Bwrdd Trosolwg y Cytundeb Cydweithio: 23 Tachwedd 2022
Cofnodion cyfarfod y Bwrdd Trosolwg ar 23 Tachwedd 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
- Adam Price AS
- Siân Gwenllian AS
Ymddiheuriadau
- Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS
Eitem 1: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol heb sylw.
Eitem 2: Diweddariad ar gynnydd
2.1 Bu'r Bwrdd yn trafod y cynnydd sylweddol a welwyd ers y cyfarfod diwethaf ar draws ymrwymiadau'r Cytundeb Cydweithio.
Eitem 3: Adroddiad blynyddol – adolygu ac adnewyddu
3.1 Cymeradwyodd y Bwrdd y copi prawf wedi'i ddylunio o'r Adroddiad Blynyddol Cytundeb Cydweithredu cyntaf i'w gyhoeddi ar 1 Rhagfyr, ochr yn ochr â Datganiad Ysgrifenedig. Byddai'r cyhoeddiad yn cael ei nodi gyda chynhadledd i'r wasg ar y cyd.
Eitem 4: Ynni Cymru
4.1 Nododd y Bwrdd y papur gan swyddogion yn amlinellu'r camau nesaf ac ystyriaethau ehangach ar gyfer sefydlu Ynni Cymru.