Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Comisiynodd Adran yr Economi Gylchol ac Effeithlonrwydd Adnoddau Llywodraeth Cymru Beaufort Research i gynnal arolwg o boblogaeth Cymru i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd ynghylch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar ddod i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad a fydd yn cael ei gyflwyno cyn hir ar blastigau untro.

Mae’r newidiadau nid yn unig yn hoelio sylw ar wella faint o ailgylchu sy’n cael ei wneud ac ansawdd yr ailgylchu hwnnw ond maent hefyd yn hanfodol i gyflawni ymrwymiadau Cymru i sicrhau dyfodol diwastraff a lleihau ein hallyriadau carbon erbyn 2050. Mae’r Rheoliadau yn gweithredu sawl cam gweithredu sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Economi Gylchol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, Mwy nag ailgylchu.

Y fethodoleg

Roedd yr arolwg yn seiliedig ar arolwg Omnibws Cymru Beaufort sy’n cyfweld â sampl cwota o 1,000 o oedolion ar draws Cymru ym mhob ton ac sy’n adlewyrchu’r boblogaeth o ran nodweddion demograffig allweddol. Caiff set wahanol o oedolion eu cyfweld ym mhob ton er bod samplau yn cael eu paru o ran nodweddion demograffig allweddol.

Roedd yr arolwg yn ddarostyngedig i reolaethau cwota demograffig sy’n cyd-gloi [troednodyn 1] o ran oedran o fewn rhywedd. Gosodwyd cwota ar wahân pellach ar radd gymdeithasol [troednodyn 2] a chynhaliwyd y cyfweliadau â thrigolion pob awdurdod lleol yng Nghymru. Ar y cam dadansoddi, pwysolwyd y data yn ôl grŵp oedran, rhywedd, grŵp awdurdod lleol a gradd gymdeithasol. Mae hyn yn sicrhau bod y sampl yn adlewyrchu ffigurau Cyfrifiad 2021 a nodweddion poblogaeth Cymru.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr hefyd a oeddent yn berchennog, yn gyfarwyddwr neu'n uwch aelod o staff sy’n gwneud penderfyniadau o fewn busnes, elusen neu sefydliad yn y sector cyhoeddus. Roedd hyn yn caniatáu i ymatebion gael eu dadansoddi yn ôl p’un ai oedd yr ymatebwyr yn gwneud penderfyniadau mewn sefydliad y bydd y rheoliadau hyn, pan gânt eu cyflwyno, yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Dylid nodi bod 147 o ymatebwyr allan o'r 1,000 o ymatebwyr a holwyd yn gyffredinol yn nodi eu bod yn berchennog, yn gyfarwyddwr neu’n uwch aelod o staff sy’n gwneud penderfyniadau mewn busnes, elusen neu sefydliad yn y sector cyhoeddus.

Darparwyd cwestiynau drafft ar gyfer yr arolwg gan Lywodraeth Cymru. Cawsant eu llunio’n derfynol yn dilyn trafodaethau gyda Beaufort (gweler Atodiad A am yr holiadur).

Roedd yr holl gwestiynau a ofynnwyd yn gwestiynau caeedig, hynny yw, rhoddwyd opsiynau ymateb i'r cyfranogwyr i ddewis ohonynt.

Mae cwestiynau demograffig yn cael eu cynnwys fel rhai safonol yn arolwg Omnibws Cymru. Roedd yr arolwg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg a gellid ei lenwi yn newis iaith y cyfranogwyr.

Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 27 Chwefror a 19 Mawrth 2023. Cafodd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau eu cwblhau a'u dadansoddi.

Mae tabliadau data llawn o'r arolwg wedi'u darparu i Lywodraeth Cymru mewn adroddiad technegol ar wahân.

Mae Arolwg Omnibws Cymru yn defnyddio dull samplu cwota cyfrannol (nid samplu ar hap) i adlewyrchu demograffeg allweddol o fewn poblogaeth Cymru. Felly, mae unrhyw ganfyddiadau yn yr arolwg hwn yn adlewyrchu barn y sampl a dylid cymryd gofal wrth drosi unrhyw ganfyddiadau i'r boblogaeth ehangach yng Nghymru.

Prif ganfyddiadau

Cymorth

Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr yn cefnogi pob newid sydd ar ddod yn y ddeddfwriaeth. Nodwyd bod cyfanswm o 77% o’r ymatebwyr yn gyffredinol o blaid y ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle a 77% o’r ymatebwyr o blaid gwahardd plastigau untro.

O ran y rhai hynny yn erbyn y newidiadau yn y ddeddfwriaeth, roedd 5% o'r ymatebwyr yn erbyn y newidiadau i’r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle ac roedd 8% o'r ymatebwyr yn erbyn gwahardd plastigau untro.

Roedd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ychydig yn llai cefnogol, gyda 74% o'r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau mewn busnes/sefydliad yn cefnogi'r newidiadau mewn deddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle o'i gymharu â’r 15% oedd yn erbyn, tra bo 79% o'r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau o blaid y gyfraith plastigau untro o'i gymharu â’r 14% oedd yn erbyn.

Ymwybyddiaeth

Roedd ymwybyddiaeth ddigymell o unrhyw newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn gymharol isel ar gyfer y ddau ddarn o ddeddfwriaeth. Disgwylir hyn oherwydd y llinellau amser ar gyfer y ddwy ddeddfwriaeth. Daw’r newidiadau i wahardd plastigau untro i rym ar 9 Hydref 2023 a daw’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth ailgylchu yn y gweithle i rym ar 6 Ebrill 2024. Roedd y gefnogaeth yn uwch ar gyfer plastigau untro nag ar gyfer ailgylchu yn y gweithle (gyda 22% o'r ymatebwyr yn ymwybodol o'r cyntaf, o'i gymharu â 12% o'r ymatebwyr yn ymwybodol o'r olaf).

Roedd yr ymatebwyr a oedd yn uwch aelodau o staff sy’n gwneud penderfyniadau neu'n gyfarwyddwyr mewn busnesau, elusennau neu sefydliadau'r sector cyhoeddus yn llawer mwy tebygol o fod yn ymwybodol o newidiadau i'r gyfraith nag ymatebwyr cyffredinol:

  • Roedd 46% o’r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau yn ymwybodol o’i gymharu â’r 12% o’r ymatebwyr cyffredinol a oedd yn ymwybodol o’r newidiadau i’r gyfraith ailgylchu yn y gweithle.
  • Roedd 45% o’r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau yn ymwybodol a 22% o’r ymatebwyr cyffredinol yn ymwybodol o’r newidiadau i’r gyfraith plastigau untro.

Pan ofynnwyd iddynt esbonio sut oeddent yn ymwybodol, roedd 26% o'r rhai a holwyd wedi clywed am y gyfraith newydd ar ailgylchu yn y gweithle (gan godi i 69% o’r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau busnes), o'i gymharu â 44% o'r ymatebwyr a oedd yn ymwybodol o'r gyfraith plastig untro (gan godi i 73% o’r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau busnes).

Troednodiadau

[1] Mae rheolaethau cwota yn niferoedd targed o gyfweliadau a osodir ar gyfer grwpiau demograffig penodol yn y boblogaeth, er mwyn helpu i gyflawni sampl gynrychioliadol ar gyfer yr arolwg. Mae rheolaethau cwota demograffig sy’n cyd-gloi yn golygu bod y targed yn cynnwys dau newidyn: grŵp oedran o fewn rhywedd.

[2] Mae gradd gymdeithasol yn system ddosbarthu sy'n seiliedig ar alwedigaeth a ddatblygwyd i'w defnyddio ar yr Arolwg Darllenyddiaeth Cenedlaethol (NRS). Diffinnir y graddau cymdeithasol fel a ganlyn:

AB: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol, a phroffesiynol uwch a chanolradd

C1: Galwedigaethau goruchwylio, clerigol, a rheoli is, gweinyddol, a phroffesiynol

C2: Gweithwyr llaw crefftus

DE: Gweithwyr llaw lled-grefftus a di-grefft, pensiynwyr y wladwriaeth, gweithwyr dros dro, pobl ddi-waith sy’n cael budd-daliadau’r wladwriaeth yn unig.

Manylion cyswllt

Awduron: Rhian Power a Hannah Davies

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Rhian Power
Ebost: effeithlonrwyddadnoddauaceconomigylchol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 76/2023
ISBN digidol 978-1-83504-334-9

Image
GSR logo