Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid 2023
Barn tenantiaid cynghorau a chymdeithasau tai am eu cartefi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Data Mai 2023
Mae’r arolwg eleni yn cynnwys 12 cwestiwn safonol mae pob landlord wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf ar sail methodoleg safonol, ond gydag ystod o ddulliau casglu.
Darperir y data gan landlordiaid, ac mae Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi er mwyn rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid fel y gallant roi sylw pellach iddi gyda’r landlordiaid. Nid yw wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
Dylai cymharu lefelau boddhad tenantiaid ystyried ystod o ffactorau, gan gynnwys nifer yr eiddo sy’n cael eu rheoli gan landlordiaid ac oedran a lleoliad yr eiddo.
Data mis Mai 2022
Roedd arolwg llynedd yn cynnwys 12 cwestiwn safonol yr oedd pob landlord cymdeithasol wedi eu gofyn i’w tenantiaid yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar sail methodoleg safonol.
Nid yw’r data wedi’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2022
Data mis Mai 2021
Fel rhan o’r cytundeb rhent tai cymdeithasol pum mlynedd presennol, cynhaliodd landlordiaid cymdeithasol arolwg safonol o foddhad tenantiaid. Y bwriad oedd y byddai canlyniadau’r arolwg ar gael i’w cyhoeddi erbyn mis Ebrill 2021 ac yna y câi arolygon eu cynnal bob dwy flynedd, o leiaf. Fodd bynnag, oherwydd effaith pandemig COVID-19, data cyfyngedig yn unig y gwnaethom ei gyhoeddi yn 2021, ym mis Mai, a hynny ar draws y meysydd a ganlyn:
- y gwasanaeth a ddarperir gan y landlord
- ansawdd y cartref
- atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw
- y gymdogaeth
- gwerth am arian
- pa mor dda mae’r landlord yn gwrando ar denantiaid
Ewch i Landlordiaid cymdeithasol: arolwg boddhad tenantiaid Mai 2021
C1. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y gwasanaeth a ddarperir gan eich landlord cymdeithasol?](/sites/default/files/2023-07/c1-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-y-gwasanaeth-a-ddarperir-gan-eich-landlord-cymdeithasol_0.png)
C2. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar ansawdd cyffredinol eich cartref?](/sites/default/files/2023-07/c2-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-ansawdd-cyffredinol-eich-cartref_0.png)
C3. Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw?
![Yn gyffredinol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio â gwaith atgyweirio a chynnal a chadw?](/sites/default/files/2023-07/c3-yn-gyffredinol%2C-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-y-ffordd-y-mae-eich-landlord-cymdeithasol-yn-delio-a-gwaith-atgyweirio-a-chynnal-a-chadw_0.png)
C4. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar eich cymdogaeth fel lle i fyw?](/sites/default/files/2023-07/c4-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-eich-cymdogaeth-fel-lle-i-fyw_0.png)
C5. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich rhent yn cynnig gwerth am arian?](/sites/default/files/2023-07/c5-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-fod-eich-rhent-yn-cynnig-gwerth-am-arian_0.png)
C6. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y ffioedd a godir am wasanaethau yn cynnig gwerth am arian?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod y ffioedd a godir am wasanaethau yn cynnig gwerth am arian?](/sites/default/files/2023-07/c6-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-fod-y-ffioedd-a-godir-am-wasanaethau-yn-cynnig-gwerth-am-arian_0.png)
C7. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn gweithredu arnynt?](/sites/default/files/2023-07/c7-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-fod-eich-landlord-cymdeithasol-yn-gwrando-ar-eich-safbwyntiau-ac-yn-gweithredu-arnynt_0.png)
C8. Gan feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?
![Gan feddwl am eich cartref yn benodol, pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi bod eich landlord cymdeithasol yn darparu cartref sy'n ddiogel?](/sites/default/files/2023-07/c8-gan-feddwl-am-eich-cartref-yn-benodol%2C-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-bod-eich-landlord-cymdeithasol-yn-darparu-cartref-syn-ddiogel_0.png)
C9. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y ffordd y mae eich landlord cymdeithasol yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?](/sites/default/files/2023-07/c9-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-y-ffordd-y-mae-eich-landlord-cymdeithasol-yn-delio-ag-ymddygiad-gwrthgymdeithasol_0.png)
C10. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd sy'n cael eu rhoi ichi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi ar y cyfleoedd sy'n cael eu rhoi ichi gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau eich landlord cymdeithasol?](/sites/default/files/2023-07/c10-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-ar-y-cyfleoedd-syn-cael-eu-rhoi-ichi-gymryd-rhan-ym-mhrosesau-gwneud-penderfyniadau-eich-landlord-cymdeithasol_0.png)
C11. Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud am y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?
![Pa mor fodlon neu anfodlon ydych chi fod eich landlord cymdeithasol yn rhoi cyfle ichi ddweud eich dweud am y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu rheoli?](/sites/default/files/2023-07/c11-pa-mor-fodlon-neu-anfodlon-ydych-chi-fod-eich-landlord-cymdeithasol-yn-rhoi-cyfle-ichi-ddweud-eich-dweud-am-y-ffordd-y-mae-gwasanaethaun-cael-eu-rheoli_0.png)
C12. I ba raddau yr ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"
![I ba raddau yr ydych chi'n cytuno â'r datganiad canlynol - "Rwy'n ymddiried yn fy landlord cymdeithasol"](/sites/default/files/2023-07/c12-i-ba-raddau-yr-ydych-chin-cytuno-ar-datganiad-canlynol-rwyn-ymddiried-yn-fy-landlord-cymdeithasol_0.png)