Fel rhan o’r ymchwil hon, arolygwyd sampl o boblogaeth Cymru ym mis Mawrth 2023 i ddeall yn well ganfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd i’r newidiadau mewn deddfwriaeth.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Agweddau’r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad ar blastigau untro
Roedd y mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr yn cefnogi pob newid sydd ar ddod yn y ddeddfwriaeth. Nodwyd bod cyfanswm o 77% o’r ymatebwyr yn gyffredinol o blaid y ddeddfwriaeth ailgylchu.
Roedd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ychydig yn llai cefnogol, gyda 74% o'r ymatebwyr a oedd yn gwneud penderfyniadau mewn busnes/sefydliad yn cefnogi'r newidiadau mewn deddfwriaeth ailgylchu.
Roedd ymwybyddiaeth ddigymell o unrhyw newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn gymharol isel ar gyfer y ddau ddarn o ddeddfwriaeth. Disgwylir hyn oherwydd y llinellau amser ar gyfer y ddwy ddeddfwriaeth.
Adroddiadau
Cyswllt
Rhian Power
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.