Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Pa ddata sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad hwn?
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys data o dair ffynhonnell:
- Arolwg Deiliadaeth Llety Cymru a gynhaliwyd gan Strategic Research and Insight, cwmni ymchwil a leolir yng Nghymru. (Casglwyd data Awst i Rhagfyr, 2022)
- CoStar Ltd, cwmni systemau rheoli eiddo sy'n darparu data ar westai â gwasanaeth (Casglwyd data Ionawr i Rhagfyr, 2022)
- Transparent, cwmni gwe-grafu sy'n darparu data ar Osodiadau Tymor Byr (Casglwyd data Ionawr i Rhagfyr, 2022)
Sector llety â gwasanaeth
- Ar anterth y tymor twristiaeth ym mis Awst, cyrhaeddodd y sector llety â gwasanaeth 79% o ddeiliadaeth ystafelloedd / 70% defnydd gwelyau
STR Global: data gwestai
- Mae data STR yn dangos bod gwestai mwy (yn fwyaf tebygol o fod yn westai cadwyn) yn adennill eu lefelau deiliadaeth o 2021 gyda'r rhai â 51 i 100 o ystafelloedd yn dangos y lefelau deiliadaeth uchaf (80%).
Sector hunanddarpar
- Cyrhaeddodd deiliadaeth unedau hunanddarpar 78% ym mis Awst, yn llai nag Awst 2019 (88%)
- Ond roedd deiliadaeth mis Medi (73%) yn uwch na chyn COVID-19 (68%)
- Roedd busnesau gyda mwy na deg gwely (ar draws un neu fwy o unedau) yn llawer llawnach rhwng mis Awst a mis Rhagfyr
Transparent Intelligence: data gosodiadau tymor byr
- Gellir gweld lefelau deiliadaeth uwch yn 2021 o gymharu â 2022 ar draws pob rhanbarth
Sector carafanau a gwersylla
- Cyrhaeddodd deiliadaeth lleiniau uchafbwynt o 71% ym mis Awst
- Ymwelwyr domestig sy’n dominyddu’r sector, daeth 95% o’r ymwelwyr o’r DU
Sector hosteli
- Cyrhaeddodd defnydd gwelyau 69% ym mis Awst, o gymharu â 75% ym mis Awst 2019
Adroddiadau
Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.