Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Rwy’n ysgrifennu er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf am drafnidiaeth ichi, yn dilyn cyhoeddi’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adolygiad Ffyrdd yn gynharach eleni.
Dull newydd o weithredu a rheoli'r rhwydwaith ffyrdd strategol
Rhaid i’n seilwaith trafnidiaeth fod yn ddiogel, yn hygyrch, wedi ei gynnal yn dda a’i sicrhau ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni feddwl yn wahanol ynglŷn â sut yr ydym yn rheoli ac yn cynnal ein rhwydwaith, er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau statudol a’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd. Er mwyn deall y newidiadau angenrheidiol yn well, fe gomisiynais adolygiad annibynnol o’r rhaglen flynyddol o waith, o dan arweiniad Matthew Lugg OBE, a'i haddasrwydd ar gyfer rheoli’r rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru.
Edrychodd yr adolygiad yn fanwl ar ofynion statudol cyfredol, addasrwydd a fforddiadwyedd yr ymrwymiadau cynnal a gwella, a’r model cyfredol o ran cyflawni.
Mae fy swyddogion wedi ystyried argymhellion adroddiad Lugg a sut y gellir eu defnyddio i ddatblygu a chyflwyno dull newydd o ran gweithredu, cynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn seiliedig ar egwyddorion rheoli asedau cryf. Bydd hyn hefyd yn ystyried profion ac amodau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd ac egwyddorion craidd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru drwy raglenni cynnal a chadw gwell a mwy cynaliadwy.. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn mabwysiadu argymhellion yr adroddiad gan gynnwys datblygu dull gweithredu newydd â blaenoriaeth o ran cynnal, adnewyddu a gwella asedau, ac wrth galon hynny bydd rhaglen adnewyddu asedau sylweddol a fydd wedi ei chynllunio er mwyn mynd i’r afael â’r gwaith cynnal a chadw sylweddol sydd wedi ôl-gronni ac y mae angen ei gyflawni.
Mae Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am y rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru, a bydd ei diogelwch bob amser o’r pwysigrwydd mwyaf. Fodd bynnag, o gynllunio’n ofalus, gall gwariant ar gynnal a chadw ffyrdd gynnig gwell gwerth, a gwneud cyfraniad sylweddol o ran cyflawni nodau ac amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â newid hinsawdd a newid dulliau teithio.
Hoffwn ddiolch i Matthew Lugg OBE ac aelodau’r panel am eu harbenigedd, eu dealltwriaeth a’u safbwyntiau gwerthfawr o ran sut y dylem gynnal ein rhwydwaith er mwyn sicrhau bod ymrwymiadau statudol rôl Llywodraeth Cymru fel awdurdod priffyrdd yn cael eu cynnal yn llawn.
Costau’r Adolygiad Ffyrdd
Fel rhan o argymhellion yr adolygiad ffyrdd ac ymateb Llywodraeth Cymru gan gynnwys y penderfyniad i beidio symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer trydedd bont y Fenai yr A55, gwelliannau Coridor Sir y Fflint a Gwelliannau Cyffyrdd 3-6 yr A483 yn eu ffurf bresennol, rwyf wedi cytuno i ddileu rhan o’r costau a ysgwyddir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynlluniau hyn. Aseswyd bod y gostyngiad yng ngwerth y gwariant hanesyddol ar y cynlluniau hyn yn £5.7 miliwn, a bydd hynny’n cael ei gynnwys yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.
Bydd y costau sy’n weddill yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, fel sy’n ofynnol gan fframwaith Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gynrychioli gwerth ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn defnyddio rhywfaint o’r deunydd hwn ac felly gellid cyflawni ei werth drwy ei ddefnyddio ar amrywiaeth o brosiectau neu raglenni seilwaith posibl eraill.
Ffordd osgoi Llandeilo
Rydym yn parhau i weithio ar opsiynau er mwyn symud ymlaen â chynllun ffordd osgoi Llandeilo. Byddwn yn parhau i drafod â Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch y ffordd orau o gyflawni gwelliannau trafnidiaeth ar yr A483 yn Llandeilo. Rydym hefyd yn archwilio’r posibilrwydd o ailgyfeirio cerbydau nwyddau trwm oddi wrth Landeilo, ac rydym wedi gofyn i’r Athro Andrew Potter ein cefnogi â’r gwaith hwn.
Ailosod y system drafnidiaeth – Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, integreiddio defnydd tir a thrafnidiaeth, Cynllun Cyflawni Teithio Llesol ac arfarniad trafnidiaeth
Yn fuan byddaf yn cyhoeddi canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig (G-bC) ar eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd y cynlluniau hyn yn hanfodol o safbwynt cyflawni dyheadau a blaenoriaethau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar lefel lleol a rhanbarthol. Bydd y Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chynlluniau Datblygu Strategol newydd yn cael eu cyd-ddatblygu gan (G-bC) er mwyn sicrhau dull gweithredu mwy cydlynol o safbwynt cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth.
Rwyf hefyd wedi penodi’r Cynghorwyr Hunt a Medi i arwain 'Grŵp Cynghori ar Ddatblygu’n Seiliedig ar Leoedd’. Tasg y grŵp fydd archwilio ffyrdd o weithio rhwng meysydd trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a datblygu a gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir integreiddio’r meysydd hynny’n well er mwyn cyflawni amcanion cyffredin.
Byddaf yn cyhoeddi ein Cynllun Cyflawni Teithio Llesol sy’n nodi ein dull o ran gwella a chyflymu’r broses o weithredu cynlluniau a rhaglenni teithio llesol yng Nghymru, a’r camau gweithredu penodol y byddwn ni a’n partneriaid cyflawni yn eu cymryd dros y pedair blynedd nesaf. Datblygwyd y cynllun mewn ymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol yn yr adolygiad a gynhaliwyd ganddynt yn 2022, a bydd yn darparu ffocws clir o safbwynt sut y byddwn yn cyfeirio ein hadnoddau a'n hymdrechion dros y blynyddoedd nesaf.
Byddaf hefyd yn cyhoeddi’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) wedi ei ddiweddaru yn fuan. Bydd WelTAG2023 yn rhan o ddull gweithredu newydd o ran trafnidiaeth yng Nghymru sy’n dechrau gyda’n Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (SDC) ac yn llifo drwy bopeth yr ydym yn ei wneud. Bydd WelTAG 2023 yn helpu i gyflawni dyheadau a blaenoriaethau (SDC) drwy newid y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn cyllido rhaglenni a phrosiectau trafnidiaeth. Mae’n symud i ffwrdd oddi wrth gyfrifo buddion yn unig, i gynnwys lles a datgarboneiddio mewn rhaglenni a phrosiectau o’r dechrau, gan ddefnyddio ein Fframwaith Arfarniadau Llesiant Integredig newydd. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian wrth wario arian cyhoeddus, ac yn sicrhau hefyd mai dim ond prosiectau sy’n cydweddu â’n blaenoriaethau strategol, sy’n gwneud y mwyaf o les, sy’n fforddiadwy ac yn cael eu rheoli’n dda, ac y mae modd eu darparu yr ydym yn eu cyllido.