Bydd y Bil Amaethyddiaeth cyntaf erioed i’w lunio yng Nghymru yn cyrraedd y cyfnod craffu terfynol yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 27 Mehefin).
Os bydd Aelodau'r Senedd yn pleidleisio o blaid y Bil hanesyddol ac yn ei basio yn ddiweddarach heno, bydd Cydsyniad Brenhinol yn cael ei geisio, ac os caiff ei dderbyn, bydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru.
Mae Bil Amaethyddiaeth Cymru yn paratoi'r ffordd ar gyfer deddfwriaeth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd a nwyddau eraill mewn ffordd gynaliadwy, i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ac i warchod a gwella cefn gwlad, diwylliant ac iaith Cymru.
Tynnodd adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd sylw at y cyfraniad pwysig y mae ffermio ac amaethyddiaeth yn ei wneud o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, a bydd y Bil Amaethyddiaeth yn ffordd allweddol o gyrraedd y nod hwnnw.
Mae'r Bil yn cynnwys yr ymrwymiad a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i wahardd defnyddio maglau a thrapiau glud, sy'n golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr. Mae hefyd yn diwygio Deddf Coedwigaeth 1967 er mwyn gwarchod bywyd gwyllt a diogelu’r amgylchedd yn well yn ystod gwaith i gwympo coed, gan gydnabod gwerth ein coetiroedd fel adnodd naturiol yn ogystal â’u gwerth fel cynefin.
Hanfod y Bil yw Rheoli Tir yn Gynaliadwy ac mae'n sefydlu fframwaith polisi a deddfwriaethol sydd am sicrhau y bydd ffermwyr yn gallu parhau i gynhyrchu cynnyrch a nwyddau amaethyddol o ansawdd uchel am genedlaethau i ddod, gan wneud hynny ochr yn ochr â gweithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig fydd prif ffynhonnell y cymorth y bydd y Llywodraeth yn ei roi i ffermwyr yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r Bil yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth yn y dyfodol, gan sicrhau hefyd ar yr un pryd y bydd cymorth yn dal i gael ei roi i ffermwyr yn ystod cyfnod pontio, gan adlewyrchu’r ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Y nod o reoli tir yn gynaliadwy yw sail y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddylunio’r camau arfaethedig y byddwn yn gofyn i ffermwyr eu cyflawni yn y dyfodol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Drwy ymgynghori â ffermwyr a mynd ati i ddylunio’r Cynllun ar y cyd â nhw, rydym wedi ystyried sut i wneud y camau arfaethedig yn rhan annatod o fusnesau fferm cryf. Er enghraifft, rydym wedi edrych ar sut i wella iechyd ac effeithlonrwydd da byw a bydd hynny, yn ei dro, yn lleihau allyriadau carbon oherwydd y bydd llai o feddyginiaethau’n cael eu defnyddio. Ystyriwyd hefyd sut i wneud plannu coed ychwanegol ar ffermydd ledled Cymru yn rhan o’r Cynllun fel y bo’r coed yn troi’n gaffaeliad i'r fferm. Mae'r ddwy enghraifft yn dangos sut y gall y camau y bwriedir eu cymryd arwain at fudd ariannol a budd amgylcheddol i'r ffermwyr.
Bydd y Bil hefyd yn diogelu tenantiaid amaethyddol er mwyn sicrhau nad ydynt yn cael eu cyfyngu’n annheg rhag cael gafael ar gymorth ariannol.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
Mae Bil Amaethyddiaeth Cymru yn gyfle inni ddatblygu deddfwriaeth a’r system gymorth gyntaf erioed i gael ei chreu yng Nghymru – system a fydd yn gweithio i ffermwyr Cymru, i’r sector amaethyddiaeth, i’n tir, ac i Gymru gyfan.
Mae’n ffermwyr yn dal i fynd i’r afael â heriau gwahanol, a bydd y Bil hwn yn fframwaith pwysig ar gyfer darparu cymorth i amaethyddiaeth yn y dyfodol. Mae'n amlinellu sut gallwn ni gadw ffermwyr ar y tir i gynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy ac i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd.
Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig, drwy gymryd camau breision i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Os caiff y Bil ei basio, Cymru hefyd fydd y genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud, sy'n greulon ac yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i rywogaethau ac sydd hyd yn oed yn eu lladd.