Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Bydd aelodau Senedd Cymru am wybod fy mod wedi rhoi fy nghydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig sy’n ymwneud â Chymru.
Cafodd Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023 eu gosod gerbron Senedd y DU gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 29 Mehefin 2023 wrth arfer pwerau o dan erthyglau 2A, 15(1) a 18(1) Rheoliad (UE) 2019/1021 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar lygryddion organig parhaus (ail-lunio) (“y Rheoliad POP a ddargedwir”). Gwnaed hyn i estyn o 4 Gorffennaf 2023 i 3 Rhagfyr 2025 ddyddiad rhanddirymiad o ran gweithgynhyrchu, rhoi ar y farchnad a defnyddio asid perfflworooctanoig (PFOA), ei halwynau a chyfansoddion PFOA ar gyfer tecstiliau sy’n gwrthsefyll olew a dŵr er amddiffyn gweithwyr rhag hylifau peryglus sy’n risg i iechyd a diogelwch.
Bydd yr OS yn caniatáu eithrio offer amddiffynnol a ddefnyddir gan bersonél Lluoedd Arfog y DU. Ni chaiff yr eithriad ei estyn i gynnyrch neu offer a ddefnyddir gan wneuthurwyr a defnyddwyr anfilitaraidd, gan y cyfyngir ar y rheini gan Reoliad REACH y DU.
Nid yw Gweinidogion Cymru’n cynnig cyflwyno OS Cymraeg cyfatebol gan fod y Rheoliad a ddiwygir yn ymwneud â Phrydain Fawr, felly rhaid i unrhyw ddiwygiadau iddo fod yn Saesneg yn unig.
Effaith bosibl yr offeryn ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru:
Nid yw’r Rheoliadau drafft yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw fodd. Ni chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â Chymru heb gydsyniad ac eithrio yn achos pwerau a gedwir yn ôl. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â Chymru ar faterion a ddatganolir.
Hoffwn sicrhau Senedd Cymru mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion lle bo ganddi gymhwysedd datganoledig. Ond o dan rai amgylchiadau, ceir manteision o gydweithio â Llywodraeth y DU lle ceir rhesymau clir dros wneud hyn. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i’r Rheoliadau hyn er sicrhau effeithiolrwydd ac er mwyn gallu newid polisi yn y dyfodol yn rhwydd, cadw at ymrwymiadau rhyngwladol, gallu cydgysylltu rhwng llywodraethau ac i sicrhau chysondeb.
Gosodwyd y Rheoliadau ar ffurf drafft gerbron Senedd y DU ar 29 Mehefin 2023 i ddod i rym ar 4 Gorffennaf 2023.