Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgeiswyr swyddi a phenodiadau cyhoeddus.
Cynnwys
Cyffredinol
Fel rheolydd data, bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu'r data personol a ddarperir gennych fel rhan o'r broses recriwtio yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd i ni.
Byddwn yn prosesu’r data er mwyn:
- asesu eich addasrwydd ar gyfer rôl gyda Llywodraeth Cymru
- cynnal camau gwirio cyn cyflogi
- gwneud trefniadau angenrheidiol i chi ymuno â'r sefydliad
- monitro effeithiolrwydd prosesau recriwtio
- bodloni ein gofynion cyfreithiol.
Yr wybodaeth rydym ni’n gofyn amdani a pham
Bydd ein Tîm Recriwtio AD yn defnyddio'r manylion cyswllt a roddwch er mwyn cysylltu â chi am eich cais.
Gofynnwn am wybodaeth i asesu eich cymhwystra ac addasrwydd ar gyfer y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Nid oes rhaid i chi ddarparu hyn, ond gallai effeithio ar eich cais os na wnewch chi hynny (er enghraifft, os nad ydych chi'n rhoi tystiolaeth i ni o gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer y rôl).
Mae rhywfaint o'r wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer gwiriadau cymhwystra cyn cyflogi (Safonau Diogelwch Sylfaenol ar gyfer Personél - BPSS). Mae'n rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Rydym yn monitro ac yn dadansoddi gwybodaeth am amrywiaeth er mwyn sicrhau bod ein harferion cyflogaeth yn deg, yn dryloyw ac yn hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.
Bydd eich cydweithrediad wrth ddarparu data cywir i ni yn ein helpu i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn eich ffurflen gais yn cael ei darparu gyda'ch caniatâd chi ac yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Ni fydd yn cael ei defnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n caniatáu i rywun adnabod unigolyn, a bydd yn cael ei ddileu cyn i'r ffurflenni cais gael eu hanfon at y panel a fydd yn sifftio’r ymgeiswyr ac yn eich cyfweld.
Os byddwch yn llenwi'r adran Cynllun Cyfweliad Gwarantedig Hyderus o ran Anabledd ar y ffurflen gais, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu â'r rhai sy'n gosod y meini prawf gofynnol ar gyfer cyfweliad.
Os ydych chi'n darparu gwybodaeth am addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan yn yr ymarfer recriwtio, gellir rhannu'r wybodaeth hon gyda'r panel cyfweld a’r aseswyr er mwyn rhoi eich addasiad ar waith.
Yn y ddau achos hyn, byddwn yn prosesu eich data personol er mwyn sicrhau cyfle a thriniaeth gyfartal.
Sut rydym yn cadw eich gwybodaeth
Bydd y wybodaeth a roddwch:
- yn cael ei chadw’n ddiogel a’i phrosesu ar ein rhan gan Oleeo (cyflenwr ein system recriwtio)
- yn cael ei chadw am gyfnod eich penodiad a dwy flynedd (os ydych chi’n llwyddiannus)
- yn cael ei chadw am ddwy flynedd ar ôl cau’r cynllun recriwtio (os ydych chi’n llwyddiannus)
Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti.
Asesiadau
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi wneud unrhyw gyfuniad o’r canlynol:
- cymryd rhan mewn digwyddiadau asesu
- cwblhau profion, neu holiaduron proffil personoliaeth alwedigaethol
- mynychu cyfweliad
Er enghraifft, efallai y byddwch yn cwblhau prawf ysgrifenedig neu efallai y byddwn yn cymryd nodiadau cyfweliad. Bydd Llywodraeth Cymru'n cadw'r wybodaeth hon. Bydd gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu gennych chi a gennym ni ac yn achlysurol gan drydydd parti.
Mewn rhai cynlluniau recriwtio, efallai y cewch eich cyfeirio at blatfform allanol (fel un Gwasanaeth Recriwtio'r Llywodraeth) i gwblhau asesiadau arno. Bydd ganddynt eu datganiad preifatrwydd eu hunain i chi ei weld.
Camau gwirio cyn cyflogi
Cliriad diogelwch uwch
Mae angen lefel uwch o gliriad diogelwch ar rai rolau yn Llywodraeth Cymru. Bydd yr hysbyseb ar gyfer y swydd neu'r penodiad yn pwysleisio hyn yn glir. Os yw hyn yn wir, gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth drwy'r broses Fetio Diogelwch Gwladol i United Kingdom Security Vetting.
United Kingdom Security Vetting (UKSV)
Bydd United Kingdom Security Vetting (UKSV) yn anfon y canlyniadau i Lywodraeth Cymru. Os byddwch chi'n methu'r broses fetio diogelwch gwladol, bydd angen i Lywodraeth Cymru adolygu eich addasrwydd ar gyfer rôl. Gallai hyn gynnwys:
- adolygiad o sut allwch chi gyflawni eich dyletswyddau
- newid eich cyfrifoldebau
- eich symud o swydd neu eich tynnu yn ôl o gyflogaeth
Fetio Diogelwch Gwladol (NSV)
Bydd angen Fetio Diogelwch Gwladol ar gyfer rhai ymgeiswyr er mwyn amddiffyn rhag bygythiadau gan wasanaethau cudd-wybodaeth gelyniaethus. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio NSV i lywio penderfyniadau ar gyflogaeth.
Sut fyddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth â chyrff cyhoeddus eraill
Gall Llywodraeth Cymru rannu gwybodaeth â chyrff cyhoeddus eraill. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (er mwyn caniatáu i'r Comisiwn gyflawni ei gyfrifoldebau statudol mewn perthynas â chydymffurfiaeth, cwynion ac ymchwiliadau)
- y Pwyllgor Cynghori ar Benodiadau Busnes (er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor roi cyngor dan Reolau Penodiadau Busnes Llywodraeth y DU)
- Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus (er mwyn caniatáu i'r Comisiynydd brosesu gwaith achos yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus)
Eich hawliau
Mae gennych chi'r hawl:
- i weld y data personol rydym yn ei brosesu amdanoch
- i ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- i fynnu bod eich data'n cael ei 'ddileu' (mewn rhai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Manylion cyswllt
I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Ganolfan Adnoddau drwy e-bostio: canolfanadnoddau@llyw.cymru.
Os hoffech arfer eich hawliau dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR), cysylltwch â:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 0165 545 745 neu 0303 123 1113