Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ein Rhaglen Lywodraethu i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru erbyn 2026.
Er mwyn cyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu mwy o gefnogaeth, gan gynnwys trwy Busnes Cymru, Busnes Cymdeithasol Cymru a'r Banc Datblygu, i sicrhau bod cwmnïau yng Nghymru yn parhau i fod yn nwylo Cymry.
Mae busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru yn amrywiol o ran daearyddiaeth a sector ac yn aml yn cael eu gyrru gan yr angen i gynllunio ar gyfer olyniaeth sy'n galw am weledigaeth a chynllunio hirdymor. Mae gan fusnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru ethos blaengar a thryloywder ac maent yn arwain at fwy o ymgysylltu gan weithwyr.
Mae perchnogaeth gan weithwyr yn rhoi nifer o fanteision i weithwyr ac i fusnesau, gyda thystiolaeth yn dangos eu bod yn fwy cynhyrchiol a gwydn. Maent hefyd wedi'u gwreiddio yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau lleol, gan sicrhau swyddi o ansawdd da ar gyfer y tymor hwy o fewn cymunedau ledled Cymru.
Trwy wella lles a boddhad swydd gweithwyr, mae'r model perchnogaeth gan weithwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gryfhau'r sylfeini y caiff pob busnes llwyddiannus eu hadeiladu arnynt.
Er bod nifer y busnesau sy'n cael eu prynu gan weithwyr fel arfer yn fach ar oddeutu dau y flwyddyn, gydag ymyrraeth, mae maint y sector sy'n eiddo i weithwyr wedi tyfu'n sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac mae potensial i lawer mwy o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr.
Mae gan Gymru lawer i'w ddathlu oherwydd hyd yma mae 64 o fusnesau sy'n eiddo i weithwyr ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 73% dros dymor y Senedd. Mae 3 busnes newydd arall sy'n eiddo i weithwyr ar gam cyfreithiol y broses bontio ac felly'n debygol o drosi i berchnogaeth y gweithwyr gyda 7 ymholiad newydd pellach.
Mae Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniannau gan weithwyr, gyda chymorth wedi'i ariannu'n llawn ac wedi'i deilwra'n bwrpasol ar gael i helpu perchnogion busnes i benderfynu ai perchnogaeth gan weithwyr a chynlluniau rhannu yw'r ateb cywir ar gyfer eu busnes. Rwyf hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cymorth ychwanegol i Cwmpas i hyrwyddo manteision a datblygiad perchnogaeth gan weithwyr yng Nghymru i sicrhau bod busnesau a gweithwyr yng Nghymru yn ymwybodol o'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig.
Ar ben hynny, mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, sy'n cael ei gweithredu gan Fanc Datblygu Cymru, yn cynnig llwybr cyllido posibl yn seiliedig ar ddyledion ar gyfer pryniannau gan weithwyr, gyda chymorth i bryniannau gan y rheolwyr ar gael drwy Gronfa Olyniaeth Rheolwyr Cymru.
Mae cefnogi perchnogaeth gan weithwyr yn ymrwymiad allweddol i Lywodraeth Cymru a dyna pam rydym yn credu bod y model perchnogaeth gan weithwyr yn cynnig buddion sylfaenol nid yn unig i'r economi ond hefyd i gymunedau ledled Cymru.