Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Fframwaith Athrawon Cyflenwi sy’n cael ei arwain gan ein harweinwyr Categori Pobl a Gwasanaethau Corfforaethol, Stuart Smith a Neil Thomas, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Fenter Orau i Sicrhau Gwerth Cymdeithasol trwy Gaffael.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Mercher 20 Medi 2023 yn Park Lane, Llundain ac mae'n arddangos ac yn dathlu'r gwaith a'r timau gorau yn y proffesiwn caffael ledled y DU. Mae’r gwobrau mawreddog yn feincnod ar gyfer rhagoriaeth caffael ac mae ennill yn un o’r cydnabyddiaethau mwyaf y gall unrhyw un yn y proffesiwn eu derbyn.

Gwellodd y Fframwaith Athrawon Cyflenwi safonau ar gyfer athrawon cyflenwi trwy sicrhau eu bod yn derbyn isafswm cyfradd ddyddiol o £148 a bod ganddynt fynediad at hyfforddiant hanfodol trwy eu hasiantaethau cyflogaeth. Erbyn hyn, mae gan oddeutu 2,000 o athrawon cyflenwi a gweithwyr dros dro eraill mewn ysgolion fynediad i hyfforddiant am ddim bob chwarter drwy eu hasiantaeth.

Mae'r fframwaith hwn hefyd wedi gwella tryloywder i ysgolion sydd angen athrawon cyflenwi gan ei bod yn amlwg faint mae'r athro cyflenwi a'r asiantaeth yn ei dderbyn. Yn anad dim, roedd hefyd yn cynnwys gwiriadau diogelu a fetio hanfodol sy'n golygu bod pob athro cyflenwi sy'n mynd i mewn i ysgolion Cymru yn ddiogel i wneud hynny.

Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol:

"Rwy'n falch iawn bod y tîm Gallu Masnachol a Chyflawni Masnachol wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr bwysig hon. Gwobrau rhagoriaeth CIPS yw pinacl y calendr caffael. Mae bod ar y rhestr fer ochr yn ochr â thimau caffael gorau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat o bob rhan o’r DU yn dipyn o gamp. Mae’n dangos pa mor wych yw’r tîm sydd gennym ac yn cydnabod y gwahaniaeth y gall caffael arloesol ei wneud i bobl Cymru. Allwn i ddim bod yn fwy balch!"

Ychwanegodd Paul Griffith, Pennaeth Gallu Masnachol a Chyflawni Masnachol:

"Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi cyrraedd y rhestr fer gyda’r fframwaith Athrawon Cyflenwi, sy'n rhan o raglen gaffael Gydweithredol Cymru ehangach rydyn ni’n ei darparu gyda'n partneriaid mewn Llywodraeth Leol.  Mae’n fframwaith sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i athrawon, ysgolion a disgyblion ac sydd wir yn cyfrannu at nodau Llywodraeth Cymru o sicrhau gwaith teg a gwneud Cymru’n genedl fwy cyfartal, llewyrchus a chynhwysol yn gymdeithasol. Mae’r fframwaith wedi creu dros 300 o swyddi newydd. Mae wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i bobl Cymru felly mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr o'r fath yn dyst i bŵer cydweithredu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru."

Mae manylion llawn am y gwobrau ar gael ar wefan CIPS.