Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae gwaith yn parhau’n gyflym i sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Rhan bwysig o'r Comisiwn fydd y Bwrdd. Bydd y Bwrdd yn gyfrifol am osod y cynllun strategol ar gyfer y sefydliad, cyflawni'r cynllun strategol a'r swyddogaethau statudol, cyflawni amcanion corfforaethol, ac am stiwardiaeth ariannol a rheoli perfformiad y Prif Swyddog Gweithredol a'r sefydliad.

Bydd aelodaeth y bwrdd yn cynnwys aelodau cyswllt y gweithlu ac aelodau cyswllt y dysgwyr fel aelodau bwrdd cynghorol. Mae gan aelodau cynghorol y bwrdd rôl bwysig o ran gwella’r mewnbwn democrataidd i benderfyniadau a llywodraethiant y Comisiwn drwy drefniant partneriaeth gymdeithasol.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio sydd â gwerthoedd a rennir a phwrpas cyffredin. Mae'n gweithio ar yr egwyddor y gellir cyflawni mwy os yw’r Llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr (yn bennaf trwy eu hundebau llafur) yn cydweithio ac yn cydweithredu.

Amcanion polisi Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo cydweithredu rhwng darparwyr addysg drydyddol ac undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol a strategol. Un o'r meini prawf ar gyfer aelodau cyswllt y gweithlu yw bod yr ymgeiswyr cymwys yn aelodau o undeb llafur ar y rhestr berthnasol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar.

Bydd cael o leiaf dau aelod cynrychioliadol o undebau llafur y gweithlu addysg drydyddol ehangach ar fwrdd y Comisiwn yn sicrhau bod swyddogaethau'r Comisiwn yn cael eu penderfynu, eu datblygu a'u cyflawni ar y cyd mewn diwylliant sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, lle mae gwell dealltwriaeth o anghenion a buddiannau'r gweithlu wrth ddarparu addysg drydyddol. Rwyf am sicrhau bod barn y gweithlu addysg drydyddol yn cael ei chlywed ar y Bwrdd.

Mae'r gweithlu addysg drydyddol yn eang ac wedi’i rannu’n ddau brif gategori, sef staff addysgu academaidd a staff anacademaidd. Hoffwn weld safbwyntiau’r gweithlu cyfan yn cael eu cynrychioli ar y Bwrdd, a bod yr elfennau gwahanol hyn yn cael statws cyfartal ac ystyriaeth briodol.

Bydd galluogi undebau llafur i enwebu aelodau cyswllt y gweithlu ar gyfer Bwrdd y Comisiwn yn sicrhau barn gynhwysfawr a’u bod yn cael cyfle i ddylanwadu a chynghori.

Mae cynrychiolwyr wedi’u cynnwys ar ran dysgwyr i sicrhau bod swyddogaethau'r Comisiwn yn cael eu penderfynu, eu datblygu a'u cyflawni ar y cyd mewn diwylliant lle mae anghenion y dysgwr wrth wraidd y broses o gyflawni'r swyddogaethau hynny, a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud yn agored gyda llais y dysgwyr yn cael ei glywed ar lefel y Bwrdd ac yn llywio'r penderfyniadau hynny.

Mae'r cydweithio hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu ein sector addysg drydyddol ac ymchwil er mwyn diwallu anghenion dysgwyr, yr economi, cyflogwyr a chenedl gyfan Cymru, a bydd yn offeryn hollbwysig i wireddu ein gweledigaeth strategol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.

Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Cefndir

Mae Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn darparu ar gyfer sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd ('y Comisiwn’).

Y Comisiwn fydd y corff rheoleiddio sy’n gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Mae addysg drydyddol yn cwmpasu addysg ôl-16 gan gynnwys addysg bellach ac uwch, dysgu oedolion yn y gymuned, addysg seiliedig ar waith, prentisiaethau a chweched dosbarth ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol.

Mae sefydlu'r Comisiwn yn gam hanfodol tuag at wireddu nodau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â diwygio addysg ôl-16, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i'r Comisiwn sy’n ei alluogi i lunio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru i ddiwallu anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn well, gan helpu i adeiladu economi gryfach yn y dyfodol a hyrwyddo mwy o gydlyniant ar draws y sector a rhwng addysg orfodol ac ôl-orfodol mewn ysgolion. Un o'r prif nodau wrth sefydlu'r Comisiwn yw creu corff sy'n gallu delio â'r cynllunio strategol a'r cyllid ar draws y sector addysg drydyddol cyfan, a'r sector ymchwil ac arloesi mewn perthynas â Chymru.

Mae gwaith yn parhau, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol, i sefydlu'r Comisiwn yn hydref 2023 cyn iddo ddod yn weithredol yng ngwanwyn 2024.

Aelodau'r Comisiwn

Bydd y Comisiwn yn cynnwys uchafswm o 17 aelod sy'n cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd (a fydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi), y Prif Weithredwr ac o leiaf 4 a dim mwy na 14 o aelodau 'cyffredin’.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penodi'r Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd a'r Prif Weithredwr cyntaf ac maent wrthi'n penodi'r chwe aelod cyffredin cyntaf ar hyn o bryd. Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg benodiad yr Athro Fonesig Julie Lydon yn Gadeirydd y Comisiwn a'r Athro David Sweeney yn Gadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn. Gwnaed y penodiadau yn dilyn y broses penodiadau cyhoeddus. Bydd eu cyfnod yn y swydd yn para o fis Ionawr 2023 tan fis Ionawr 2028. Mae disgwyl i'r 6 aelod cyffredin o'r Bwrdd gael eu penodi ym mis Mehefin 2023.

Bydd y Bwrdd yn cynnwys nifer o aelodau cyswllt a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru. Bydd yr aelodau cyswllt hyn yn aelodau o’r Comisiwn sydd heb hawliau pleidleisio, a byddant yn cynnwys:

  • o leiaf dau aelod cyswllt ar gyfer y gweithlu sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg drydyddol ehangach, sef un i gynrychioli'r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac un i gynrychioli'r gweithlu addysg drydyddol anacadaemaidd
  • o leiaf un aelod cyswllt ar gyfer y dysgwyr i gynrychioli dysgwyr mewn addysg drydyddol

Rhaid i ymgeiswyr cymwys i'w penodi'n aelodau cyswllt y gweithlu gael eu cyflogi gan berson sy'n darparu addysg drydyddol yng Nghymru a bod yn aelod o undeb llafur ar y rhestr berthnasol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr cymwys i'w penodi'n aelodau cyswllt y dysgwyr fod wedi ymgymryd ag addysg drydyddol ar unrhyw adeg yn ystod y tair blynedd cyn eu penodi a bod â swydd neu aelodaeth o gorff ar y rhestr berthnasol a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar.

Rôl aelodau cyswllt

Swyddogaeth aelodau cyswllt fydd rhoi cyngor neu fewnbwn i'r Bwrdd ynghylch materion yn ymwneud â llywodraethu a darparu gwasanaethau o safbwynt y gweithlu neu’r dysgwr. Ni fydd ganddynt hawl i bleidleisio yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'u rôl fydd dylanwadu a chynghori'r Bwrdd.

Mae'r ffaith y bydd aelodau'r bwrdd cynghori yn aelodau sydd heb hawliau pleidleisio yn fuddiol o ran cadw gwahaniad rhwng y gweithgareddau hynny sy'n ofynnol fel aelod o'r Bwrdd a gweithgareddau ehangach yr undeb llafur, UCM neu gorff cynrychioli dysgwyr.

Penodi aelodau cyswllt

Mae'r broses o benodi'r aelodau cyswllt ar ran y gweithlu a’r dysgwyr wedi'i nodi yn Atodlen 1 i'r Ddeddf ac mae'n cynnwys y canlynol:

  1. Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi:
  • rhestr (ar gyfer pob un o 'gategorïau' gweithlu) o un neu ragor o undebau llafur at ddiben penodi aelodau cysylltiol y gweithlu i gynrychioli'r gweithlu addysg drydyddol academaidd ac anacademaidd (paragraff 5(1))
  • rhestr o un neu ragor o gyrff y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau dysgwyr sy'n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru at ddiben penodi'r aelod cyswllt y dysgwyr (paragraff 7(1))
  1. Cyn cyhoeddi'r rhestrau uchod, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiwn ac ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol (paragraffau 5(2) a 7(2))
  2. Ar ôl cyhoeddi'r rhestrau, rhaid i Weinidogion Cymru wahodd pob un o'r cyrff ar y rhestrau hynny i enwebu ymgeisydd cymwys ar gyfer y swyddi’r aelodau cyswllt perthnasol, gan bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo (paragraffau 5(3) – (7) a 7(3) – (5)
  3. Rhaid i Weinidogion Cymru benodi o leiaf un person o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebwyd ar gyfer pob swydd (paragraffau 5(8) – (11) a 7(6) – (7)). Byddai’r penodiadau hyn yn dilyn y broses benodi gyhoeddus. Nid yw'n ofynnol i'r ymgeiswyr a ffefrir fynychu gwrandawiad cyn penodi gyda Phwyllgor o’r Senedd ac ni wnaed unrhyw ymrwymiad yn hyn o beth.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys y tair rhestr arfaethedig, sef:

  • rhestr o undebau llafur a all enwebu ymgeiswyr i'w penodi fel aelodau cyswllt o'r gweithlu i gynrychioli'r gweithlu trydyddol academaidd
  • rhestr o undebau llafur a all enwebu ymgeiswyr i'w penodi fel aelodau cyswllt o'r gweithlu i gynrychioli'r gweithlu trydyddol anacademaidd
  • rhestr o un corff i gynrychioli buddiannau dysgwyr sy'n ymgymryd ag addysg drydyddol yng Nghymru er mwyn penodi aelod cyswllt y dysgwyr

Rhestrau arfaethedig

Rhestrau o undebau llafur

Y gweithlu addysg drydyddol academaidd

  • Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) - corff proffesiynol sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion, colegau a systemau ar draws y DU.
  • Cymuned – sy’n cynrychioli pob sector addysg a blynyddoedd cynnar o addysg feithrin i addysg drydyddol, gan gynnwys staff addysg bellach ac uwch, addysgu a chymorth. 
  • Cymdeithas Genedlaethol y Penaethiaid Cymru (NAHT) - undeb llafur a chymdeithas broffesiynol sy'n cynrychioli penaethiaid yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
  • Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT).
  • Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru (NEU) – sy’n cynrychioli athrawon, darlithwyr, staff cymorth, arweinwyr - mewn ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol, academi neu ysgol annibynnol, coleg chweched dosbarth neu addysg bellach/addysg uwch.
  • Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) – sy’n cynrychioli athrawon, penaethiaid, darlithwyr a thiwtoriaid.
  • Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru (UCU) – sy’n cynrychioli academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, technegwyr, staff proffesiynol ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysg oedolion a sefydliadau hyfforddi ar draws y DU.

Y gweithlu addysg drydyddol anacademaidd

  • Cymuned: sy’n cynrychioli pob sector addysg a blynyddoedd cynnar o addysg feithrin i addysg drydyddol, gan gynnwys staff addysg bellach ac uwch, addysgu a chymorth. 
  • GMB: sy’n cynrychioli staff cymorth ysgolion gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, goruchwylwyr llanw, nyrsys meithrin, goruchwylwyr amser cinio, staff safleoedd, a staff gweinyddol a chyllid.
  • Unite: sy’n cynrychioli gweithwyr ym mhob maes addysg (staff ymchwil, technegol, TG, gweinyddol, ystadau, cymorth a chynnal a chadw.
  • UNSAIN: sy’n cynrychioli staff gwasanaethau cyhoeddus.

Rhestr o gyrff sy’n cynrychioli dysgwyr

Cyrff sy’n cynrychioli dysgwyr

  • Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM) Cymru – sy’n cynrychioli myfyrwyr a phrentisiaid mewn colegau a phrifysgolion (sydd â statws arsylwi yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru).

Consultation questions

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno â’r rhestrau o undebau? A oes undebau eraill yn gweithredu yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru y credwch y gellid eu hychwanegu at y rhestrau?

Cwestiwn 2

Ydych chi'n cytuno â'r corff cynrychioli dysgwyr a enwir? A oes cyrff cynrychioli dysgwyr eraill sy'n gweithredu yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru y credwch y gellid eu hychwanegu at y rhestr i gynrychioli dysgwyr?

Cwestiwn 3

Sut allai'r Comisiwn glywed a chynrychioli barn a lleisiau'r dysgwyr orau?

Cwestiwn 4

Cyfle cyfartal

Bydd y Comisiwn yn dod yn gorff rhestredig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac yn gyfrifol am ddileu cyfle anghyfartal, gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, a meithrin cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau. Bydd yn cymryd pob cam sy’n angenrheidiol i sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi.

Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai cynnwys aelodau cyswllt ar y Bwrdd sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg a dysgwyr yn ei chael ar gyfle cyfartal.

Yn eich barn chi, beth fyddai’r effaith ar gyfle cyfartal? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 5

Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai cynnwys aelodau cyswllt ar y Bwrdd sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg a dysgwyr yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effaith yn eich barn chi? Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd sut y gallai'r polisi ar gynnwys aelodau cyswllt ar y Bwrdd i gynrychioli’r gweithlu addysg drydyddol ehangach a dysgwyr gael eu llunio neu eu newid yn eich barn chi fel eu bod yn cael effaith gadarnhaol neu'n cynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac nad ydynt yn cael effaith andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Cwestiwn 7

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech chi godi unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi’u hystyried yn benodol, defnyddiwch y blwch isod i wneud hynny.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parch Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost dataprotectionofficer3@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffon: 0303 123 1113

Gwefan: Information Commissioner's Office