Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Drwy weithio gyda’n gilydd, nod ein cenhadaeth genedlaethol yw sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb drwy fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr. Mae gwireddu'r uchelgais gyffredin honno’n golygu bod angen adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes, dysgu o’r arferion effeithiol, a sicrhau bod yr wybodaeth a'r adnoddau sydd ar gael yn cael eu targedu i gyflawni'r canlyniadau yr ydym i gyd am eu gweld, sef bod dysgwyr ledled Cymru yn cael y profiadau a'r deilliannau dysgu gorau posibl, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae ein system addysg gyhoeddus a chyfartal yn destun balchder a hyder cenedlaethol. Ond rydym hefyd yn gwybod bod gormod o amrywiaeth rhwng ysgolion a rhwng ardaloedd daearyddol. Mae hon yn her inni i gyd ac yn un yr ydym yn mynd i'r afael â hi gyda’n gilydd o reidrwydd moesol. Mae hynny'n golygu bod angen i bob rhan o'r system fod yn benderfynol o gydweithio i'r perwyl gorau, hynny yw, system sy’n seiliedig ar ysbryd o gydweithio nid cystadleuaeth, ac un lle y mae cynnydd, cyflawniad a lles dysgwyr, gan gynnwys lles pobl sy’n gweithio fel rhan o’r system, yn ganolog i’r cyfan.

Mae'r canllawiau ar wella ysgolion a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi sut y dylai'r dull gweithredu esblygu dros y blynyddoedd nesaf i gefnogi'r cwricwlwm newydd: Mae'r wyth ffactor yn y canllawiau yn darparu fframwaith cenedlaethol i helpu'r system ganolbwyntio ar set o flaenoriaethau cyffredin, sy’n cynnig hyblygrwydd lleol, ac mae'r canllawiau’n pwysleisio pwysigrwydd cydweithio i gyflawni'r rhain. Mae hynny hefyd wedi'i bwysleisio yn y Dealltwriaeth Gyffredin o Gynnydd. Dylai ein dull gweithredu yn y dyfodol flaenoriaethu gweithio ar y cyd, mewn clystyrau a rhwng clystyrau, i ddarparu dull cyson o ymdrin â chynnydd dysgwyr ledled Cymru, a chydweithio tuag at yr un set o flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella. Mae angen i ymdrechion ar draws pob rhan o'r system sy'n effeithio ar wella ysgolion esblygu i gyflawni'r ffocws a’r cysondeb hwnnw. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni sicrhau bod elfennau sylfaenol o gymorth ar gyfer y cwricwlwm yn gyson ledled Cymru i greu'r llwyfan ar gyfer ymrwymiad a chydlyniant cenedlaethol. Mae ein ffordd o weithio mewn partneriaeth â’r Consortia Rhanbarthol a’r Partneriaethau ac Awdurdodau Lleol wrth ddylunio ac asesu’r cwricwlwm ac wrth weithio ar egwyddorion gwneud cynnydd yn datblygu i gefnogi ysgolion. 

Yn y cyd-destun hwn, a chan gydnabod bod y system addysg yn gymhleth am fod gan bartneriaid wahanol statws, swyddogaethau, blaenoriaethau a strwythurau, ceir ymroddiad i adolygu cyfeiriad a rolau a chyfrifoldebau partneriaid yn y dyfodol, a datblygu trefniadau cydweithredol pellach i wella ysgolion i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol. Bydd hyn yn fodd i ystyried beth sydd ei angen ar y system mewn ffordd gyfunol, amserol a thryloyw wrth inni edrych tua'r dyfodol.

Nodau

  • Archwilio nodweddion y system bresennol, nodi beth sy'n gweithio'n dda ac yn llai da, a sut y gellid gwneud gwelliannau.
  • Deall ehangder y safbwyntiau a'r profiadau o bob rhan o'r system, gan fod yn ystyriol o’r pwysau ac o’r gweithgareddau o ddydd i ddydd sy’n parhau.
  • Nodi sut y gellir gwella capasiti, dulliau cydweithio a ffyrdd o weithio er budd dysgwyr a phawb sy'n cefnogi dysgwyr ledled Cymru.
  • Helpu i lywio barn fel bod dull clir wrth symud ymlaen, a bod gennym ddull y gallwn fod yn hyderus ohono sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Diben a chwmpas

Bydd yr adolygiad yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i’r canlynol:

  • Sicrhau eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau'r sefydliadau a'r partneriaid yn y system addysg [troednodyn 1], gan nodi meysydd lle gwelir cydymdrechu ac unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth, a darparu disgrifiadau diamwys o gyfrifoldeb ac atebolrwydd ar gyfer pob sefydliad a phartner.
  • Ystyried y ffordd orau y gall sefydliadau a phartneriaid yn y system addysg, o wybod eu rolau a'u meysydd cyfrifoldeb priodol (o ran y ffordd y maent yn ymwneud ag ysgolion a darpariaeth oedran chweched dosbarth), gydweithio ar sail gynaliadwy i gefnogi dysgwyr, gweithwyr addysg proffesiynol, arweinwyr a'r gweithlu ehangach.
  • Ystyried, yng nghyd-destun y daith ddiwygio sefydledig ehangach, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a’r Papur Gwyn ar Addysg Gymraeg, yn benodol, sut y gall pob partner yn y system gwella ysgolion weithio gyda’i gilydd i gefnogi cydweithredu mewn clystyrau a rhwng clystyrau i gyflawni blaenoriaethau cyffredin.
  • Gosod disgwyliadau mewn perthynas â’r trefniadau i wella ysgolion ar gyfer system addysg Cymru sy'n adeiladu ar yr arferion effeithiol presennol, yn adlewyrchu tystiolaeth a phrofiadau o Gymru ac yn rhyngwladol yn y maes hwn, ac yn ymateb i heriau presennol a rhai’r dyfodol, gan gynnwys mewn perthynas â llwyth gwaith, gofynion cyllido, effaith a gwerth am arian, a datblygu polisi.

Bydd cyflawni'r gofynion hyn yn golygu ystyried llawer o ffynonellau gwybodaeth amrywiol a meysydd o ddiddordeb tebygol. Bydd cwmpasu’r rhain a chytuno arnynt yn gam cyntaf pwysig yr adolygiad. Mae Atodiad A yn nodi amrywiaeth o ystyriaethau posibl.

[1] Y rheini y cyfeiriwyd atynt yn gynt fel yr ‘haen ganol’ yn ‘Addysg yng Nghymru: cynllyn gweithredu 2017 i 2021’, a hefyd sy’n cynnwys yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL) a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sy'n dod yn gwbl weithredol o fis Ebrill 2024.

Amseru

Cyhoeddir adroddiad ar yr adolygiad ym mis Mawrth 2024.

Llywodraethu

  • Bydd yr adroddiad ar yr Adolygiad ar gyfer Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
  • Bydd yr Adolygiad yn cael ei arwain yn annibynnol, a'i gefnogi gan ysgrifenyddiaeth yn Adran Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru.
  • Bydd swyddogion yr Adolygiad yn gweithio'n agos â phartneriaid a sefydliadau ar draws y system addysg i sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o'r maes.

Canlyniadau a’r hyn y gellir ei gyflawni

Dogfennau a gyhoeddir yn amlinellu:

  • rolau a chyfrifoldebau ar gyfer pob partner neu sefydliad
  • y modd y mae angen i'r rolau hyn esblygu i fodloni ein disgwyliadau o’r ffordd y gallwn gydweithio yn y dyfodol i wella ysgolion
  • nodi cydymdrechion, bylchau a gwaith dyblygu, a llwybr clir i fynd i’r afael â nhw

Atodiad A

Materion posibl i’w hystyried

Gallai’r rhain gynnwys:

  • Cyd-destun ehangach y diwygiadau yn system addysg Cymru fel cefndir i'r adolygiad hwn, a chynnydd a lles dysgwyr yn ganolog i’r cyfan.
  • Sut y gellir gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion llwyddiannus o dan y Cwricwlwm i Gymru yn well, fel y'i mynegir yn y canllawiau i wella ysgolion, drwy drefniadau a ffyrdd o weithio.
  • Menter Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a dull gweithredu’r menter hwnnw fel ffordd o ddeall unrhyw faterion a chyfleoedd.
  • I ba raddau y mae cysondeb o ran dealltwriaeth a’r iaith a ddefnyddir mewn perthynas â 'gwella ysgol' a 'system hunanwella’, ac a oes heriau a gydnabyddir i’w hwynebu i wireddu ‘system hunanwella’.
  • Sut mae'r trefniadau presennol i wella ysgolion yn helpu ysgolion i hunanwerthuso’n effeithiol, ac a fyddai newidiadau yn helpu i gryfhau hyn a'r uchelgais gyffredin ar gyfer system hunanwella, safbwynt yr ysgol.
  • A oes angen unrhyw newidiadau i sicrhau bod gweledigaeth gyffredin a sail glir a chryf ar gyfer cydweithredu parhaus ac effeithiol mewn perthynas â gwella ysgolion.
  • Nodi pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion o ran gwasanaethau gwella, sut mae eu hanghenion yn cael eu nodi a’u trin, a oes bylchau yn y ddarpariaeth bresennol a sut y gellir cau’r bylchau hynny.
  • I ba raddau y mae gwasanaethau a chymorth a ddarperir gan bartneriaid, sy’n ymwneud â maes ehangach nag addysg, yn chwarae rhan wrth gefnogi gwelliant a dysgwyr, er enghraifft ystyried ffactorau sy'n effeithio ar bresenoldeb dysgwyr.
  • Edrych ar y rôl unigryw y mae pob sefydliad yn ei chwarae, gan gynnwys cyfrifoldebau cyfredol, statws y sefydliad, disgwyliadau tybiedig ac unrhyw beth sy'n destun gwrthdaro rhwng sefydliadau yn sgil amwysedd neu ffactorau eraill.
  • Y ffordd orau y gellid gwireddu'r ymrwymiad i gydweithio, sydd wrth wraidd y ffordd yr ydym yn cyflawni yn erbyn yr amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yng nghyd-destun yr adolygiad hwn.
  • Ystyried y ffordd orau y gall y sefydliadau canlynol yn benodol, o ystyried eu rolau a’u cyfrifoldebau penodol, gydweithio ar sail gynaliadwy i gefnogi dysgwyr, gweithwyr addysg proffesiynol ac arweinwyr:
    • Awdurdoau Lleol
    • Consortia Rhanbarthol a Phartneriaethau
    • Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
    • Prifysgolion
    • Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
  • Ystyried sut mae rôl Estyn fel adran gwasanaeth sifil hyd braich yn wahanol i rolau a chyfrifoldebau sefydliadau eraill.
  • Ystyried y gefnogaeth a ddarperir gan Gyrff Llywodraethu ac Awdurdodau Esgobaethol, a'u perthynas â sefydliadau partner.
  • Ystyried cefnogaeth a datblygiad arweinyddiaeth strwythuredig, rhaglenni datblygu arweinyddiaeth, a dysgu proffesiynol ar wahân i gymorth wedi'i dargedu at wella ysgolion a lleoliadau unigol.
  • Nodi pa rôl y gallai pob sefydliad ei chwarae yn y dyfodol, os oes rôl, o ran gweithredu trefniadau gwella ysgolion, gan gynnwys disgwyliad i gydweithio, a nodi unrhyw rwystrau posibl i wneud hynny.
  • Sut y gellid cefnogi gweithredu'r Cod ADY a'r diwygiadau orau drwy drefniadau a ffyrdd o weithio yn y dyfodol, wrth weithredu'r diwygiadau ADY y nod yw bod ysgolion yn cefnogi dysgwyr ag ADY i nodi ac ymateb i'w hanghenion.
  • Gofynion cyllido ac adnoddau posibl mewn perthynas â threfniadau gwella ysgolion.
  • Pa mor dda y mae sefydliadau, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau gwella ysgolion, yn gwerthuso effaith eu gweithgareddau i gefnogi gwerth am arian.
  • Cyfleoedd i fynd i'r afael â llwyth gwaith diangen a chefnogi lles staff, er enghraifft mewn perthynas â chasglu a gofynion data neu gwybodaeth.
  • I ba raddau y mae’r pandemig wedi effeithio ar drefniadau gwella ysgolion, ac i ba raddau y dylid ystyried hyn.
  • Ystyried y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil mewn perthynas â chweched dosbarth ysgolion a gynhelir (o ran dyletswydd i sicrhau a chyllido), a derbyn bod y diwygiadau addysg ôl-orfodol wedi’u cyflwyno drwy Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 a bod y Comisiwn yn dod yn gwbl weithredol o fis Ebrill 2024, gan gynnwys ei rôl a'i gysylltiad o ran dull ar draws y system i wella ysgolion a system hunanwella gynaliadwy.
  • Ystyried sut y gellid disgrifio'r system addysg yn unol â gwahanol statws, swyddogaethau a strwythurau sefydliadau partner i helpu i sicrhau dealltwriaeth ac eglurder.
  • Nodi a diffinio sut y dylai gwasanaeth gwella ysgolion a system hunanwella effeithiol edrych yn y dyfodol, drwy ystyried y canolynol:
    • Y weledigaeth a'r uchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru, gan gynnwys mewn perthynas ag Addysg Gymraeg: papur gwyn (a Bil Addysg Gymraeg a fydd yn dilyn hwnnw), a chreu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
    • Arferion effeithiol a datblygiadau polisi mewn systemau addysg eraill, gan gynnwys yn rhyngwladol, ac mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol, ochr yn ochr ag achosion engrheifftiol yng Nghymru.
    • Sut mae rôl statudol Estyn yn rhyngweithio â chyfrifoldebau sefydliadau eraill yn system addysg Cymru, ac yn benodol sut mae rhannau o'r system yn gweithredu ac yn rhyngweithio cyn, yn ystod ac ar ôl arolygiadau.
    • Cynyddu arferion effeithiol sydd eisoes wedi'u nodi gan bartneriaid ar draws y system, a sut y gellid cyflawni hyn orau.
    • Rôl dysgu rhwng ysgolion, cymorth gan gymheiriaid, mentora a hyfforddi, clystyrau, ffederasiynau a mathau eraill o gydweithio sy'n gwella capasiti ysgolion i ddatblygu a gwella.
    • Arweinyddiaeth systemau, a chyfleoedd i wella hynny ymhellach drwy gydweithio, gan adlewyrchu arferion effeithiol a nodir gan bartneriaid.
    • Meysydd penodol gwella arferion dysgu, addysgu ac arwain.
    • Cwmpas a graddfa catalyddion allanol i gefnogi gwelliant, gan gynnwys pwysigrwydd ymchwil a deallusrwydd neu mewnwelediad cyfoes, arweiniol a chymhwysol a gesglir drwy weithgareddau partneriaid ar draws y system.
    • Ffyrdd y gallai ymyriadau cynnar effeithiol a rhagweithiol gael eu cynnal i osgoi’r angen i roi ysgolion mewn categorïau statudol, ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol a’r systemau cymorth.
    • Dulliau o ymgorffori a chynnal gwelliannau ysgolion a systemau yn dilyn cynnydd cychwynnol, a sut y gellid cyflawni hyn heb greu baich biwrocrataidd ar ysgolion.
    • Deall unrhyw bwysau, heriau, gwendidau sy’n ymwneud â’r ffyrdd o weithio a’r trefniadau presennol.
    • Barn arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion ar draws y system addysg ehangach i nodi sut y gallai trefniadau gwella ysgolion esblygu orau, gan adlewyrchu ehangder y safbwyntiau.

Ffynonellau gwybodaeth i lywio'r adolygiad

Mae yna wahanol ffyrdd y gellid cynnal yr adolygiad, a gofyniad allweddol o'r cychwyn cyntaf fydd chwilio am wybodaeth a dysgu ohoni er mwyn galluogi canfyddiadau ac argymhellion cadarn a gwrthrychol. Bydd y ffynonellau gwybodaeth a’r dystiolaeth yn cynnwys y canlynol o leiaf:

  • y rolau a’r cyfrifoldebau presennol sydd wedi’u cyhoeddi
  • rôl a chyfrifoldebau statudol y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol
  • dogfennau polisi a chanllawiau presennol, a gwybodaeth am Estyn
  • Trefniadau’r Awdurdodau Lleol mewn Consortia Rhanbarthol a Phartneriaethau
  • Consortia Rhanbarthol a Phartneriaethau
  • Trefniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phob sefydliad
  • yr ymchwil ddiweddaraf sy’n ymwneud â gwasanaethau, trefniadau a dulliau gwella ysgolion
  • profiadau a mewnwelediadau ysgolion neu ymarferwyr, gan gynnwys staff cymorth a'r gweithlu ehangach, sy’n adlewyrchu ehangder y safbwyntiau, 'profiad yr ysgol’
  • barn neu tystiolaeth gan bartneriaid allweddol o fewn y system addysg yng Nghymru
  • arferion da lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol
  • adolygiadau allanol blaenorol sy’n ymwneud â’r system addysg yng Nghymru