Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn trin unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’r gwasanaeth rheoli cartrefi a lleoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Pan fyddwn yn dweud ‘gwybodaeth bersonol’ yn yr hysbysiad hwn, rydym yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud â chi ac y gellir ei defnyddio i’ch adnabod.

Eich hawliau

Mae gennych hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.

Mae gennych hawl i:

  • gofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun sydd gennym. Gelwir hyn weithiau yn 'gais gwrthrych am wybodaeth'.
  • cael unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch chi wedi'i chywiro (Cywiro).
  • cael eich gwybodaeth wedi'i dileu (Dileu).
  • gofyn am gyfyngu neu atal eich data personol (Cyfyngu ar Brosesu).
  • gwrthwynebu defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol (Gwrthwynebiad).
  • gofyn am eich gwybodaeth mewn fformat cludadwy.
  • gwrthwynebu i benderfyniadau amdanoch gael eu gwneud trwy ddulliau cwbl awtomataidd.

Mae llawer o'r hawliau a restrir uchod wedi'u cyfyngu i rai amgylchiadau diffiniedig ac efallai na fyddwn yn gallu cydymffurfio â'ch cais yn llawn. Byddwn yn dweud wrthych os yw hyn yn wir.

Os byddwch yn gwneud cais i ni, byddwn yn ymateb i chi o fewn un mis calendr. Ni fyddwn yn codi ffi am ddelio â'ch cais.

Darllenwch fwy am eich hawliau ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Sut i gysylltu â ni

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi manylion hollgynhwysfawr am bob agwedd ar ein casgliad a’n defnydd o wybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn hapus i ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol neu esboniad sydd ei angen.

I ofyn am ragor o wybodaeth am ein hysbysiad preifatrwydd, arfer unrhyw un o’ch hawliau neu wneud cwyn, anfonwch e-bost atom yn DataProtectionOfficer@llyw.cymru neu ysgrifennwch at:

Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y gwasanaeth hwn, anfonwch e-bost atom yn RheoliCartrefiALleoedd@llyw.cymru

Gwybodaeth personol

Gwybodaeth a gasglwn amdanoch

Pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch fel a ganlyn:

  • Enw cyntaf
  • Cyfenw
  • Cyfeiriad ebost
  • Dewis iaith a ffafrir
  • Teitl swydd
  • Sefydliad

Defnydd o'ch gwybodaeth bersonol

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  • creu cyfrif defnyddiwr.
  • sicrhau y gallwch gael mynediad at y meysydd gofynnol o’r gwasanaeth digidol.
  • rhoi caniatâd i chi reoli a diweddaru eich cynlluniau tai.

Cadw eich gwybodaeth bersonol

Bydd gwybodaeth bersonol a ddefnyddir i greu eich cyfrif yn cael ei chadw am y cyfnod y bydd eich cyfrif yn parhau i fod yn weithredol. Byddwn yn cadw'r data hwn am o leiaf 6 mis. Ar y 5ed mis byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn a hoffech ymestyn eich cyfrif am 6 mis arall. Os byddwch yn dewis peidio ag ymestyn, bydd eich data yn cael ei dynnu o'r system.

Rhannu eich gwybodaeth

Mae’r gwasanaeth digidol hwn wedi’i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru fel mai dim ond defnyddwyr â chyfrif dilys sy’n gallu mewngofnodi.

Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a lanlwythir gennych yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru a’i chontractwyr yn unol â’ch cyfarwyddiadau.

Dim ond gwybodaeth bersonol yr ydych yn fodlon ei rhannu â Llywodraeth Cymru a’n contractwyr y dylech ei lanlwytho. Mae ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol yn hanfodol i redeg y gwasanaeth hwn ac yn cael ei wneud er budd y cyhoedd.

Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru am ddefnyddwyr yn cael ei rhannu â sefydliadau sy’n gysylltiedig â datblygu a chefnogi’r gwasanaeth.

Mae rhain yn:

  • Mendix – Siemens Industry Software Limited (datblygwyr gwasanaeth)
  • AuraQ Limited (gwasanaethau cymorth ar-lein)

Tra'n ymgymryd â datblygiad pellach a chefnogaeth i'r gwasanaeth efallai y bydd gan y contractwyr hyn fynediad i weld eich gwybodaeth ond ni fyddant yn ei phrosesu.

Ni fydd eich manylion cyswllt defnyddwyr yn cael eu rhannu â defnyddwyr eraill. Bydd yr holl fanylion yn cael eu storio mewn ardaloedd gweinyddol sy’n hygyrch i staff Llywodraeth Cymru yn unig.

Rheolydd data

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei lanlwytho i’r gwasanaeth hwn.

Cwcis

Fel llawer o wefannau, mae'r gwasanaeth digidol hwn yn defnyddio cwcis. Darnau bach o wybodaeth yw cwcis a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe sy'n galluogi'r gweinydd i gasglu gwybodaeth o'r porwr.

Mae'r gwasanaeth hwn yn creu cwcis ar gyfer sesiynau yn unig. Drwy barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth, rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis. Rydym yn defnyddio cwcis cwbl angenrheidiol i alluogi llywio a darparu defnydd o nodweddion sylfaenol y gwasanaeth, megis cadw manylion eich cyfrif am gyfnod y sesiwn. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis i wella ymarferoldeb y gwasanaeth, er enghraifft trwy storio unrhyw ddewisiadau rydych chi'n eu nodi.

Dysgwch fwy am gwcis ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.