Neidio i'r prif gynnwy

Croeso

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio i dîm Llywodraeth Cymru. Ein nod yw helpu’r Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru i greu Cymru decach, fwy cyfartal, a gwyrddach.

Mae gwaith tîm wrth wraidd popeth a wnawn. Bydd ein swyddi’n addas i bobl sy’n gallu datblygu cysylltiadau cydweithio â chymysgedd o bobl ar bob lefel.

Mae gan y Prif Weinidog fframwaith partneriaeth gymdeithasol: cydweithio â’n partneriaid i ddatrys problemau a chwilio am atebion i’r heriau sy’n ein hwynebu fel cenedl. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth ag undebau llafur. Rydym yn cefnogi staff i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig fel dull pwysig o sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed yn y gweithle.

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i bobl Cymru drwy’r Senedd. Ein nod yw bodloni safonau uchel o ran tryloywder a gweithredu’n agored, a dangos gonestrwydd, gwrthrychedd, uniondeb, a natur ddiduedd yn ein holl waith. Rydym am greu amgylchedd gwaith sy’n ysgogi a chefnogi ac sy’n amrywiol, heriol ac yn gallu addasu.

Rydym yn gweithio’n galed i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i’r holl staff allu datblygu a chyflawni hyd orau eu gallu.

Datblygwyd y canllawiau ymgeisio hyn i’ch helpu chi i wneud cais am gyfle i weithio yn Llywodraeth Cymru. Maent yn cynnwys cyngor ar:

  • y broses asesu
  • sut i brofi’ch sgiliau, eich profiad a’ch gallu yn erbyn y meini prawf a restrwyd yn yr hysbyseb swydd
  • telerau penodiad
  • canllaw cam wrth gam ar gyfer y ffurflen gais ar-lein

Egwyddorion recriwtio’r Gwasanaeth Sifil

Rydym yn recriwtio ar sail teilyngdod a chystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.