Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio’ch cais

Cyn gwneud cais, dylech ddarllen yr hysbyseb swydd yn ofalus a sicrhau’ch hun eich bod yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol o’r meini prawf a restrir. Mae'n werth nodi na fydd y rhai yr ystyrir nad ydynt yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol yn eu cais o’r meini prawf a restrir yn yr hysbyseb swydd, yn mynd ymlaen i unrhyw gamau dilynol. Dim ond ymgeiswyr yr ystyrir eu bod wedi darparu tystiolaeth ddigonol o bob maen prawf sy'n cael ei brofi (sef, at ddibenion y Cynllun Cyfweld Hyderus o ran Anabledd, y meini prawf sylfaenol ar gyfer y radd) gaiff symud ymlaen y tu hwnt i'r cam cyntaf cychwynnol. 

Dylech gynllunio sut y byddwch yn mynd ati i gwblhau’ch cais, gan ystyried dyddiad cau’r swydd. Mae’r dyddiad hwn yn ddyddiad penodedig na ellir ei newid (ac eithrio pan fo addasiad rhesymol yn briodol ac wedi’i gytuno ymlaen llaw).

Sut i wneud cais

I ymgeisio, bydd angen ichi gofrestru i greu cyfrif ar system ar-lein Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost. Argymhellir eich bod yn dewis cyfeiriad e-bost sy’n cael ei ddefnyddio gennych chi yn unig ac un y gallwch gael ato bob amser, gan mai dyma fydd ein prif ddull o gyfathrebu â chi ynglŷn â’r broses ddethol.

Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich pryderon a’ch gofynion.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y rhan fwyaf o hysbysebion, ond yn achos rhai rolau lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, dim ond ceisiadau Cymraeg y byddwn yn eu derbyn. Gofalwch eich bod wedi deall yr hyn sy’n ofynnol gennych o’r hysbyseb. Pan fo ceisiadau yn y naill iaith neu’r llall yn dderbyniol, byddant yn cael eu trin yr un fath. I weld fersiwn Saesneg o swydd, dewiswch Newid Iaith. Os hoffech wneud cais yn Saesneg, dewiswch Apply. Sylwch, unwaith y byddwch wedi dechrau gwneud cais yn Gymraeg, na allwch newid i gais Saesneg ar gyfer y swydd honno, wrth ddefnyddio’r un cyfrif defnyddiwr. Os byddwch yn cael unrhyw drafferth, neu os oes gennych gwestiynau am y broses, cysylltwch â desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru.