Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi datganiad gyda phartneriaid o’r diwydiant ac awdurdodau lleol yn nodi rhagor o wybodaeth am ein cymorth ariannol i'r diwydiant bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
Bydd y Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau – a ddatblygwyd ar y cyd gan Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant yn disodli'r Cynllun Brys i’r Sector Bysiau a fydd yn dod i ben ar 24 Gorffennaf. Bydd yn darparu cymorth ariannol ar unwaith i weithredwyr bysiau yng Nghymru fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny barhau.
Fel y cyhoeddais ddydd Mawrth, 23 Mai, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46m ar gael o gyllidebau bysiau i gefnogi trefniadau’r Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau a'r Gronfa Bontio ar gyfer Bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan. Bydd y cyllid hwn hefyd yn sicrhau y gall gwasanaethau strategol TrawsCymru barhau.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r Timau Cynllunio Rhwydwaith Rhanbarthol, a gweithredwyr, i gynllunio a phrisio rhwydwaith o wasanaethau bysiau y gellir eu darparu pan ddaw'r cyllid brys i ben.
Bydd y cyllid sydd ar gael yn sicrhau y bydd y rhan fwyaf o'r gwasanaethau presennol yn cael eu diogelu ledled Cymru ac rydym wedi gofyn i'r Timau Cynllunio Rhanbarthol a TrC baratoi trosolwg o newidiadau i wasanaethau. Gallai rhai gwasanaethau newid, fodd bynnag, i adlewyrchu patrymau teithio gwahanol yn dilyn y pandemig.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud yn gyflym fel bod unrhyw newidiadau posibl i'r rhwydwaith yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi gyda chymaint o rybudd â phosibl.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i ddatblygu model ariannu cynaliadwy tymor hwy sy'n pontio'r bwlch i fasnachfreinio.