Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Gwnaed ymrwymiad yn ystod hynt Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd [y Senedd], i gynnal adolygiad annibynnol o'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) erbyn mis Medi 2023.
Yn dilyn proses dendro agored, penodwyd Eunomia Research and Consulting ym mis Mehefin 2022 i gynnal yr adolygiad annibynnol. Mae'r adolygiad bellach wedi dod i ben, ac mae ei adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, 6 Gorffennaf 2023. Roedd cwmpas yr adolygiad yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd LDT a'i rhoi ar waith. Yn benodol, nod yr adolygiad oedd ystyried effaith cyfraddau LDT ar ymddygiad yn y sector gwastraff ac i ba raddau y mae deddfwriaeth LDT wedi dylanwadu ar ymddygiadau.
Bydd y casgliadau a'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad yn llywio datblygiad LDT yn y dyfodol.