Un o brif nodau’r Bil Caffael yw ymgorffori tryloywder yn ddiofyn drwy gydol y cylch oes masnachol.
Er mwyn cyflawni’r nod yma, mae trefn hysbysu newydd yn cael ei chyflwyno a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiadau ar wahanol gamau o'r cylch oes caffael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu siart llif i helpu rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddeall pa hysbysiadau sydd eu hangen ar wahanol gamau o'r cylch oes caffael, ac a yw'r hysbysiadau yn orfodol, yn ddewisol neu'n ofynnol o dan rai amgylchiadau. Mae’r siart llif hwn yn ategu’r Rhestr Wirio Cyn Gweithredu a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf, yn enwedig o ran nodi sut a ble y gallai fod angen addasu prosesau a systemau mewnol presennol i ymgorffori’r gofynion newydd hyn.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda rhanddeiliaid i baratoi systemau caffael sector cyhoeddus Cymru cyn y newidiadau arfaethedig er mwyn manteisio i’r eithaf ar awtomeiddio’r drefn hysbysu a lleihau’r effeithiau posibl ar adnoddau drwy leihau’r gwaith mewnbynnu data â llaw gymaint â phosibl. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.