Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad ar gyfraddau cwblhau a llwyddo dysgwyr ar raglenni galwedigaethol, rhaglenni addysg gyffredinol (gan gynnwys Safon Uwch) a Bagloriaeth Cymru ar gyfer Awst 2022 i Orffennaf 2023.

Diwygiwyd y tablau sy'n ategu'r adroddiad hwn ar 21 Mawrth 2024. Cyfrifwyd y gyfradd basio ar gyfer y tablau "Mesurau cyflawniad cyrsiau ac eithrio Safon Uwch" yn anghywir, ac roedd problem gyda rhai o ganrannau Bagloriaeth Cymru 2021/22.

Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â deilliannau ar gyfer addysg gyffredinol ac addysg alwedigaethol yn y chweched dosbarth ac mewn colegau.

Addysg gyffredinol (Safon Uwch)

  • Roedd y deilliannau o ran graddau yn fras hanner ffordd rhwng 2018/19 a 2021/22, fel y cynlluniwyd.
  • Aeth llai o ddysgwyr ymlaen i'w hail flwyddyn Safon Uwch a chwblhaodd llai o ddysgwyr eu Safon Uwch o'i gymharu â 2021/22.
  • Mae'n bosibl bod y gostyngiad yn nifer y dysgwyr ddechreuodd eu hail flwyddyn o Safon Uwch yn rhannol oherwydd y gostyngiad mewn graddau UG, gyda dysgwyr nad oeddent yn llwyddo i gael 3 lefel UG yn llawer llai tebygol o barhau.
  • Aeth 52% o ddysgwyr UG benywaidd ymlaen i gael tair gradd C Safon Uwch, o'i gymharu â 42% o ddysgwyr gwrywaidd.
  • Aeth 49% o ddysgwyr UG 16 oed ymlaen i gael tair gradd C Safon Uwch, o'i gymharu â 21% o ddysgwyr hŷn.
  • Roedd dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn llai tebygol o gwblhau eu Safon Uwch ac yn llai tebygol o gael graddau uchel pe baent yn gwneud hynny. 
  • Crebachodd y bwlch mewn graddau ar sail amddifadedd yn 2022/23, ond ehangodd y bwlch o ran cyfraddau cwblhau.
  • Roedd deilliannau Safon Uwch dysgwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig neu Ddu Cymreig yn is na grwpiau ethnig eraill, gan gynnwys gostyngiad mawr yn y nifer oedd yn eu cwblhau.
  • Dechreuodd yr anghydraddoldeb o ran deilliannau i ddysgwyr o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig neu Ddu Cymreig cyn addysg ôl-16 pan, o gymharu â dysgwyr â chymwysterau TGAU tebyg, llwyddodd dysgwyr o'r cefndiroedd hyn i gyflawni deilliannau uwch na'r cyfartaledd.
  • Roedd y gwahaniaethau rhwng grwpiau ethnig yn lleihau yn gyffredinol ar gyfer dysgwyr addysg alwedigaethol a chyffredinol.

Addysg alwedigaethol

  • Mae deilliannau galwedigaethol yn gwella ers y gostyngiad adeg y pandemig coronafeirws (COVID-19), ond yn gyffredinol maent wedi aros yn is na'r lefelau cyn y pandemig.
  • Gwelwyd llai o ddysgwyr galwedigaethol yn peidio â chwblhau eu rhaglenni oherwydd 'rhesymau personol', a mwy yn peidio â chwblhau oherwydd eu bod yn 'Methu'.
  • Dirywiodd y deilliannau ar gyfer rhaglenni Mynediad at Addysg Uwch, yn wahanol i raglenni eraill.
  • Roedd deilliannau dysgwyr galwedigaethol â phrofiadau o amddifadedd yn is na'r rhai na rhai pobl eraill, ond nid oedd y berthynas mor gryf â'r hyn welwyd mewn addysg gyffredinol.

Bagloriaeth Cymru

  • Gostyngodd deilliannau Bagloriaeth Cymru ar gyfer dysgwyr addysg gyffredinol, ond roeddent yn parhau i fod yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig.
  • Parhawyd i weld deilliannau is i ddysgwyr galwedigaethol na dysgwyr addysg gyffredinol, ond roedd y bwlch yn crebachu.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyflawniad): Awst 2022 i Orffennaf 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyflawniad): Awst 2022 i Orffennaf 2023 (diwygiwyd) , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 395 KB

ODS
395 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Thomas Rose

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.