Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae cynllun Cymru Sero Net (ail gynllun lleihau allyriadau carbon Cymru) yn tynnu sylw at y ffaith bod cyflawni sero net yn her gymdeithasol yn ogystal ag yn her dechnegol, ac ochr yn ochr â chamau gweithredu gan y sector cyhoeddus, busnesau a diwydiant Cymru a Llywodraeth y DU, mae'n cynnwys nifer o gamau gweithredu a ofynnir amdanynt gan y cyhoedd yng Nghymru. Mae'n tynnu ar gyngor gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd sy'n nodi y bydd y mwyafrif (~ 62%) o ostyngiadau allyriadau yn gofyn am ryw fath o newid mewn ymddygiad cymdeithasol. 

Ymrwymodd y cynllun i ymgynghoriad ar strategaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd i nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl Cymru drwy'r cyfnod pontio i ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2022, ac mae crynodeb o'r ymatebion wedi'i gyhoeddi. 

Nod y strategaeth newydd hon ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yw nodi fframwaith ac egwyddorion arweiniol ar sut bydd Llywodraeth Cymru: 

  • Yn cynnwys pobl mewn penderfyniadau (gan gynnwys llunio polisi) ynglŷn â sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd; ac
  • Yn cynnwys pobl yn y camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae'r crynodeb hwn yn amlinellu ymchwil a wnaed i helpu i ddeall agweddau, rhwystrau a chymhellion o ran gweithredu ar newid hinsawdd, ac yn benodol o amgylch y camau gweithredu ('pethau y gofynnir i bobl eu gwneud') a nodir yng nghynllun Sero Net Cymru.

Nodau a methodoleg ymchwil

Nod yr ymchwil hon yw:

  • archwilio barn ac agweddau’r cyhoedd a’r rhwystrau i wneud dewisiadau gwyrdd; 
  • archwilio pa gymorth y gallai fod ei angen gan Lywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill i helpu i oresgyn rhwystrau i wneud dewisiadau gwyrdd;
  • nodi dulliau cyfathrebu effeithiol ar ddewisiadau gwyrdd; 
  • archwilio sut i gynnwys pobl mewn camau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru y Tîm Deall Ymddygiad (BIT) a Beaufort Research i helpu i ddatblygu strategaeth gyfathrebu ar newid ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn cefnogi'r strategaeth newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys tri phrif ddull: adolygiad o dystiolaeth, grwpiau ffocws ac arolwg. Roedd y mewnwelediadau penodol i Gymru am ddewisiadau pobl o ran yr hinsawdd yn cynnwys:

  • Data meintiol am rwystrau i ddewisiadau allweddol o ran yr hinsawdd;
  • Mewnwelediadau ansoddol am rwystrau;
  • Atebion cyfathrebu enghreifftiol.

Darparwyd mewnwelediadau o amgylch pedair thema allweddol: dewisiadau ynni yn y cartref, dewisiadau teithio, dewisiadau bwyd a dewisiadau defnydd gyda data penodol i Gymru am is-ymddygiadau ynddynt. Dewiswyd y themâu hyn gan eu bod yn cyd-fynd â’r ‘hyn rydym yn gofyn amdano gan y cyhoedd yng Nghymru’ yng nghynllun Sero Net Cymru ac sydd bellach wedi'u manylu o fewn y strategaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cynhaliwyd y gwaith maes yn yr hydref 2022. 

Adolygiad o Dystiolaeth 

Cynhaliodd y Tîm Deall Ymddygiad (BIT) Adolygiad o Dystiolaeth i nodi'r egwyddorion allweddol ar gyfer cyfathrebu'n llwyddiannus ynghylch yr hinsawdd. Roedd hyn yn cynnwys adolygu mwy na 110 o bapurau ac astudiaethau achos, a chyfuno dysgu ar draws fframwaith hawdd, deniadol, cymdeithasol ac amserol (EAST) y tîm. Nid adolygiad systematig ydoedd ond sgan o dystiolaeth.

Arolwg 

Datblygwyd yr arolwg gan y Tîm Deall Ymddygiad a Beaufort Research. Fe'i cynhaliwyd gyda sampl cwota o 1,000 o oedolion ledled Cymru ac mae'n adlewyrchu'r boblogaeth o ran nodweddion demograffig allweddol. 

Roedd yr arolwg yn gorfod parchu rheolaethau [1] cwota demograffig oedd yn cyd-gloi sef grŵp oedran o fewn rhywedd. Gosodwyd rheolaeth gwota ar wahân bellach ar radd gymdeithasol [2]  a chynhaliwyd cyfweliadau gyda thrigolion pob awdurdod lleol yng Nghymru. Ar y cam dadansoddi, cafodd y data ei bwysoli yn ôl grŵp oedran, rhywedd, grwpio awdurdodau lleol a gradd gymdeithasol. Mae hyn yn sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu ffigurau Cyfrifiad 2011 a nodweddion penodol poblogaeth Cymru.

Darparwyd cwestiynau drafft ar gyfer yr arolwg a thrafodaethau grwpiau ffocws gan Lywodraeth Cymru. Cafodd fersiynau terfynol o’r rhain eu cwblhau yn dilyn trafodaethau gyda’r Tîm Deall Ymddygiad a Beaufort (gweler Atodiad A am gwestiynau'r arolwg).

Roedd yr holl gwestiynau a ofynnwyd yn yr arolwg yn gwestiynau caeedig, hynny yw, rhoddwyd opsiynau ymateb i'r cyfranogwyr ddewis ohonynt. 

Cafodd gwestiynau demograffig eu cynnwys fel rhai safonol yn yr arolwg. Roedd yr arolwg ar gael yn Saesneg ac yn y Gymraeg a gellid ei gwblhau yn yr iaith oedd orau gan y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd gwaith maes ar gyfer yr arolwg rhwng 7-27 Tachwedd 2022. Cwblhawyd a dadansoddwyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau. 

Grwpiau ffocws 

Hwylusodd Beaufort Research 6 grŵp ffocws gyda 42 o gyfranogwyr yn cwmpasu amrywiaeth o nodweddion gan gynnwys oedran, grŵp economaidd-gymdeithasol, gwledig/trefol, agwedd tuag at newid hinsawdd a'r Gymraeg. Cynhaliwyd y grwpiau ffocws ym mis Tachwedd 2022. 

Bu'r grwpiau ffocws yn archwilio canfyddiadau'r arolwg yn fanylach. Roedd y pynciau'n cynnwys:

  • ymddygiadau presennol mewn perthynas â’r hinsawdd 
  • parodrwydd i weithredu nawr ac yn y dyfodol ar ddewisiadau gwyrdd
  • bod yn agored i newid ar ymddygiadau gwyrdd allweddol 
  • rhwystrau a galluogwyr ar ymddygiadau gwyrdd  
  • archwilio adborth ar syniadau o ran atebion cyfathrebu o'r adolygiad o dystiolaeth

[1]  Mae rheolaethau cwota yn golygu niferoedd targed o gyfweliadau ar gyfer grwpiau demograffig penodol sy’n rhan o’r boblogaeth, er mwyn helpu i gyflawni sampl gynrychioliadol ar gyfer yr arolwg. Mae rheolaethau cwotâu demograffig sy’n cyd-gloi yn golygu bod y targed yn ymgorffori dau newidyn: grŵp oedran o fewn rhywedd.

   Mae gradd gymdeithasol yn system ddosbarthu sy'n seiliedig ar alwedigaeth a ddatblygwyd i'w defnyddio ar y National Readership Survey (NRS). Diffinnir graddau cymdeithasol fel a ganlyn:

  • AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddu a galwedigaethau proffesiynol uwch a chanolradd
  • C1: Galwedigaethau goruchwylio, clercol ac is-reoli a galwedigaethau gweinyddu a phroffesiynol  
  • C2: Gweithwyr llaw medrus
  • DE: Gweithwyr llaw lled-fedrus a heb sgiliau, pensiynwyr y wladwriaeth, gweithwyr dros dro a gradd isaf, pobl ddi-waith sy’n derbyn budd-daliadau'r wladwriaeth yn unig.
     

Canfyddiadau

Adolygiad o dystiolaeth 

Roedd casgliadau'r adolygiad o dystiolaeth yn sail ar gyfer argymhellion ar sut i ddylunio cyfathrebiadau ynghylch dewisiadau gwyrdd ac fe'u nodir isod:

  1. Canolbwyntio ar ymddygiadau pendant, gyda galwadau i weithredu lle bo hynny'n briodol a neges 'baratoi’ mewn mannau eraill. Mae ‘paratoi' yn y cyd-destun hwn yn golygu lle mae'r cynulleidfaoedd yn wynebu rhwystrau, neu os yw'r gefnogaeth angenrheidiol mewn polisi yn annigonol, neu os yw cefnogaeth/parodrwydd y cyhoedd yn isel mewn perthynas ag ymddygiad penodol. 
  2. Ymgorffori'n gadarn y camau hynny sy'n hawdd i'r rhan fwyaf o bobl eu gwneud (llai o rwystrau), gan ddechrau hyrwyddo gweithredoedd a all fod yn haws i rai neu ychydig. 
  3. Canolbwyntio ar fyfyrio a mynd i'r afael â'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu.
  4. Tynnu ar 11 egwyddor ymddygiadol y Tîm Deall Ymddygiad ar  gyfathrebu ar yr hinsawdd sy'n cwmpasu sut i wneud dewisiadau hinsawdd yn hawdd, yn ddeniadol, yn gymdeithasol ac yn amserol (fframwaith EAST). 
  5. Defnyddio rhestr hir y tîm o 60+ o syniadau ar atebion cyfathrebu.
  6. Teilwra negeseuon, gan wneud yn siŵr eich bod yn ystyried amgylchiadau ac agweddau gwahanol. 
  7. Cynnal rhagor o waith ymchwil ar rwystrau a galluogwyr ymddygiadau penodol yn ymwneud â’r hinsawdd, gan geisio mewnbwn arbenigol a negeseuon prawf defnyddwyr, yn ogystal â gwerthuso'n drylwyr. 
  8. Bod yn ymwybodol o gyfyngiadau cyfathrebu a cheisio newidiadau polisi mwy i annog newid ymddygiad. 

Roedd argymhellion yr adolygiad o dystiolaeth hefyd yn cynnwys amcanion tymor byr yr ymgyrch gyfathrebu ynghylch yr hyn y mae ymddygiadol yn gofyn am ganolbwyntio arno. Awgrymodd yr adolygiad o dystiolaeth y gellid cyflwyno dewisiadau gwyrdd mewn dwy brif ffordd:

a)    Yr hyn rydym yn gofyn amdano: galwad i weithredu rhesymol
Mae'r rhain yn gyfathrebiadau sy'n gofyn yn uniongyrchol i'r cyhoedd yng Nghymru (ac yn eu hannog) wneud dewisiadau gwyrdd sydd eisoes yn bosibl i'r rhan fwyaf o bobl eu mabwysiadu neu sydd wedi'u cefnogi'n dda gan fesurau polisi, y mae digon o'r cyhoedd yn barod amdanynt, sy'n gallu lleihau allyriadau yn ystyrlon, ac y gall ymgyrch gael effaith ystyrlon arnynt o gael ei chyflawni'n effeithiol. Mae cyfle i 'ofyn' i bobl ymgymryd â dewisiadau llai ar unwaith sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer newidiadau mwy.

b)    Paratoi: neges sy’n ennyn diddordeb er mwyn adeiladu cam wrth gam
Mae'r rhain yn gyfathrebiadau sydd â'r nod o feithrin ymddiriedaeth, cyfreithlondeb, gwybodaeth a normau ynghylch camau gweithredu sydd â llai o gefnogaeth yn gyffredinol, yn hytrach na gofyn am weithredu uniongyrchol. Y nod yw paratoi at ddewisiadau a allai: ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddangos cyfreithlondeb, cyllid, arweinyddiaeth neu ymdrechion polisi yn y dyfodol, sydd angen mwy o ymddiriedaeth a bod yn gyfarwydd, sydd heb lefelau uchel o gefnogaeth y cyhoedd eto, neu sy’n destun bylchau o ran gwybodaeth/ymwybyddiaeth. Mae cyfle i gael pobl Cymru i ‘baratoi' at y syniad drwy annog camau canolradd llai a allai eu paratoi ar gyfer camau mwy.

Canfyddiadau arolygon a grwpiau ffocws   

Fel rhan o'r arolwg a'r grwpiau ffocws, rhoddwyd dulliau cyfathrebu a phynciau ar brawf. Datblygwyd y rhain yn seiliedig ar ganlyniadau'r adolygiad o dystiolaeth. Y meysydd ffocws oedd y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

  1. Helpu pobl i adnabod cynhyrchion a gwasanaethau mwy cynaliadwy.
  2. Egluro beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. llywodraeth leol, busnesau lleol).
  3. Cyfleu'r hyn y maen nhw'n ei wneud i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. sut rydym yn lleihau'r defnydd o ynni yn adeiladau'r llywodraeth).
  4. Annog pobl i weithredu.
  5. Amlinellu cynllun ar gyfer sut bydd Cymru'n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd. 
  6. Darparu gwybodaeth am sut gall pobl baratoi ar gyfer technolegau newydd a newidiadau eraill (e.e. ceir trydan, pympiau gwres).
  7. Darparu gwybodaeth am gamau gweithredu effeithiol y gall pobl eu cymryd ar unwaith i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd).

Cefnogwyd pob un o'r saith agwedd ar ymgyrch gyfathrebu a awgrymwyd gan fwyafrif o ymatebwyr yr arolwg (cefnogaeth o rhwng 82 ac 87 y cant ar gyfer pob agwedd). O'r ymatebwyr i'r arolwg, roedd cyfran is o ddynion a chyfran is ymhlith y rhai o grwpiau economaidd-gymdeithasol is o'r farn bod y pynciau cyfathrebu yn bwysig. 

Edrychodd yr arolwg a'r grwpiau ffocws hefyd ar bynciau penodol lle gellid gwneud dewisiadau gwyrdd y manylir arnynt yng nghynllun Sero Net Cymru a hefyd y rhai a nodwyd o’r adolygiad o dystiolaeth. Archwiliwyd ymhellach a hoffai'r cyhoedd glywed gan Lywodraeth Cymru ar y pynciau hyn. Roedd y pynciau'n cynnwys siopa mewn modd cynaliadwy, dim ond prynu'r hyn sydd ei angen arnoch i leihau gwastraff, atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau (yn lle prynu eitemau newydd), ailgylchu a lleihau gwastraff bwyd. Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr yr hoffent glywed gan Lywodraeth Cymru ar y rhan fwyaf o'r pynciau allweddol o ran cynaliadwyedd. Fodd bynnag, roedd cefnogaeth yn is ar gyfer y pwnc trafnidiaeth ac yn gymysg mewn perthynas â’r pwnc dewisiadau bwyd gwyrdd. Yn benodol, roedd yr ymatebwyr yn gefnogol iawn i wastraff bwyd gael ei gynnwys mewn ymgyrch, ond cynnwys newid mewn deiet gafodd y lefel isaf o gefnogaeth ym mhob un o'r meysydd. 

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio hefyd ar rwystrau i gamau gweithredu ar draws meysydd pwnc dewisiadau gwyrdd allweddol. Mae'r prif ganfyddiadau a adroddwyd yma yn canolbwyntio ar ganlyniadau'r arolwg. Fodd bynnag, atgyfnerthwyd y rhain yn y trafodaethau ansoddol yn y grwpiau ffocws.  

  • Y tri phrif rwystr i arbedion ynni oedd: diffyg llythrennedd ynni, cysur thermol yn y cartref (dewis cael cartref cynnes) ac anallu i arbed mwy o ynni nag oeddent eisoes yn ei wneud. Mae 2 o bob 3 yn dweud eu bod eisoes yn arbed cymaint o ynni â phosibl.
  • Y prif rwystr, a ddewiswyd gan y rhan fwyaf o ymatebwyr, i dderbyn addasiadau i'r cartref fel inswleiddio atig, paneli solar i wneud cartrefi'n fwy effeithlon o ran ynni, oedd y gost uchel ymlaen llaw. Fodd bynnag, nododd bron i 1 o bob 5 ddiffyg gwybodaeth am beth i'w wneud a sut i wneud eu cartref yn fwy effeithlon o ran ynni.
  • Y prif rwystrau sy'n atal pobl rhag gwneud mwy o ddefnydd o deithio llesol oedd: bod eu taith nodweddiadol yn rhy hir ar gyfer cerdded neu feicio (dyma oedd ateb 1 o bob 3). Awgrymodd eraill nad oedd yn gyfleus neu nad oeddent yn berchen ar feic. 
  • Nododd yr arolwg amrywiaeth o rwystrau a oedd yn atal pobl rhag gwneud rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys: diffyg seilwaith, fel diffyg trafnidiaeth gyhoeddus dda yn eu hardal fel y prif rwystr (a adroddwyd gan 1 o bob 3), ac yna cost gymharol is gyrru o'i gymharu â mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus (a adroddwyd gan 1 o bob 5). Byddai 1 o bob 10 yn croesawu rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael iddynt yn lleol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. 
  • Y rhwystrau mwyaf o bell ffordd a oedd yn atal pobl rhag cael cerbydau trydan (EV) fel yr adroddwyd gan ymatebwyr yr arolwg, oedd y gost uchel ymlaen llaw uchel. Dyna oedd ateb 1 o bob 2. Yn ogystal, nododd bron i 1 o bob 5 o'r ymatebwyr nad oeddent yn gwybod digon am gerbydau EV neu y byddai angen dwyn perswâd arnynt.
  • Nododd y mwyafrif o'r ymatebwyr nad oedd unrhyw rwystrau a oedd yn eu hatal rhag lleihau gwastraff bwyd (6 o bob 10). Fodd bynnag, o'r ymatebwyr eraill, roedd 1 o bob 5 yn ei chael hi'n anodd lleihau eu gwastraff bwyd. Roedd 1 o bob 10 yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud a sut. 
  • Nid oedd yr arolwg yn nodi unrhyw rwystrau a oedd yn atal pobl rhag bwyta llai o gig a llaeth. Dim ond 1 o bob 3 a ddywedodd eu bod yn gwrthwynebu bwyta llai o gig a chynhyrchion llaeth. 
  • Y prif rwystrau a oedd yn atal pobl rhag siopa'n gynaliadwy, fel prynu bwyd organig neu dymhorol yn bennaf neu brynu eitemau gyda llai o becynnu oedd cost. Dywedodd y mwyafrif, 1 o bob 3, fod opsiynau cynaliadwy yn rhy ddrud. Roedd lleiafrif o ymatebwyr yn ei chael hi'n anodd adnabod gwybod pa eitemau siopa sydd fwyaf cynaliadwy (1 o bob 10). 
  • Y prif rwystrau a adroddwyd a oedd yn atal pobl rhag atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau fel cyfarpar neu offer trydanol oedd yr anhawster i wneud hynny (1 mewn 5), a diffyg gwybodaeth ynghylch sut i fynd ati (1 o bob 10). Y rhwystr mwyaf a adroddwyd oedd ei bod hi'n anodd atgyweirio ac ailddefnyddio (ar gyfer 1 o bob 5).

Casgliad

Mae'r canfyddiadau a'r argymhellion yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall yn well ymddygiad y cyhoedd mewn perthynas â’r camau gweithredu yng nghynllun Sero Net Cymru sy'n gofyn am newid yn y dewisiadau y mae'r cyhoedd yn eu gwneud. Fe'u defnyddiwyd hefyd i lywio'r strategaeth newydd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgyrch a gwefan Gweithredu ar Newid Hinsawdd. 

Manylion cyswllt

Awduron: Tîm Cyfathrebu Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru

Mae’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd i Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth:

E-bostiwch:  newidhinsawdd@llyw.cymru

Atodiad A: cwestiynau arolwg

Parodrwydd i weithredu 

QBC1

Hoffem gael eich barn ar gamau y gallai pobl eu cymryd i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Pa mor barod ydych chi i wneud y canlynol yn y flwyddyn nesaf? [Randomise order of behaviours]

  • Siopa'n gynaliadwy (e.e. lleol, organig, bwyd tymhorol, llai o becynnu, cynhyrchu cynaliadwy etc.)
  • Dim ond prynu'r hyn sydd ei angen arnoch i leihau gwastraff
  • Atgyweirio neu ailddefnyddio pethau yn hytrach na phrynu o'r newydd
  • Ailgylchu mwy
  • Lleihau eich gwastraff bwyd (e.e. bwyta bwyd dros ben yn ddiweddarach yn hytrach na'i daflu)
  • Lleihau eich defnydd o ynni yn y cartref (e.e. defnyddio offer ar y modd eco, gostwng tymheredd eich thermostat)
  • Newid i dariff ynni gwyrdd
  • Gyrru llai a cherdded neu feicio yn amlach
  • Gyrru llai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach  

[Bendant ddim yn barod / Annhebygol / Ddim yn siŵr / Mae'n debygol / Bendant yn barod / Dwi'n gwneud hyn eisoes] [Invert scale between participants, but with ‘I do this already’ always at the end] 

QBC2

Pa mor barod ydych chi i wneud y canlynol yn y pum mlynedd nesaf? [Randomise order of behaviours]

  • Addasu eich tŷ i'w wneud yn fwy effeithlon o ran ynni (e.e. inswleiddio atig, wal neu lawr)
  • Newid i ynni adnewyddadwy yn y cartref (e.e. paneli solar, pympiau gwres)
  • Newid i gerbyd allyriadau is (e.e. hybrid neu drydan)
  • Dewis hedfan llai
  • Newid eich deiet i fwyta llai o gig a chynhyrchion llaeth a mwy o lysiau

 [Bendant ddim yn barod / Annhebygol / Ddim yn siŵr / Mae'n debygol / Bendant yn barod / Dwi'n gwneud hyn eisoes] [Invert scale between participants, but with ‘I do this already’ always at the end] 

QBC3

Efallai y bydd angen rhywfaint o baratoi ar gyfer rhai o'r camau gweithredu tymor hir hyn. Pa mor barod ydych chi i wneud y canlynol nawr, i baratoi ar gyfer newidiadau yn y 5 mlynedd nesaf? [Randomise order of behaviours]

  • Rhoi tro ar yrru cerbyd trydan 
  • Cyfnewid un math o daith i feicio/cerdded (e.e. y cymudo, y daith i'r ysgol, siopa bwyd)
  • Lleihau tymheredd llif eich boeler (y tymheredd y mae eich boeler yn cynhesu'r dŵr iddo cyn ei anfon i'ch rheiddiaduron)
  • Gosod mesurydd clyfar (mesurydd nwy a thrydan sy’n darllen lefelau defnydd ei hun gyda sgrin yn y cartref sy'n dangos faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau)
  • Gwirio tystysgrif perfformiad ynni eich cartref (EPC) ar-lein a pha fesurau effeithlonrwydd ynni sy'n cael eu hargymell 
  • Ymchwilio i grantiau gan y Llywodraeth ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy (e.e. cymorth ariannol ar gyfer pympiau gwres, paneli solar ac inswleiddio)
  • Ymchwilio i ryseitiau ar gyfer deiet iach a chynaliadwy sy'n cynnwys llai o gig a mwy o lysiau / protein o blanhigion 
  • Ymchwilio i ddewisiadau amgen i hedfan wrth deithio dramor 

[Bendant ddim yn barod / Annhebygol / Ddim yn siŵr / Mae'n debygol / Bendant yn barod / Dwi'n gwneud hyn eisoes] [Invert scale between participants, but with ‘I do this already’ always at the end] 

Rhwystrau i ymddygiad

[Single response answers - randomise order but keep “Nothing stops me”, “I don’t know” and “Other” at the end]

QBC4a

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag lleihau eich defnydd o ynni yn y cartref? 

  • Dydw i ddim yn siŵr pa newidiadau y mae angen i mi eu gwneud neu ba newidiadau sy'n lleihau ynni fwyaf
  • Rwyf eisoes yn arbed cymaint ag y gallaf 
  • Mae'n well gen i gael cartref cynnes 
  • Does dim byd yn fy stopio 
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4b

 Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag addasu eich cartref i'w wneud yn fwy effeithlon o ran ynni (e.e. paneli solar, pwmp gwres, neu inswleiddio atig, wal neu lawr)?

  • Mae'n ddrud
  • Mae'n anghyfleus (e.e. yn amharu, yn cymryd llawer o amser)
  • Mae angen rhagor o wybodaeth arnaf am beth yn union i'w wneud a sut
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig ei fod yn angenrheidiol ar gyfer fy nghartref 
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4C

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag lleihau eich gwastraff bwyd?

  • Mae'n anodd ei wneud (e.e. cynllunio siopa, coginio dim ond cymaint ag sydd ei angen, rhewi ac ailddefnyddio)
  • Dydw i ddim yn hoffi'r syniad o fwyta bwyd dros ben
  • Mae angen rhagor o wybodaeth arnaf am beth yn union i'w wneud a sut
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4d

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag bwyta llai o gig a chynhyrchion llaeth a mwy o lysiau?

  • Mae'n anodd ei wneud (e.e. dysgu a rhoi cynnig ar ryseitiau newydd, goresgyn arferion)
  • Mae dewisiadau eraill yn fwy costus
  • Mae angen rhagor o wybodaeth arnaf am beth yn union i'w wneud a sut
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig ei fod yn dda i'm hiechyd
  • Dydw i ddim yn ymwybodol o sut mae cig a chynhyrchion llaeth yn effeithio ar newid hinsawdd 
  • Dwi'n mwynhau bwyta cig a chynhyrchion llaeth a dydw i ddim am fwyta llai
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4e

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag gyrru llai a cherdded neu feicio mwy? 

  • Mae'n llai cyfleus oherwydd diffyg llwybrau cerdded a beicio da yn fy ardal
  • Mae'r rhan fwyaf o'm teithiau yn rhy bell i gerdded neu feicio 
  • Dydw i ddim yn berchen ar feic
  • Dwi'n mwynhau gyrru a dydw i ddim yn dymuno cerdded neu feicio yn lle hynny
  • Mae angen rhagor o wybodaeth arnaf am lwybrau cerdded a beicio yn fy ardal
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel yn cerdded a beicio
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC42f

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag gyrru llai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fwy?

  • Mae'n llai cyfleus oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus dda yn fy ymyl
  • Mae'n rhatach gyrru na defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Dwi'n mwynhau gyrru a dydw i ddim am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny
  • Mae angen rhagor o wybodaeth arnaf am lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ac opsiynau yn fy ardal 
  • Dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4g

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag newid i gerbyd allyriadau is (e.e. hybrid neu drydan)?

  • Mae'n ddrud 
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Dydw i ddim yn gwybod digon am y peth
  • Dwi'n hoffi fy nghar presennol a dydw i ddim wedi dod o hyd i gerbyd EV sy'n well gen i
  • Mae'n anodd ei wneud (e.e. diffyg gwefrwyr cyhoeddus, methu cael gwefrydd fy hun)
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4h

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag hedfan llai?

  • Mae'n ddrud teithio gan ddefnyddio dewisiadau amgen (ee trên, fferi) 
  • Mae'n llai cyfleus teithio gan ddefnyddio dewisiadau amgen (e.e. mae'n arafach, yn anoddach ei drefnu, yn golygu newid yn amlach)
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Dydw i ddim yn gwybod digon am ffyrdd eraill o deithio
  • Dwi’n mwynhau hedfan  
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4i

eth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag prynu cynhyrchion mwy cynaliadwy (e.e. lleol, organig, tymhorol, llai o ddeunydd pacio, cynhyrchu cynaliadwy etc.)?

  • Mae'n ddrud
  • Mae'n anodd dod o hyd i gynhyrchion cynaliadwy yn fy ardal leol 
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Mae'n anodd gwybod pa gynhyrchion sy'n wirioneddol gynaliadwy 
  • Dwi'n hoffi'r brandiau dwi'n eu prynu ar hyn o bryd a dydw i ddim am newid 
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [free text box]

QBC4j

Beth, os unrhyw beth, yw'r rheswm mwyaf sy'n eich atal rhag atgyweirio ac ailddefnyddio pethau yn lle prynu pethau newydd?

  • Mae'n rhatach prynu pethau newydd 
  • Mae'n anodd ei wneud (h.y. angen amser, sgiliau neu gyfarpar/offer)
  • Dydw i ddim yn argyhoeddedig mai dyma'r peth iawn i'w wneud
  • Dydw i ddim yn gwybod digon am y peth
  • Dwi'n mwynhau siopa am eitemau newydd 
  • Does dim byd yn fy stopio
  • Ddim yn gwybod
  • Arall [blwch testun am ddim]

Ymgyrch gyfathrebu Llywodraeth Cymru 

Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio ymgyrch gyfathrebu newydd ar newid hinsawdd yn fuan. 

QBC5

Pa mor bwysig yw hi fod yr ymgyrch newydd yn gwneud y canlynol? [Randomise order of behaviours]

  • Darparu gwybodaeth am gamau gweithredu effeithiol y gall pobl eu cymryd ar unwaith i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. arbed ynni, lleihau gwastraff bwyd)
  • Darparu gwybodaeth am sut gall pobl baratoi ar gyfer technolegau newydd a newidiadau eraill (e.e. ceir trydan, pympiau gwres)
  • Annog pobl i weithredu
  • Amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer sut bydd Cymru yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd 
  • Egluro beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. sut mae'n lleihau'r defnydd o ynni yn adeiladau'r llywodraeth)
  • Egluro beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd (e.e. llywodraeth leol, busnesau lleol)
  • Helpu pobl i adnabod cynhyrchion a gwasanaethau mwy cynaliadwy

[Pwysig iawn / Eithaf pwysig / Ddim yn bwysig iawn / Ddim yn bwysig o gwbl / Ddim yn gwybod]

QBC6

Dyma rai pynciau y gallai Llywodraeth Cymru eu cynnwys yn yr ymgyrch gyfathrebu i hysbysu ac annog pobl yng Nghymru i weithredu. Dywedwch wrthym a ydych chi'n credu y dylid cynnwys pob un ai peidio.
[Randomise order of topics]

  • Siopa'n gynaliadwy (e.e. lleol, organig, tymhorol, llai o becynnu, cynhyrchu cynaliadwy etc.)
  • Dim ond prynu'r hyn sydd ei angen arnoch i leihau gwastraff
  • Atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau (yn hytrach na phrynu pethau o'r newydd)
  • Ailgylchu
  • Lleihau gwastraff bwyd
  • Bwyta llai o gig a chynhyrchion llaeth a mwy o lysiau
  • Lleihau'r defnydd o ynni yn y cartref 
  • Newid i dariff ynni gwyrdd 
  • Addasu eich cartref i'w wneud yn fwy effeithlon o ran ynni (e.e. inswleiddio atig, waliau neu loriau)
  • Newid i ynni adnewyddadwy yn y cartref (e.e. paneli solar, pympiau gwres)
  • Gyrru llai a cherdded neu feicio yn amlach
  • Gyrru llai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn amlach  
  • Newid i gerbyd allyriadau is (e.e. hybrid neu drydan)
  • Hedfan llai

Dylid ei gynnwys / Ni ddylid ei gynnwys / Ddim yn gwybod 

QBC7

Pa un o'r buddion canlynol fyddech chi'n cefnogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio yn yr ymgyrch gyfathrebu er mwyn annog pobl i gymryd camau i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd? Dewiswch bob un sy’n berthnasol.
[Randomise order of behaviours]

  • Sut gall newidiadau wneud pobl yn fwy iach
  • Sut gall newidiadau arbed arian i bobl
  • Sut gall newidiadau fod o fudd i'r amgylchedd 
  • Sut gall newidiadau fod yn gyfleus 
  • Sut mae llawer o bobl eraill yn gwneud newidiadau (e.e. pobl rydych chi'n eu hadnabod, enwogion)