Neidio i'r prif gynnwy

8.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

Cynhaliodd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos rhwng 25 Mawrth 2022 ac 17 Mehefin 2022. Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth y DU (gov.uk), a chyhoeddwyd dolen ar wefan Llywodraeth Cymru (llyw.cymru).

Rhoddwyd gwybod i gyfranogwyr presennol y cynllun am yr ymgynghoriad drwy e-bost a thrwy grwpiau rhanddeiliaid presennol. Hysbyswyd cyrff anllywodraethol perthnasol a rhanddeiliaid ehangach drwy’r sianeli cyfathrebu presennol. Cafodd pawb gyfle i gwrdd â swyddogion yr Awdurdod i drafod y cynigion.

Yn ystod y broses ymgynghori, cynhaliwyd cyfres o weithdai ar wahanol benodau’r ymgynghoriad. Roedd y rhain yn agored i bawb, a darparwyd deunyddiau cyflwyno yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Parhawyd i gynnal gweithgareddau ymgysylltu fel cyfarfodydd unigol a chyfarfodydd grwpiau rhanddeiliaid ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben i sicrhau y rhoddir ystyriaeth i safbwyntiau’r holl randdeiliaid wrth ddatblygu’r polisïau.

8.2 Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol – cadarnhaol a negyddol?

Mae tair effaith sylweddol wedi eu nodi wrth asesu’r cynigion, sy’n ymwneud â’r effaith y byddant yn ei chael ar iechyd pobl, costau busnes a biliau ynni i ddefnyddwyr. 

Bernir bod y cynllun yn cael effaith gadarnhaol drwy gymell lleihau allyriadau o’r sector a fasnachir y credir eu bod yn niweidiol i iechyd pobl, fel nitrogen deuocsid (NO2) a gronynnau mân (PM2.5). Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai’r llygryddion hyn achosi a gwaethygu cyflyrau iechyd presennol a chael effaith wahaniaethol ar draws grwpiau (fel ar blant, oedolion hŷn a phobl anabl).

Mae’r costau i fusnesau sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn ymwneud â chost prynu lwfansau (ar brisiau uwch na phe na bai camau’n cael eu cymryd) neu’r gost o leihau a achosir gan y pris carbon. Mae’r asesiad o’r effaith economaidd, a gynhaliwyd ar ran yr Awdurdod ar ran yr Adran dros Sero Net a Diogelwch Ynni, yn amcangyfrif mai’r gost i fusnesau o’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio fydd £2.4 biliwn. Bydd y costau hyn yn dibynnu ar gyflawni agweddau eraill ar bolisi cyhoeddus, fel y datgarboneiddio dwfn y gellid ei gyflawni drwy ddefnyddio CCUS a hydrogen, yn ogystal â thrydaneiddio’r prosesau presennol yn ehangach. Os cyflwynir llai o bolisi cyhoeddus na’r disgwyl, bydd yr angen i fusnesau ddod o hyd i atebion atal amgen (a fydd yn fwy costus) yn cynyddu.

Yn olaf, mae’r effaith ar ddefnyddwyr drwy filiau ynni uwch yn cael ei chymhlethu gan yr amser mae’r polisi’n cael ei asesu. Er nad oedd yr Awdurdod yn gallu amcangyfrif effaith y polisi ar filiau aelwydydd yn gredadwy, yn y tymor byr, disgwylir y bydd unrhyw bolisi sy’n cynyddu cost ymylol cynhyrchu trydan gan ddefnyddio tanwyddau ffosil (fel nwy naturiol) yn cael ei drosglwyddo i ddefnyddwyr. Yn y cyd-destun ynni diweddar, disgwylir i’r effaith hon fod yn fach iawn o’i chymharu â ffactorau eraill. Yn y tymor hwy, mae’r effaith ar filiau ynni yn dibynnu ar ddatblygiadau ar draws y farchnad ynni ehangach – er enghraifft, sut mae’r gwahaniaeth rhwng costau gwahanol fathau o gynhyrchu yn esblygu. Gan y dylai’r cynigion gyflymu’r broses o fabwysiadu dulliau glanach o gynhyrchu trydan, pe bai’r technolegau hyn yn fwy cost effeithiol dros eu hoes, gellid trosglwyddo’r arbedion hyn i ddefnyddwyr.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Drwy gyflymu’r broses datgarboneiddio yn y sector a fasnachir, o’i gymharu â phe na bai’r newidiadau hyn yn cael eu gwneud, mae’r Asesiad Effaith Integredig hwn wedi canfod bod y cynigion yn ategu tri o nodau llesiant Llywodraeth Cymru; sef ei bod yn ategu ein nodau i fod yn Gymru gydnerth, Cymru iachach, a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. 

Mae uchelgeisiau sero net Llywodraeth Cymru a mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn amcanion cydnaws. Ein huchelgais hirdymor yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru, gan sicrhau ein bod yn defnyddio’r ynni sydd ei angen arnom yn unig, i gadw cartrefi’n gyfforddus ac yn gynnes am bris fforddiadwy. Bydd y Rhaglen Cartrefi Cynnes newydd yn parhau i weithredu fel prif fecanwaith Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Bydd hefyd yn cyfrannu at sicrhau Cymru sero net erbyn 2050 ac yn galluogi trawsnewid cyfiawn yn uniongyrchol – gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i ni symud tuag at Gymru lanach, gryfach a thecach, drwy’r ddau amcan o fynd i’r afael â thlodi tanwydd a’r argyfwng hinsawdd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o effeithiau’r costau ynni uchel ar yr aelwydydd a’r unigolion mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn faes sy’n esblygu bob dydd, ac rydym yn parhau i ddatblygu cynlluniau i liniaru’r effeithiau. Mae Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd 2021 i 2035 Llywodraeth Cymru yn nodi’r camau rydym yn eu cymryd ar hyn o bryd, a byddwn yn parhau i ddatblygu hyn wrth i’r materion ddatblygu.

Yng Nghymru, rydym yn disgwyl y bydd datblygu a chynyddu opsiynau technolegol ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol, fel newid tanwydd a dal, defnyddio a storio carbon, yn cael effaith drawsnewidiol ar allyriadau o ddiwedd y 2020au a thrwy gydol y 2030au. Wrth gefn y newid hwn bydd cydweithio â chlystyrau diwydiannol, rhwydwaith ynni wedi’i ddatgarboneiddio gyda gwell seilwaith grid a mynediad at gyllid ar draws y DU i roi cynlluniau datgarboneiddio ar waith.

Yn ôl asesiad y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, mae tua 60% o’r newidiadau sydd eu hangen yng Nghymru i sicrhau llwybr at sero net erbyn 2050 yn dod o dan bwerau sydd wedi’u cadw’n ôl i San Steffan ar y cyfan. Ar gyfer y sector diwydiant, mae’r rhan fwyaf o’r pwerau a’r adnoddau a fydd yn cynorthwyo’r diwydiant i newid i brosesau sero net i gyrraedd ein targedau hinsawdd, fel hydrogen a dal carbon, yn cael eu cadw’n ôl i Lywodraeth y DU. Er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa ar y cymorth sydd ar gael, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatblygu a chyflawni ei pholisïau i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu cyflawni’r uchelgeisiau a nodir yn y cynigion hyn (fel taflwybr cap Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU) a chael mynediad at y seilwaith a’r buddsoddiad angenrheidiol, a galluogi busnesau i reoli’r costau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau rydym yn eu gwneud i Gynllun Masnachu Allyriadau’r DU.

Ar ben hynny, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gynyddu’r cyfleoedd sy’n codi i ddiwydiant a busnesau Cymru o fentrau ar lefel y DU, gan gynnwys y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF), sy’n darparu cyllid grant ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg i alluogi cwmnïau i archwilio prosiectau datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi, defnyddio technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed sy’n lleihau’r defnydd o ynni diwydiannol a defnyddio technolegau datgarboneiddio dwfn sy’n lleihau allyriadau carbon o brosesau diwydiannol.

8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?

Mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU wedi ymrwymo i werthuso effeithiolrwydd y cynllun o ran lleihau allyriadau, yn ogystal â deall yr effaith mae’n ei chael ar gyfranogwyr a’r economi ehangach. 

Mae’r Awdurdod wedi comisiynu astudiaeth werthuso dau gam.  Bydd y cam cyntaf, sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2024, yn canolbwyntio ar y broses o sefydlu’r cynllun a beth fu’r canlyniadau yn ei flynyddoedd cyntaf. Bydd y cam hwn yn ceisio deall a yw’r newid o Cynllun Masnachu Allyriadau'r Undeb Ewropeaidd i Gynllun Masnachu Allyriadau'r DU wedi bod yn esmwyth i gyfranogwyr wrth ddarparu marchnad garbon weithredol.

Bydd ail gam y gwerthusiad yn cael ei gynnal rhwng 2025 a 2026, a bydd yn canolbwyntio ar effeithiau’r cynllun yn ystod ei bedair blynedd gyntaf - er enghraifft, deall effaith y cynllun ar ddwysedd allyriadau prosesau cyfranogwyr neu ei briodoli i ollyngiadau carbon. Bydd y cam hwn nid yn unig yn canolbwyntio ar yr effeithiau sydd wedi cael eu teimlo oherwydd y cynllun ond hefyd sut mae’r effeithiau hyn wedi cael eu cyflawni, yn ogystal â’r effeithiau ehangach sy’n gorgyffwrdd.

Bwriedir i’r cam hwn yng Nghynllun Masnachu Allyriadau’r DU ddod i ben yn 2030 ond disgwylir i’r cynllun barhau ar ôl y pwynt hwn. Felly, ni ymrwymwyd i werthusiadau terfynol ar hyn o bryd.