Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cyflwyniad

1. Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA) drafft  yw hwn, sy’n ategu’r ymgynghoriad papur gwyn “System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru”. Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r cynigion yr ydym wedi’u datblygu drwy ein prosiect diwygio tribiwnlysoedd ar gyfer system fodern i dribiwnlysoedd datganoledig Cymru. Mae’r cynigion yn seiliedig ar waith sylweddol, gan gynnwys adroddiadau gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, 2019 - Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru) a Chomisiwn y Gyfraith (Comisiwn y Gyfraith, 2021 - Adroddiad Tribiwnlysoedd Datganoledig yng Nghymru), a thrafodaethau â rhanddeiliaid allweddol.

2. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn amlinellu asesiad costau a manteision o’r opsiynau i ddiwygio’r system bresennol o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru a’u llunio’n system unedig a chydlynol. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn ddogfen sy’n datblygu, ac rydym yn awyddus i gael tystiolaeth ychwanegol ac amgen i helpu i lywio’r asesiad terfynol a fydd yn rhan o femorandwm esboniadol a gyhoeddir ochr yn ochr ag unrhyw Fil yn y dyfodol i fwrw ymlaen â’r cynigion hyn.

Pam mae angen deddfwriaeth sylfaenol?

3. Mae’r papur gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol i ddod â’r gwahanol dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru ynghyd mewn strwythur unedig a chydlynol sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

4. Mae’r tribiwnlysoedd datganoledig sydd o fewn cwmpas ein cynigion diwygio i gyd yn cael eu llywodraethu gan eu fframweithiau deddfwriaethol eu hunain, sydd wedi datblygu’n dameidiog dros amser. Yn wahanol i lawer o dribiwnlysoedd a gedwir yn ôl, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007, mae’r tribiwnlysoedd datganoledig i gyd wedi aros fel y cawsant eu cyfansoddi adeg eu creu. Un o’r datblygiadau diweddar oedd creu swyddfa Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ond mae’r ddeddfwriaeth honno’n troshaenu’r fframweithiau sy’n bodoli eisoes ac nid yw’n creu cyfanwaith cydlynol.

5. Felly, mae angen deddfwriaeth sylfaenol i fynd i’r afael â’r materion sy’n codi o’r fframweithiau deddfwriaethol presennol, sydd wedi’u datgysylltu i raddau helaeth, er mwyn sefydlu dull mwy clir, syml, effeithiol a chydlynol o weithredu system tribiwnlysoedd datganoledig Cymru.

Cynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol

6. Mae’r papur gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol yn y meysydd canlynol:

Pennod 3: Strwythur newydd ar gyfer system dribiwnlysoedd Cymru

Rydym yn cynnig creu system dribiwnlysoedd unedig i Gymru sy’n cynnwys dau dribiwnlys newydd – Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru – o dan arweinyddiaeth farnwrol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Pennod 4: Awdurdodaethau sy'n trosglwyddo i'r system dribiwnlysoedd

Rydym yn cynnig:

  • bod awdurdodaethau Tribiwnlysoedd Cymru, ynghyd ag awdurdodaethau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael eu trosglwyddo i Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, a’u trefnu’n siambrau
  • y dylid ystyried trosglwyddo awdurdodaethau ymhellach, boed yn awdurdodaethau sy’n bodoli eisoes neu’n rhai a fydd yn cael eu creu gan ddeddfwriaeth yn y dyfodol, fesul achos
  • y dylid trefnu Tribiwnlys Apêl Cymru yn siambrau fel y bo'n briodol ac wrth i awdurdodaethau apêl gael eu trosglwyddo iddo, ac wrth i faint y gwaith apêl ddatblygu.

Mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi’u diffinio yn adran 59 o Ddeddf Cymru 2017. Sef:

  • Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru
  • Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru
  • Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru
  • Tribiwnlys Addysg Cymru
  • Panel Dyfarnu Cymru
  • Thribiwnlys y Gymraeg

Pennod 5: Annibyniaeth

Rydym yn cynnig:

  • y dylai pawb sy’n gyfrifol am weinyddu cyfiawnder yng Nghymru fod o dan ddyletswydd statudol i gynnal annibyniaeth Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • creu corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb gweithredol dros weinyddu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru.

Pennod 6: Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Rydym yn cynnig:

  • y dylai Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod yn farnwr llywyddol Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan allu eistedd fel barnwr yn y tribiwnlysoedd hynny
  • y dylid ychwanegu at rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru drwy roi swyddogaethau a dyletswyddau statudol newydd i’r swydd.

Pennod 7: Penodi a neilltuo

Rydym yn cynnig:

  • dull cydlynol o benodi aelodau Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan ddileu rôl yr Arglwydd Ganghellor
  • wrth wneud penodiadau, dylid ystyried yr angen i hybu amrywiaeth yn yr ystod o unigolion a benodir yn aelodau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • bod y telerau ac amodau, gan gynnwys taliad cydnabyddiaeth, yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru
  • system ar gyfer neilltuo aelodau tribiwnlysoedd yn effeithiol ar draws y system dribiwnlysoedd newydd.

Pennod 8: Cwynion a disgyblu

Rydym yn cynnig:

  • gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion a disgyblu mewn cysylltiad ag ymddygiad holl aelodau tribiwnlysoedd y tribiwnlysoedd newydd
  • gweithdrefn unffurf ar gyfer cwynion am weinyddiaeth y gwasanaeth tribiwnlys newydd.

Pennod 9: Rheolau gweithdrefnol

Rydym yn cynnig:

  • y dylid cael rheolau gweithdrefnol cyffredin ar draws y system dribiwnlysoedd newydd cyn belled ag y bo hynny’n briodol, ond gan gofio bod angen darparu ar gyfer gwahaniaethau rhwng awdurdodaethau
  • y dylai pob siambr Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru gael ei set ei hun o reolau gweithdrefnol
  • sefydlu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd i Gymru, dan gadeiryddiaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, i ddatblygu a diweddaru rheolau gweithdrefnol a fyddai’n cael eu gwneud gan y Llywydd, ar yr amod eu bod yn cael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

Yr opsiynau

7. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn yn ystyried pedwar opsiwn:

  • Opsiwn 1: gwneud dim
  • Opsiwn 2: creu system dribiwnlysoedd unedig sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru
  • Opsiwn 3: creu system dribiwnlysoedd unedig sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, gan ymgorffori tribiwnlysoedd datganoledig presennol yn raddol yn y system newydd hefyd
  • Opsiwn 4: cadw’r tribiwnlysoedd datganoledig a safoni eu priod fframweithiau deddfwriaethol.

Opsiwn 1: Gwneud dim

8. O dan yr opsiwn hwn, byddai strwythurau presennol y tribiwnlysoedd datganoledig yn cael eu cadw ac ni roddir sylw i’r rhesymau, fel y nodir uchod, dros ddiwygio’r trefniadau presennol i sefydlu system gydlynol ac unedig o dribiwnlysoedd datganoledig.

Opsiwn 2: Creu system dribiwnlysoedd unedig

9. Ar hyn o bryd, mae pob un o’r tribiwnlysoedd datganoledig wedi’i gyfansoddi o dan ei fframwaith deddfwriaethol ei hun. Er bod Deddf Cymru 2017 wedi sefydlu swydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac wedi grwpio nifer o’r tribiwnlysoedd datganoledig fel “Tribiwnlysoedd Cymru”, roedd yn disodli’r fframweithiau deddfwriaethol presennol ac ni aeth i’r afael â’r diffyg cydlyniaeth ar draws y system bresennol o dribiwnlysoedd datganoledig.

10. O dan Opsiwn 2, byddai deddfwriaeth sylfaenol yn creu system dribiwnlysoedd gydlynol ac unedig. Yn gryno, mae’r opsiwn yn rhag-weld y byddai’r tribiwnlysoedd datganoledig y mae gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru swyddogaethau statudol mewn perthynas â hwy ar hyn o bryd yn cael eu hymgorffori yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Byddai tribiwnlysoedd datganoledig eraill nad ydynt o fewn cylch gwaith y Llywydd ar hyn o bryd hefyd yn cael eu hymgorffori yn y strwythur tribiwnlysoedd newydd. Mae’r rhain yn cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion.

11. Byddai deddfwriaeth sylfaenol yn disodli’r darnau ar wahân o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol ar gyfer pob tribiwnlys datganoledig y mae ei awdurdodaeth yn cael ei hymgorffori yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Rydym yn cynnig y byddai gwaith y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn cael ei drefnu’n siambrau ar wyneb y ddeddfwriaeth. Gellid cyfuno awdurdodaethau rhai tribiwnlysoedd presennol mewn siambr a throsglwyddo eraill ar eu pen eu hunain i siambr, gan gydnabod natur arbenigol awdurdodaethau penodol. Rydym hefyd yn cynnig pŵer i Weinidogion Cymru, gyda chydsyniad Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, ychwanegu siambrau neu ddiwygio’r broses o ddyrannu gwaith rhwng siambrau.

12. Yn ychwanegol at dribiwnlys newydd yn y lle cyntaf, mae opsiwn 2 yn rhag-weld y bydd Tribiwnlys Apêl Cymru yn cael ei greu i wrando ar apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Mae’r llwybrau apêl cyfredol o’r tribiwnlysoedd datganoledig wedi datblygu’n dameidiog dros amser ac maent i raddau helaeth yn gynnyrch datblygiad hanesyddol y tribiwnlysoedd datganoledig, yn hytrach na dull gweithredu cydlynol ar gyfer system dribiwnlysoedd Cymru lle mae llwybrau apêl yn rhan annatod ohonynt. Rydym yn rhag-weld y bydd nifer y llwybrau apêl mewn deddfwriaeth ddatganoledig yn cynyddu wrth i’r Senedd barhau i ddeddfu mewn meysydd polisi datganoledig.

13. Mae’r hyblygrwydd sy’n rhan o ddyluniad strwythur Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a chreu Tribiwnlys Apêl Cymru fel y corff apeliadol ar gyfer apeliadau o’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn elfennau allweddol o’r system dribiwnlysoedd newydd arfaethedig, sy’n ei gwneud yn hyblyg ac yn ymatebol i ofynion y dyfodol.

14. O dan yr opsiwn hwn, byddai’r system dribiwnlysoedd newydd yn cael ei gweinyddu gan gorff statudol sy’n gweithredu hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn sicrhau rhagor o annibyniaeth strwythurol ar Lywodraeth Cymru fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Thomas a Chomisiwn y Gyfraith.

Opsiwn 3: Mynd ati’n raddol i uno’r tribiwnlysoedd datganoledig

15. Yn yr un modd ag opsiwn 2, mae opsiwn 3 yn rhag-weld bod system dribiwnlysoedd gydlynol ac unedig, sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, yn cael ei chreu. Fodd bynnag, mae opsiwn 3 yn rhag-weld dull graddol o ymgorffori’r tribiwnlysoedd datganoledig presennol yn y system newydd. Yn ystod cam 1, byddai Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu hymgorffori yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru; ac yn ystod cam 2, byddai Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael eu hymgorffori yn yr un modd.

16. Gellid gwneud darpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol ar gyfer tribiwnlysoedd yng ngham 2, cyn ymgorffori, i fod yn destun goruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru. Er y byddai hyn yn rhoi lefel o oruchwyliaeth farnwrol uwch iddynt a rhywfaint o gysondeb ar draws y system dribiwnlysoedd newydd, byddai hefyd yn golygu, yn y lle cyntaf, fath mwy cyfyngedig o integreiddio na’r hyn a ddarperir o dan opsiwn 2.

Opsiwn 4: Safoni fframweithiau deddfwriaethol presennol y tribiwnlysoedd datganoledig

17. O dan opsiwn 4, ni fyddai Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru na Thribiwnlys Apêl Cymru yn cael eu creu. Yn hytrach, byddai’r tribiwnlysoedd datganoledig yn parhau i gael eu cyfansoddi o dan eu priod fframweithiau deddfwriaethol a byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei defnyddio i safoni trefniadau cyffredin a allai fod yn berthnasol iddynt. Byddai hyn yn cynnwys materion fel rheolau penodi, disgyblu a gweithdrefnol – materion a fyddai hefyd yn cael sylw fel rhan o’r system dribiwnlysoedd unedig a gynigir o dan opsiwn 2 ac opsiwn 3.

18. Byddai opsiwn 4 cynnig lefel o gysondeb i’r tribiwnlysoedd datganoledig ac yn darparu templed ar gyfer creu tribiwnlysoedd yn y dyfodol. Fodd bynnag, ni fyddai’n rhoi hyblygrwydd o ran y modd y gellid trefnu gwaith y tribiwnlysoedd datganoledig ac ni fyddai mor ymatebol i’r galw ar system dribiwnlysoedd Cymru yn y dyfodol. O dan opsiwn 4, pe na bai tribiwnlys presennol yn gartref naturiol i lwybr apêl newydd, yr opsiynau polisi fyddai naill ai greu tribiwnlys cwbl newydd neu gyfeirio’r apêl newydd i Dribiwnlys Haen Gyntaf presennol y DU.

Costau a manteision

19. Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn yn ystyried costau a manteision yr opsiynau sydd wedi cael eu nodi.

Opsiwn 1: Gwneud dim

20. Mae opsiwn 1, gwneud dim, yn rhag-weld y bydd y trefniadau presennol ar gyfer y tribiwnlysoedd datganoledig yn parhau i fodoli. Nid oes costau ychwanegol ar gyfer yr opsiwn hwn gan ei fod, yn ei hanfod, yn cynnal y status quo. Felly, costau’r opsiwn hwn yw asesiad sylfaenol o’r tribiwnlysoedd datganoledig fel y maent wedi’u cyfansoddi ar hyn o bryd. Mae’r opsiynau eraill, pob un ohonynt yn ystyried gwahanol raddau o bontio oddi wrth y trefniadau presennol, yn defnyddio’r asesiad sylfaenol at ddibenion cymharu.

21. Nid oes unrhyw fanteision ychwanegol yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn oherwydd ni roddir sylw i’r diffygion a nodwyd yn y trefniant presennol.

Tribiwnlysoedd Cymru

22. Mae llwyth achosion Tribiwnlysoedd Cymru wedi’i nodi yn Nhabl 1 isod, drwy gyfeirio at nifer y ceisiadau i bob tribiwnlys unigol ar gyfer y blynyddoedd ariannol cyflawn diweddaraf yr adroddwyd arnynt gan Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru (Pedwerydd Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, Ebrill 2021 i Ragfyr 2022). Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru sydd â’r llwyth achosion mwyaf o blith holl Dribiwnlysoedd Cymru. Yn y flwyddyn ariannol 2021-22, roedd yn cyfrif am 1,840 o geisiadau allan o’r cyfanswm o 2,137 a gyflwynwyd i Dribiwnlysoedd Cymru, sef 86% o’r holl geisiadau.

Tabl 1: Nifer y ceisiadau i Dribiwnlysoedd Cymru yn ôl blwyddyn ariannol
Tribiwnlys 2019 i 2020 2020 i 2021 2021 i 2022
Y Tribiwnlys Tir Amaethyddol 22 13 20
Panel Dyfarnu Cymru 2 4 10
Tribiwnlys Addysg Cymru
(a elwid gynt yn Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru)
172 116 151
Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl 1,943 1,790 1,840
Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl 112 106 113
Tribiwnlys y Gymraeg 16 13 3

23. Ym mis Mai 2023, roedd gan Dribiwnlysoedd Cymru garfan gronnus o 238 o aelodau tribiwnlysoedd. Yn gyffredinol, maent yn aelodau sy’n derbyn ffi ac nid yn aelodau cyflogedig. Mae Llywydd y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl yn gyflogedig. Ers 1 Ebrill 2022, y cyflog yw £147,388 (Judicial Salaries by Post). Mae’r cyfraddau ffioedd eistedd dyddiol ar gyfer aelodau tribiwnlysoedd wedi’u nodi yn Nhabl 2. Ceir categori o swyddi barnwrol sy’n eistedd mewn ymddeoliad (cafodd swyddi eistedd mewn ymddeoliad eu creu gan Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol 2022) ond nid oes unrhyw aelodau o Dribiwnlysoedd Cymru sydd wedi’u penodi i swyddi barnwrol o’r fath.

Tabl 2: Cyfraddau ffioedd eistedd dyddiol barnwrol (ers 1 Ebrill 2022)
Tribiwnlys Swydd Swm £
  Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 946
Y Tribiwnlys Tir Amaethyddol Llywydd 630
Aelod Cyffredinol 537
Aelod Cyfreithiol 218
Panel Dyfarnu Cymru Llywydd 630
Aelod Cyffredinol 537
Aelod Cyfreithiol 276
Tribiwnlys Addysg Cymru Llywydd 724
Cadeirydd Cyfreithiol 537
Aelod Cyfreithiol 273
Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru Aelod Cyfreithiol (Panel Cleifion dan Gyfyngiadau) 671
Aelod Cyfreithiol (Panel Cleifion heb Gyfyngiadau) 538
Aelod Meddygol 523
Aelod Meddygol – ffi gwrandawiad rhagarweiniol 194
Aelod Cyfreithiol 244
Tribiwnlys Eiddo Preswyl Llywydd 630
Aelod Cyffredinol 537
Syrfëwr 335
Aelod Cyfreithiol 218
Tribiwnlys y Gymraeg Llywydd 633
Aelod Cyffredinol 539
Aelod Cyfreithiol 227

(Judicial Daily Sitting Fees)

24. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu adnoddau i Dribiwnlysoedd Cymru er mwyn galluogi’r tribiwnlysoedd cyfansoddol i arfer eu swyddogaethau statudol. Mae hyn yn cynnwys darparu staff, llety, adnoddau ariannol ac adnoddau eraill i Dribiwnlysoedd Cymru sy’n cael eu cyflawni drwy Uned Tribiwnlysoedd Cymru. Uned Tribiwnlysoedd Cymru yw’r tîm cyflawni penodol yn Llywodraeth Cymru sy’n darparu cymorth gweithredol a gweinyddol i Dribiwnlysoedd Cymru. Mae’r Uned, sy’n cael ei staffio gan weision sifil, yn cyflogi 36 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn.

25. Mae Tablau 3-5 isod yn nodi costau sylfaenol Tribiwnlysoedd Cymru ar draws tair blwyddyn ariannol, 2019-2020 i 2021-2022. Daw’r ffigurau o adroddiadau blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ac Arweinydd Barnwrol holl Dribiwnlysoedd Cymru dros y cyfnodau hynny. Ym mlwyddyn ariannol 2021-2022, adroddodd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru fod gwariant o £4.09 miliwn, 69% (£2.805 miliwn) wedi’i ymrwymo i gostau rhedeg tribiwnlysoedd a 31% (£1.287 miliwn) wedi’i ymrwymo i gostau rhedeg Uned Tribiwnlysoedd Cymru, yn bennaf cost staff cyfwerth ag amser llawn yr Uned.

Tabl 3: Costau Sylfaenol Tribiwnlysoedd Cymru - blwyddyn ariannol 2019 i 2020
  2019 i 2020
Ffioedd a threuliau aelodau (4) £ Gwrandawiadau tribiwnlysoedd a chostau eraill £ CYFANSWM £
Gwariant adroddedig Tribiwnlysoedd Cymru (a)     4,446,000
Costau rhedeg adroddedig y tribiwnlysoedd (b)      
Y Tribiwnlys Tir Amaethyddol 20,000 5,000 25,000
Panel Dyfarnu Cymru 30,072 4,006 34,078
Tribiwnlys Addysg Cymru (c) 269,042 48,456 317,498
Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl (d) 2,590,340   2,590,340
Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl 205,520 11,483 217,004
Tribiwnlys y Gymraeg 24,932 16,847 41,779
Cyfanswm     3,225,699
Costau rhedeg gweinyddol Uned Tribiwnlysoedd Cymru (e)     1,220,301

 

Tabl 4: Costau Sylfaenol Tribiwnlysoedd Cymru - blwyddyn ariannol 2020 i 2021
  2020 i 2021
Ffioedd a threuliau aelodau (4) £ Gwrandawiadau tribiwnlysoedd a chostau eraill £ CYFANSWM £
Gwariant adroddedig Tribiwnlysoedd Cymru (a)     3,565,246
Costau rhedeg adroddedig y tribiwnlysoedd (b)      
Y Tribiwnlys Tir Amaethyddol 10,000 NIL 10,000
Panel Dyfarnu Cymru 43,126 15,682 58,808
Tribiwnlys Addysg Cymru (c) 180,884 6,068 186,952
Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl (d) 1,784,356   1,784,356
Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl 297,961 2,169 300,130
Tribiwnlys y Gymraeg 23,267 2,662 25,929
Cyfanswm     2,366,175
Costau rhedeg gweinyddol Uned Tribiwnlysoedd Cymru (e)     1,199,071

 

Tabl 5: Costau Sylfaenol Tribiwnlysoedd Cymru - blwyddyn ariannol 2021 i 2022
  2021 i 2022
Ffioedd a threuliau aelodau (4) £ Gwrandawiadau tribiwnlysoedd a chostau eraill £ CYFANSWM £
Gwariant adroddedig Tribiwnlysoedd Cymru (a)     4,092,047
Costau rhedeg adroddedig y tribiwnlysoedd (b)      
Y Tribiwnlys Tir Amaethyddol 4,000 2,600 6,600
Panel Dyfarnu Cymru 41,370 7,780 49,151
Tribiwnlys Addysg Cymru (c) 214,000 8,000 222,000
Y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl (d) 2,229,845   2,229,845
Y Tribiwnlys Eiddo Preswyl 285,912 3,634 290,000
Tribiwnlys y Gymraeg 7,304 196 7,500
Cyfanswm     2,805,096
Costau rhedeg gweinyddol Uned Tribiwnlysoedd Cymru (e)     1,286,951
Nodiadau: Tablau 3 i 5
  1. Cyfanswm y gwariant adroddedig ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru fel y’i cyhoeddwyd yn adroddiadau blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.
  2. Gwariant fel y’i cyhoeddwyd ym mhob un o Adroddiadau Blynyddol unigol Tribiwnlysoedd Cymru 2019-2020 i 2021-22.
  3. Adroddiad blynyddol Tribiwnlys Addysg Cymru 2021-2022, adroddiadau blynyddol Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2019-2020 a 2020-2021.
  4. Gwariant ar gyfer ffioedd a threuliau yn cynnwys hyfforddiant Aelodau.
  5. Gwariant Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru ar ffioedd a threuliau Aelodau, a gwrandawiadau tribiwnlys a chostau eraill wedi’u cyfuno yn Adroddiadau Blynyddol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru.
  6. Costau rhedeg gweinyddol Uned Tribiwnlysoedd Cymru = gwariant adroddedig Tribiwnlysoedd Cymru – cyfanswm costau rhedeg adroddedig tribiwnlysoedd.

Tribiwnlys Prisio Cymru

26. Mae Tribiwnlys Prisio Cymru wedi’i sefydlu drwy statud ac mae’n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae dogfen fframwaith yn nodi’r berthynas rhwng y Tribiwnlys a Llywodraeth Cymru. Mae’r Tribiwnlys yn gwrando ar achosion sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig a’r dreth gyngor. Mae llwyth achosion Tribiwnlys Prisio Cymru wedi’i nodi yn Nhabl 6 isod (Adroddiad Blynyddol Tribiwnlys Prisio Cymru 2021 i 2022).

Tabl 6: Nifer y ceisiadau a nifer penderfyniadau Tribiwnlys Prisio Cymru
  2019 i 2020 2020 i 2021 2021 i 2022
Ceisiadau 5,116 20,912* 4,808
Penderfyniadau’r Tribiwnlys 879 401 1,070

* Lefel uchel o apeliadau ardrethu oherwydd effaith Covid-19, apeliadau a wnaed ar sail Newid Sylweddol mewn Amgylchiadau.

27. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu adnoddau i Dribiwnlys Prisio Cymru. Mae Tabl 7 isod yn nodi costau sylfaenol y Tribiwnlys ar draws tair blwyddyn ariannol, 2019-2020 i 2021-2022. Mae swyddogaethau gweinyddol a gweithredol sy’n cefnogi’r Tribiwnlys yn cael eu cyflawni gan ei gorff o 14 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn.

Tabl 7: Costau sylfaenol Tribiwnlys Prisio Cymru
  2019 i 2020 2020 i 2021 2021 i 2022
Costau Staff Blynyddol 720,629 709,042 759,470
Costau ar wahân i Gostau Staff 350,233 342,337 306,144
Cyfanswm y Gwariant Blynyddol 1,070,862 1,051,379 1,065,614

Paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion

28. Gweinyddir paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn lleol, gan awdurdodau lleol. Maent yn gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau disgyblu ysgolion i gadarnhau penderfyniad ysgol i wahardd disgybl yn barhaol. Nid yw’r data ar nifer y paneli apêl diarddel o ysgolion sydd wedi’u cynnull yn cael ei gasglu fel mater o drefn, ond amcangyfrifir y gallai fod tua 24 bob blwyddyn – tua 2 i bob awdurdod lleol (Public Administration and a Just Wales: Education - Mawrth 2020, tudalen 67).

Opsiwn 2: Creu system dribiwnlysoedd unedig

29. Opsiwn 2 yw’r opsiwn a fyddai’n cynyddu manteision y prosiect diwygio tribiwnlysoedd i’r eithaf drwy greu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol i Gymru. Yn gryno, mae’n ddull system gyfan o ddiwygio’r trefniadau presennol ac felly dyma’r opsiwn a fydd yn creu’r costau ychwanegol uchaf yn ychwanegol at y costau sylfaenol a nodir o dan opsiwn 1.

Sefydlu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru

30. O ran tribiwnlysoedd unigol, ni fydd creu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru na throsglwyddo awdurdodaethau’r tribiwnlysoedd hynny iddo yn effeithio’n fawr ar eu gwaith. Mae’r ddau eithriad i hyn yn ymwneud ag ymgorffori awdurdodaethau Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion.

31. Nid yw Tribiwnlys Prisio Cymru yn gweithredu yn yr un ffordd â Thribiwnlysoedd Cymru. Mae’n gweithredu mewn ffordd sy’n debycach i’r ynadaeth leyg. Mae tri aelod gwirfoddol yn gwrando ar achosion ochr yn ochr â chynghorydd cyfreithiol proffesiynol. Mae hyn yn wahanol i aelodau Tribiwnlysoedd Cymru sy’n derbyn ffi eistedd ddyddiol, fel yr amlinellir yn Nhabl 2 uchod, ac sy’n eistedd heb gynghorydd cyfreithiol proffesiynol ond gydag aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith yn lle hynny.

32. Mae’r papur gwyn yn rhag-weld cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru yn y system dribiwnlysoedd newydd, gyda’i awdurdodaeth yn cael ei throsglwyddo i Siambr Drethi Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, ond nid yw’n argymell pa fodel dyfarnu y dylai’r Tribiwnlys ei fabwysiadu yn y dyfodol. Bydd angen ystyried y model hwnnw, ac a ddylid talu i aelodau. Fel ffigur dangosol, mae Tabl 8 isod yn amlinellu goblygiadau costau posibl symud i strwythur talu ar gyfer aelodau’r Tribiwnlys ar sail nifer y cyfarfodydd panel ym mlynyddoedd ariannol 2019-2020 i 2021-2022. Amcangyfrifir y gost flynyddol bosibl ychwanegol hon gan ddefnyddio ffioedd uchaf ac isaf aelodau lleyg Tribiwnlysoedd Cymru, fel yr amlinellir yn Nhabl 2.

Tabl 8: Amcangyfrif o’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â thalu ffi i aelodau Tribiwnlys Prisio Cymru
  2019 i 2020 2020 i 2021 (covid-19) 2021 i 2022
Amcangyfrif Uchaf £127,512 £86,940 £151,524
Amcangyfrif Isaf £100,716 £68,670 £119,682

33. Mae cost ychwanegol bosibl hefyd yn ymwneud â rhwymedigaethau pensiwn Tribiwnlys Prisio Cymru. Mae staff y Tribiwnlys yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Mae’r cynllun hwnnw wedi’i rannu’n nifer o gronfeydd ac mae buddiant y Tribiwnlysoedd wedi’i gynnwys mewn pedwar o’r cronfeydd hynny. Pe bai staff y Tribiwnlys yn cael eu trosglwyddo i gynllun pensiwn gwahanol, mae’r  amcangyfrifon o’r costau ymadael ar gyfer pob un o’r cynlluniau yn dangos mai £2.573 miliwn oedd cyfanswm y gost ymadael ar 31 Mawrth 2022, fel yr amlinellir yn Nhabl 9 isod.

Tabl 9: Rhwymedigaethau pensiwn Tribiwnlys Prisio Cymru
Cronfa Bensiwn Amcangyfrif o’r gost ymadael (£M)
Clwyd (Sir y Fflint) 0.881
Dyfed 0.069
Gwent Fwyaf (Torfaen) 0.702
Rhondda Cynon Taf 0.921
Cyfanswm 2.573

34. Mae’r Papur Gwyn yn cynnig bod awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael ei chynnwys yn Siambr Addysg y Tribiwnlys Haen Gyntaf, ynghyd ag awdurdodaeth Tribiwnlys Addysg Cymru. Caiff paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion eu hariannu gan awdurdodau lleol a bydd eu trosglwyddo i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gost ychwanegol yn y system dribiwnlysoedd newydd, gydag arbediad cost cyfatebol i awdurdodau lleol. Mae Tabl 10 isod yn amcangyfrif y gost ychwanegol ar sail amcangyfrif o 24 gwrandawiad panel bob blwyddyn, fel y trafodir ym mharagraff 28 uchod, a drwy ddefnyddio dosraniad o lwyth achosion a ffioedd a threuliau aelodau Tribiwnlys Addysg Cymru fel yr amlinellir yn Nhabl 1 a Thablau 3 i 5 uchod. Byddai gwaith gweinyddol ychwanegol hefyd yn sgil y llwyth achosion ychwanegol a fyddai, at ddibenion yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn, yn ein barn ni yn cael ei ymgorffori gan y dyraniad adnoddau presennol ar gyfer gweinyddu tribiwnlysoedd.

Tabl 10: Amcangyfrif o’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion
  2019 i 2020 2020 i 2021 2021 i 2022
Nifer y ceisiadau i Dribiwnlys Addysg Cymru 172 116 151
Costau rhedeg adroddedig Tribiwnlys Addysg Cymru  £317,498 £186,952 £222,000
Cost fesul cais £1,846 £1,612 £1,471
Nifer ychwanegol o wrandawiadau 24 24 24
Cyfanswm y gost ychwanegol £44,304 £38,688 £35,304

Sefydlu Tribiwnlys Apêl Cymru

35. Ar hyn o bryd, mae’r llwybr apêl o benderfyniadau cyntaf y rhan fwyaf o Dribiwnlysoedd Cymru yn cael ei gyfeirio i Uwch Dribiwnlys y DU, ac i’r Uchel Lys o rai o Dribiwnlysoedd Cymru. Bydd cost sefydlu corff apeliadol Cymreig felly'n golygu trosglwyddiad cost, sef cost ychwanegol yn y system dribiwnlysoedd newydd yng Nghymru a gostyngiad cyfatebol yn y gost i Lywodraeth y DU.

36. Mae’r adroddiadau blynyddol ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru yn dangos bod nifer yr apeliadau pellach yn isel. Yn 2021-2022, cafodd pedwar cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys eu caniatáu, ac roedd dau gais arall yn aros. O ran Tribiwnlys Prisio Cymru, roedd tair apêl ardrethu i'r Uwch Dribiwnlys ac nid oedd unrhyw apêl treth gyngor i'r Uchel Lys yn 2021-2022. Mae hyn yn nodweddiadol o nifer yr apeliadau blynyddol.   Mae Tabl 11 isod yn amcangyfrif cost y Tribiwnlys Apêl arfaethedig ar sail nifer y ceisiadau am apêl a ganiatawyd neu a oedd yn aros yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf yr adroddwyd arni. At ddibenion yr amcangyfrif hwn, y gost farnwrol yw cyfradd ffi ddyddiol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a llywydd un o Dribiwnlysoedd Cymru. Byddai gwaith gweinyddol ychwanegol hefyd yn sgil llwyth achosion ychwanegol y Tribiwnlys Apêl a fyddai, at ddibenion yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn, yn ein barn ni yn cael ei ymgorffori gan y dyraniad adnoddau presennol ar gyfer gweinyddu tribiwnlysoedd.

Tabl 11: Amcangyfrif o’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r Tribiwnlys Apêl
  Amcangyfrif
Ceisiadau am apêl a ganiatawyd neu a oedd yn aros 9
Amcangyfrif o’r amser barnwrol ar gyfer pob apêl 1½ diwrnod
Cost farnwrol / diwrnod £1,576
Cyfanswm y gost ychwanegol £21,276

37. Rydym yn rhag-weld y bydd maint gwaith Tribiwnlys Apêl Cymru yn cynyddu dros amser wrth i’r Senedd ddeddfu a chreu llwybrau apêl newydd mewn deddfwriaeth ddatganoledig. Felly, mae costau rhedeg blynyddol y Tribiwnlys Apêl yn debygol o gynyddu dros amser.

Penodi aelodau tribiwnlysoedd

38. Mae’r cyfrifoldeb dros benodi aelodau i dribiwnlysoedd datganoledig, a’r broses o wneud hynny, yn anghyson. Yn gyffredinol, i’r Arglwydd Ganghellor a Gweinidogion Cymru mae’r swyddogaethau awdurdod penodi yn perthyn. O dan yr opsiwn hwn, byddai swyddogaethau awdurdod penodi yn cael eu symleiddio ac yn perthyn i Lywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru.

39. Ar hyn o bryd, mae penderfyniadau penodi yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw. Mae’n hollbwysig bod penderfyniadau o’r fath yn parhau i fod yn seiliedig ar brosesau dethol clir a thryloyw. Y Comisiwn Penodiadau Barnwrol yw’r corff statudol sy’n gyfrifol am ddewis pobl ar gyfer penodiadau barnwrol i Dribiwnlysoedd Cymru lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi ar hyn o bryd. Lle mai Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod penodi, y Comisiwn Penodiadau Barnwrol sy’n rheoli’r prosesau dethol o dan delerau trefniant o dan adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Felly, bydd cost ychwanegol i Lywodraeth Cymru os bydd Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a Gweinidogion Cymru yn ysgwyddo’r holl swyddogaethau awdurdod penodi, ac arbediad cost cyfatebol i’r Arglwydd Ganghellor.

40. Mae Tabl 12 isod yn amlinellu ymarferion penodi tribiwnlysoedd dros y blynyddoedd ariannol 2019-2020 i 2021-2022. Mae’n dangos costau Llywodraeth Cymru er mwyn i’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol gynnal prosesau recriwtio ar gyfer Gweinidogion Cymru, yn ogystal â’r prosesau recriwtio hynny lle mai’r Arglwydd Ganghellor yw’r awdurdod penodi a lle mae’r prosesau’n rhan o gylch gwaith statudol y Comisiwn, felly heb gost ychwanegol i’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru. Dros y cyfnod a gwmpesir gan Dabl 12, recriwtiodd Tribiwnlys Prisio Cymru 1 aelod yn 2019-2020 a 2020-2021 a 6 aelod yn 2021-2022. Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn cynnal ei ymgyrchoedd recriwtio ei hun ac mae’r costau'n cael eu talu o fewn costau sylfaenol y Tribiwnlys a nodir yn Nhabl 7 uchod.

Tabl 12: Penodiadau tribiwnlysoedd – costau gwirioneddol i’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru
Awdurdod penodi Ymarfer 2019 i 2020 (£) 2020 i 2021 (£) 2021 i 2022 (£)
Gweinidogion Cymru Llywydd Tribiwnlys y Gymraeg  4,771    
Aelod Cyfreithiol Tribiwnlys y Gymraeg 6,995    
Aelod Lleyg Tribiwnlys Addysg Cymru x 5   9,014  
Yr Arglwydd Ganghellor Dirprwy Gadeirydd y Tribiwnlys Tir Amaethyddol x 2   0  
Aelod Lleyg y Tribiwnlys Tir Amaethyddol   0  
Aelod Lleyg Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru x 20     0
Aelod Cyfreithiol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru x 19     0
Aelod Meddygol Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru x 14     0
Aelod Cyfreithiol y Tribiwnlys Eiddo Preswyl x 9     0

41. Mae cost recriwtio yn dibynnu’n helaeth ar ffactorau gan gynnwys nifer y ceisiadau a gafwyd a’r diwrnodau eistedd sy’n ofynnol er mwyn i’r panel dethol gyfweld ac ati. Ar y cyd â'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol a Llywodraeth y DU, rydym yn archwilio’r ystyriaethau ymarferol o gadw’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol i ymgymryd â phrosesau dethol ac i wneud argymhellion ar gyfer penodi aelodau i’r system dribiwnlysoedd newydd. Fel y mae Tabl 12 yn ei ddangos, bydd cost ychwanegol i Lywodraeth Cymru i ddarparu adnoddau ar gyfer y penodiadau sy’n gyfrifoldeb i’r Arglwydd Ganghellor ar hyn o bryd.

Sefydlu corff hyd braich newydd

42. Mae’r opsiwn hwn yn rhag-weld bod corff statudol hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cael ei greu, a fydd yn weithredol gyfrifol am y system dribiwnlysoedd newydd. Mae hyn yn mynd i’r afael â’r cwestiwn sylfaenol, sef ai’r peth gorau ar gyfer annibyniaeth y system dribiwnlysoedd newydd yw bod swyddogaethau gweinyddu’r system yn rhan o Lywodraeth Cymru ynteu ar wahân iddi. Mae Tribiwnlys Prisio Cymru eisoes ar wahân yn strwythurol i Lywodraeth Cymru ac mae wedi’i sefydlu drwy is-ddeddfwriaeth. Mae dogfen fframwaith (Valuation Tribunal for Wales Framework Document) yn nodi’r fframwaith eang y mae’r Tribiwnlys Prisio yn gweithredu oddi tano ac yn darparu manylion y telerau a’r amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu dilyn wrth ddarparu cyllid iddo.

43. Mae gan Uned Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru, yn y drefn honno, 36 ac 14 aelod o staff cyfwerth ag amser llawn. Mae costau sylfaenol Uned Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru wedi’u hamlinellu yn Nhablau 3-5 a Thabl 6, yn y drefn honno. Yn 2021-2022, roedd gan Uned Tribiwnlysoedd Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru wariant cyfunol o £2.046 miliwn ar gostau gweinyddol (a staff yn bennaf). Ar hyn o bryd, nid yw'r adnodd gweinyddol sy'n ofynnol ar gyfer y corff newydd yn hysbys ac mae’n bosibl y bydd angen staff ychwanegol i gefnogi'r corff, fel yr amlygir isod. Bwriadwn ddefnyddio’r cyfnod ymgynghori i ymgysylltu â staff ac undebau llafur, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth inni ddatblygu deddfwriaeth ar gyfer diwygio.

44. Bydd creu corff hyd braich yn arwain at gostau rhedeg blynyddol ychwanegol. Bydd y rhain yn codi’n bennaf mewn perthynas â materion gweithredol sy’n ymwneud â gwahanu’r corff oddi wrth Lywodraeth Cymru yn strwythurol, materion fel swyddfeydd, a gwasanaethau corfforaethol fel personél a chyllid a chyfrifyddu. Bydd costau ychwanegol hefyd yn codi o drefniadau rheoli a llywodraethu’r corff, er enghraifft ei Fwrdd rheoli a’r strwythur gweithredol sy’n gysylltiedig â hynny i gefnogi ei weithrediad.

45. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gymharydd ac yn enghraifft. Mae ei Fwrdd yn cynnwys chwe aelod anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd, a chwe aelod gweithredol gan gynnwys dau aelod o staff etholedig. Mae ei uwch dîm arwain gweithredol ar lefel Bwrdd yn cynnwys y Prif Weithredwr a thri Phrif Swyddog. Mae aelodau anweithredol yn cael eu talu ar gyfradd ddyddiol o £400, £350 a £300 i’r Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd a’r Aelodau Anweithredol yn y drefn honno (Awdurdod Cyllid Cymru:Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021 hyd 2022).

46. Mae Tabl 13 isod yn amcangyfrif costau ychwanegol ar gyfer trefniadau rheoli a llywodraethu’r corff hyd braich arfaethedig. Asesiad dangosol yw hwn o’r costau dan sylw a bydd yn cael ei ddatblygu wrth i gynigion deddfwriaethol gael eu datblygu ar ôl ymgynghori ar y papur gwyn. Er enghraifft, mae’r papur gwyn yn gofyn am farn ymgyngoreion ynghylch a ddylai Cadeirydd y Bwrdd fod yn benodiad anweithredol neu’n Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ex officio.

Tabl 13: Amcangyfrif o’r costau blynyddol ychwanegol ar gyfer rheoli a llywodraethu’r corff hyd braich
    Cyfradd Amcangyfrif isaf (£) Amcangyfrif uchaf (3)
Aelodau anweithredol o’r Bwrdd Cadeirydd £400 y diwrnod, 36 neu 48 diwrnod y flwyddyn 14,400 19,200
Aelodau anweithredol o’r Bwrdd (x4) £300 y dydd, 10 neu 20 diwrnod y flwyddyn 12,000 24,000
Aelodau barnwrol
(gweler Tabl 2 am gyfraddau ffioedd dyddiol barnwrol)
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ex officio £946 y diwrnod, 10 neu 20 diwrnod y flwyddyn 9,460 18,920
Aelod Barnwrol £630 y diwrnod, 10 neu 20 diwrnod y flwyddyn 6,300 12,600
Aelodau gweithredol
(costau Cyflog Cyfartalog Llywodraeth Cymru 2022-2023, costau gros cyfartalog blynyddol)
Prif Swyddog Gweithredol Dirprwy Gyfarwyddwr – SCS1 120,174 120,174
Prif Swyddog Gweithredu Gradd 7 86,731 86,731
Cymorth llywodraethu ac ysgrifenyddol y Bwrdd Ysgrifennydd y Bwrdd Uwch-swyddog Gweithredol 66,364 66,364
Ysgrifennydd Cynorthwyol y Bwrdd Swyddog Gweithredol 40,504 40,504
Amcangyfrif o gyfanswm y gost ychwanegol     355,933 388,493

47. Yn ogystal â chostau blynyddol ychwanegol rheolaidd, bydd costau sefydlu cychwynnol yn ystod cam gweithredu’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n creu’r system dribiwnlysoedd newydd a cham sefydlu’r corff hyd braich newydd. Fel cymharydd, fel rhan o gostau sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd, amcangyfrifwyd bod angen costau Llywodraeth Cymru nad ydynt yn ymwneud â staff o rhwng £0.550 miliwn a £1.200 miliwn i sefydlu’r Bwrdd, i ddarparu gwasanaethau archwilio a TGCh, ac i dalu am lety (Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016). Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn ddeiliad les ar ei lety ei hun, er enghraifft, a bydd costau ynghlwm ag ef fel rhan o'r camau gweithredu a sefydlu. Bydd asesiad manylach o’r costau sefydlu cychwynnol a’r costau rhedeg parhaus yn cael ei ddatblygu ynghyd â'r cynigion deddfwriaethol yn dilyn ymgynghoriad ar y papur gwyn.

Opsiwn 3: Mynd ati’n raddol i uno’r tribiwnlysoedd datganoledig

48. O dan yr opsiwn hwn, byddai uno’r tribiwnlysoedd datganoledig yn y system dribiwnlysoedd newydd yn digwydd yn raddol. Yn gyntaf, byddai Tribiwnlysoedd Cymru yn cael eu hymgorffori yn Nhribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Yn ail, byddai Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn cael eu hymgorffori yn yr un modd. Byddai’r costau a’r manteision a nodwyd o dan opsiwn 2 yn berthnasol o dan yr opsiwn hwn, a byddai’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ymgorffori Tribiwnlys Prisio Cymru a phaneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn codi ar ôl sefydlu’r system dribiwnlysoedd newydd.

49. Byddai system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol yn cael ei sefydlu o dan yr opsiwn hwn ond byddai’n cymryd mwy o amser i wireddu’r manteision o wneud hynny.

Opsiwn 4: Safoni fframweithiau deddfwriaethol presennol y tribiwnlysoedd datganoledig

50. O dan yr opsiwn hwn, byddai’r gwahanol Dribiwnlysoedd yng Nghymru a Thribiwnlys Prisio Cymru yn parhau i fod yn dribiwnlysoedd unigol ar wahân, a byddai eu fframweithiau deddfwriaethol unigol yn cael eu cadw heb greu Tribiwnlys Haen Gyntaf unedig i Gymru na Thribiwnlys Apêl i Gymru. Yn hytrach, byddai deddfwriaeth sylfaenol yn safoni materion fel penodi aelodau tribiwnlysoedd. Mae costau a manteision hyn yn cael eu hystyried ym mharagraffau 38 i 41. Byddai diwygiadau arfaethedig eraill yn cael eu rhoi ar waith hefyd. Er enghraifft, byddai awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn trosglwyddo i Dribiwnlys Addysg Cymru yn hytrach na Siambr Addysg Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru. Mae amcangyfrif o’r costau ychwanegol cysylltiedig wedi’i nodi yn Nhabl 10 ym mharagraff 34.

51. Mae camau y gellid eu cymryd o dan yr opsiwn hwn i wella annibyniaeth farnwrol hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys Tribiwnlys Prisio Cymru yn dod o dan oruchwyliaeth Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru a chreu’r corff hyd braich arfaethedig a fyddai â chyfrifoldeb gweithredol dros y corff o dribiwnlysoedd datganoledig a gedwir. Mae costau a manteision hyn yn cael eu hystyried ym mharagraffau 42 i 47.

52. Fodd bynnag, nid yw’r opsiwn hwn yn diogelu’r system dribiwnlysoedd at y dyfodol ar gyfer llwybrau apêl newydd a fydd yn cael eu creu gan ddeddfwriaeth Cymru yn y dyfodol. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai llunwyr polisi yn wynebu’r opsiynau sydd ganddynt ar hyn o bryd, sef: nodi tribiwnlys datganoledig presennol i ychwanegu llwybr apêl newydd at awdurdodaeth bresennol y tribiwnlys hwnnw; creu tribiwnlys cwbl newydd; neu gyfarwyddo’r llwybr apêl newydd i Dribiwnlys Haen Gyntaf y DU. Gall creu tribiwnlys newydd gymryd amser a bod yn ddrud ac yn weinyddol feichus. Gallai cyfeirio llwybrau apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf presennol ddarparu ateb tymor byr ond, yn y pen draw, gallai lesteirio datblygiad system gydlynol o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

Crynodeb o’r costau a’r manteision

53. Ni fyddai opsiwn 1 yn creu unrhyw gostau ychwanegol. Mae’n sefydlu costau sylfaenol Tribiwnlys Cymru a Thribiwnlys Prisio Cymru, sef £4.092 miliwn a £1.065 miliwn yn y drefn honno yn 2021-2022, £5.157 miliwn gyda’i gilydd (Tablau 3-5 a Thabl 7). Gweinidogion Cymru sy’n darparu’r cyllid. Nid oes unrhyw fanteision yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn oherwydd nid yw’n mynd i’r afael ag unrhyw un o’r diffygion yn y system dribiwnlysoedd bresennol.

54. O dan opsiwn 2, amcangyfrifir bod costau blynyddol ychwanegol at y llinell sylfaen reolaidd a sefydlwyd o dan opsiwn 1:

  1. O ran Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, gan ymgorffori awdurdodaeth Tribiwnlys Prisio Cymru yn y Siambr Drethi ac awdurdodaeth paneli apêl gwaharddiadau o ysgolion yn y Siambr Addysg, mae hyn yn creu amcangyfrif o gostau blynyddol ychwanegol rhwng £119,686 a £151,524 ar gyfer y Siambr Drethi, a £35,304 ar gyfer y Siambr Addysg yn seiliedig ar flwyddyn ariannol 2021-2022 (Tabl 8 a Thabl 10).
  2. Amcangyfrifir bod gan Dribiwnlys Apêl Cymru gost flynyddol ychwanegol o £21,276 (Tabl 11).
  3. Amcangyfrifir bod rheoli a llywodraethu corff hyd braich yn gost flynyddol ychwanegol o rhwng £355,933 a £388,493 (Tabl 13).

55. Mae’r costau sylfaenol ynghyd â’r amcangyfrif o gostau ychwanegol yn cyfateb i amcangyfrif o gyfanswm costau rhedeg blynyddol y system dribiwnlysoedd newydd o rhwng £5.689 miliwn a £5.754 miliwn (£5.157 miliwn yn 2021-2022). Gwyddom fod costau pellach i’w hamcangyfrif, gan gynnwys ar gyfer penodi aelodau tribiwnlysoedd (Tabl 12) a materion megis hyfforddiant. Byddwn yn datblygu’r amcangyfrif o gostau blynyddol ychwanegol wrth inni ddatblygu’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn ochr yn ochr â chynigion deddfwriaethol.

56. O dan opsiwn 2, mae costau untro cychwynnol hefyd:

  1. Bydd sefydlu’r corff hyd braich arfaethedig yn arwain at gostau sefydlu ac, ar sail Awdurdod Cyllid Cymru fel cymharydd, gallai’r rhain fod rhwng £0.550 miliwn a £1.200 miliwn (paragraff 47).
  2. Mae trosglwyddo Tribiwnlys Prisio Cymru yn creu rhwymedigaeth pensiwn posibl o £2.573 miliwn ar gyfer gadael y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Bydd asesiad manwl o rwymedigaethau posibl yn cael ei ddatblygu ynghyd â'r cynigion deddfwriaethol yn dilyn ymgynghoriad ar y papur gwyn.

57. Mae opsiwn 2 yn creu nifer o fanteision parhaus:

  1. Mae’r system dribiwnlysoedd newydd yn ei gwneud hi’n bosibl diogelu annibyniaeth farnwrol yn well ac mae’n cydymffurfio’n well â rheolaeth y gyfraith. Mae’n rhoi rôl i uwch farnwriaeth wrth redeg y system dribiwnlysoedd.
  2. Mae’n defnyddio dull system gyfan drwy greu system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol gyda phrosesau cyson ar gyfer penodi aelodau tribiwnlysoedd, cwynion a disgyblu, a gosod rheolau gweithdrefnol. Bydd y system unedig yn osgoi’r diffyg eglurder a’r ansicrwydd sy’n codi ar hyn o bryd pan geir amrywiaeth o ddulliau gweithredu, neu hyd yn oed dim dull gweithredu sefydlog o gwbl.
  3. Mae’n galluogi goruchwyliaeth farnwrol uwch, gynhwysfawr o system gyfan y tribiwnlysoedd datganoledig drwy estyn swyddogaeth oruchwylio Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar draws y tribiwnlysoedd datganoledig hynny sydd ar hyn o bryd yn nwylo’r Llywydd.
  4. Mae creu corff apeliadol cyntaf Cymru, Tribiwnlys Apêl Cymru, yn mynd i’r afael â’r dull tameidiog presennol o ymdrin ag apeliadau pellach ac yn creu cyfle i feithrin arbenigedd barnwrol yng Nghymru.
  5. Mae’n gweithredu i ddiogelu’r system dribiwnlysoedd yng Nghymru at y dyfodol drwy ddylunio strwythur hyblyg sy’n gallu ymdopi â llwybrau apêl presennol eraill a’r rhai sy’n cael eu creu gan ddeddfwriaeth ddatganoledig yn y dyfodol. Mae’n osgoi costau creu tribiwnlysoedd newydd a materion yn cynnwys penodi a chyllido arweinwyr barnwrol ac aelodau tribiwnlysoedd, a gwneud rheolau gweithdrefnol newydd.
  6. Mae’n cynyddu’r cyfle am effeithlonrwydd gweinyddol drwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd yn lle dyblygu trefniadau, sy’n fwy tebygol o ddigwydd gyda thribiwnlysoedd unigol penodol.

58. Mae opsiwn 3 yn amrywiad ar opsiwn 2 ac mae’r costau a nodir o dan opsiwn 2 yn berthnasol iddo, ond byddai’n cael ei wireddu’n fwy graddol. O dan opsiwn 3, byddai system dribiwnlysoedd unedig a chydlynol yn cael ei sefydlu, ond byddai’n cymryd mwy o amser i wireddu’r manteision o wneud hynny.

59. Mae opsiwn 4 yn gwireddu rhai o fanteision opsiynau 2 a 3 o ran safoni materion fel penodi aelodau tribiwnlysoedd a gwella annibyniaeth farnwrol. Felly, mae'n arwain at lawer o'r costau a nodwyd o dan opsiwn 2, fel y dangosir uchod. Fodd bynnag, nid yw’n diogelu’r system dribiwnlysoedd at y dyfodol ar gyfer llwybrau apêl newydd sy’n cael eu creu gan ddeddfwriaeth Cymru yn y dyfodol ac mae perygl y bydd yn llesteirio datblygiad system gydlynol o dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru.

60. Opsiwn 2, sef creu system dribiwnlysoedd unedig sy’n cynnwys Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, yw’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio. Fodd bynnag, bydd y costau a’r manteision sy’n gysylltiedig â hynny, fel y’u nodir yn yr  Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft hwn, yn cael eu datblygu a bydd y gwaith hwnnw’n sail i’r cynigion deddfwriaethol i ddiwygio.

Asesiadau effaith

61. Rydym wedi paratoi Asesiad Effaith Integredig drafft i gefnogi ymgynghoriad y Papur Gwyn. Byddwn yn cyhoeddi hwn ochr yn ochr â’r Papur Gwyn i amlinellu ein hasesiad cychwynnol ac i geisio gwybodaeth ychwanegol ac amgen i gefnogi’r asesiad parhaus o’r effeithiau wrth inni ddatblygu cynigion yn dilyn yr ymgynghoriad. Nid ydym wedi cynnal Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder ar wahân ar y cam hwn gan fod effaith y cynigion a nodir yn y Papur Gwyn ar y system gyfiawnder yn cael eu harchwilio drwy’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a’r Asesiad Effaith Integredig drafft. Byddant yn cael eu hystyried ymhellach wrth i'r rheini gael eu datblygu ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol i ddatblygu'r cynigion hyn.

62. Mae effeithiau cadarnhaol mwyaf arwyddocaol ein cynigion yn cynnwys:

  1. rhoi egwyddor annibyniaeth farnwrol wrth galon system dribiwnlysoedd Cymru
  2. gwneud tribiwnlysoedd datganoledig yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr tribiwnlysoedd drwy’r strwythur unedig mwy cydlynol a’r modd i osod rheolau tribiwnlysoedd modern a chyfredol
  3. gwella a hybu mynediad at gyfiawnder i bobl Cymru dros y tymor hir drwy ddiogelu’r system dribiwnlysoedd at y dyfodol, felly wrth i gyfraith ddatganoledig barhau i dyfu, gellir ymgorffori llwybrau apelio pellach heb fawr o darfu, gan alluogi ein seilwaith cyfiawnder tribiwnlysoedd i dyfu a datblygu dros amser
  4. gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi’i ddatganoli ac mae Cymru’n gweinyddu ei system ehangach o lysoedd a thribiwnlysoedd.

63. Effeithiau negyddol mwyaf arwyddocaol ein cynigion fydd costau gweithredu’r diwygiadau a wneir gan y newid deddfwriaethol yr ydym yn ei gynnig a’r costau blynyddol rheolaidd i ariannu’r system dribiwnlysoedd newydd. Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am y costau hyn.

Adolygu ar ôl gweithredu

64. Fel rhan o’r prosiect diwygio tribiwnlysoedd, y mae deddfwriaeth sylfaenol yn un o’r elfennau allweddol i’r cyflawni, byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i weithredu’r diwygiadau a wneir gan y newidiadau deddfwriaethol yr ydym yn eu cynnig.

65. Byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid allweddol i ddylunio a datblygu adolygiad ar ôl gweithredu o’r newidiadau deddfwriaethol y bydd ein cynigion yn eu cyflawni, yn ogystal ag adolygiad o’r gwaith o gyflawni’r prosiect diwygio tribiwnlysoedd.