'r ffordd orau i'r sector gwirfoddol ymgysylltu.
Agorodd JD drafodaeth gyflym ymhlith y sector gwirfoddol ynghylch 'Adolygiad o gynllun grantiau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg'. Mae'r adolygiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion ar gyfer datblygu'r Gymraeg yn y dyfodol.
Dywedodd LJ eu bod, fel sector, yn croesawu'r cyfle i ystyried yr adolygiad a'r argymhellion sydd ynddo.
Diolchodd JD i'r Gweinidog am ei amser a'r cyfle i drafod ymhellach â swyddogion Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.