Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
Roeddwn am gymryd y cyfle hwn i ymateb i rai o’r pwyntiau a ymddangosodd yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Cymru fel Cyrchan Fyd-eang i Dwristiaid (dolen allanol, Saesneg yn unig), yr wythnos hon.
Wedi ei lansio ym mis Chwefror 2022, cyflwynwyd 15 darn o dystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad a chynhaliwyd pum gwrandawiad tystiolaeth lafar, gan gymryd tystiolaeth gan sefydliadau a chynrychiolwyr o’r sector economi ymwelwyr, ac yn y sesiwn olaf, gan Weinidogion o Lywodraethau Cymru a’r DU.
Gwnaeth yr adroddiad nifer o bwyntiau cadarnhaol, gan gynnwys ynglŷn â gwaith Croeso Cymru; cydweithio rhwng Croeso Cymru a VisitBritain, a chysylltiadau ac ymgysylltu o fewn y diwydiant.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys sylwadau sy’n canolbwyntio ar sut mae VisitBritain yn marchnata Cymru yn rhyngwladol ac yn gwneud cyfres o sylwadau:
- Nid yw’r ddealltwriaeth na’r arbenigedd gan VisitBritain i hyrwyddo Cymru yn llwyddiannus, ac nid yw’n cyflawni’r cwbl sy’n bosibl ar ran Cymru.
- Mae’n bwysig bod cyrff Llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am hyrwyddo Cymru dramor yn adlewyrchu hunaniaeth unigryw pob rhan o’r DU yn eu gweithgareddau.
- Mae’r pwyllgor yn argymell bod VisitBritain yn gwella ei wefan er mwyn marchnata Cymru dramor yn well.
Mae’r pwyllgor wedi gofyn i VisitBritain adrodd ar ei gynnydd erbyn mis Chwefror 2024. Bydd Croeso Cymru yn cael ei ddiweddaru ar gynnydd yn y meysydd hyn yn y cyfamser.
Mae’r dystiolaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn dyddio o ddechrau gwanwyn 2022, pan oedd cyrchfannau twristiaid ar draws y byd – ac yng Nghymru – yn adfer ar ôl y pandemig. Mae ein gwaith ar ôl y pandemig wedi canolbwyntio ar gefnogi’r sector i adfer ei hun a datblygu marchnadoedd rhyngwladol. Yn 2019, bu 1.02 miliwn o ymweliadau rhyngwladol â Chymru, gyda gwariant o oddeutu £515 miliwn, ac ar gyfartaledd roedd ymwelwyr yn aros rhwng pedair a saith noson. Mae ymwelwyr domestig wedi chwarae rôl bwysig iawn yn economi ymwelwyr Cymru erioed – yn 2019, roedd 10.7 miliwn o ymwelwyr dros nos â Chymru o Brydain Fawr, yn gwario oddeutu £2 biliwn, ac yn aros 3.5 noson ar gyfartaledd.
Roeddwn yn falch fod adroddiad y pwyllgor wedi tynnu sylw at fethiant Llywodraeth y DU i ddynodi HS2 fel prosiect Lloegr yn unig, a fyddai wedi golygu y byddai pobl yng Nghymru wedi elwa o oddeutu £5 biliwn mewn cyllid ychwanegol.
Fe wnaeth y pwyllgor hefyd archwilio Croeso Cymru fel rhan o Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn galluogi Croeso Cymru i weithio ar draws meysydd cysylltiadau rhyngwladol, tai, a newid hinsawdd er mwyn creu twristiaeth er lles. Nid wyf yn gweld sut y byddai creu corff allanol yn dod ag unrhyw fanteision sylweddol i’r sector.
O ran brandio, mae’r brand Croeso Cymru sydd wedi ennill gwobrau, wedi bod yn ei le ers 2016 a chymeradwywyd ei gryfder yr wythnos hon mewn adroddiad Annibynnol ar weithgareddau Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 22. Mae brand Cymru Wales yn seiliedig ar ein hunaniaeth genedlaethol a diwylliannol cryf; tirweddau ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig arbennig a’n cynnig antur cydnabyddedig.
Rydym yn parhau i weithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal leol. Bydd hyn yn cynhyrchu refeniw er mwyn cefnogi buddsoddiad yn y diwydiant twristiaeth. Mae ein hymchwil yn dangos bod y syniad o ardoll -sydd yn gyffredin mewn cyrchfannau gwyliau ledled y byd – yn boblogaidd ymysg pobl yng Nghymru, yn enwedig y rheini sydd yn byw mewn cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.
Mae cyflwyno ardoll yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae’r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.