Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg: blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Mae’r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion am y cynlluniau canlynol, lle asesir incwm, ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024:

  • Cynllun Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
  • Cynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (WGLG FE)

Ar hyn o bryd, mae’r cynlluniau LCA a WGLG (FE) yn cael eu drafftio ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd y fersiynau terfynol ar gael i’w gweld yn nes ymlaen yn y flwyddyn ar y wefan cyllid i fyfyrwyr.

Sicrhewch bod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei rannu â staff a chydweithwyr sy’n helpu i weinyddu’r cynlluniau.

Lansio gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru a sut i wneud cais

Lansiwyd gwasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024  ar 17 Ebrill 2023.

Sut i wneud cais: myfyrwyr newydd

O fis Ebrill 2023

Bydd ymgeiswyr newydd yn gallu casglu ffurflen bapur o'u hysgol neu goleg. Mae pecynnau ceisiadau papur dwyieithog wedi cael eu hanfon at ysgolion a cholegau sy’n gweinyddu’r cynlluniau.

Gellir lawrlwytho ceisiadau i'w argraffu o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Yn fuan bydd ymgeiswyr newydd yn gallu:

  • cyflwyno eu cais LCA neu WGLG(FE) yn electronig
  • lanlwytho eu tystiolaeth ategol trwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru

Bydd y gwasanaeth cyflwyno ceisiadau electronig yn ddwyieithog.

Diweddariad Medi

Mae’r gwaith ar system newydd yn parhau ac rydym wedi ymrwymo o hyd i sefydlu gwasanaeth cyflwyno ceisiadau electronig ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024. Ceir diweddariadau pellach pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael. Gall myfyrwyr newydd barhau i ymgeisio fel arfer drwy gais ar bapur, naill ai drwy lawrlwytho ffurflen gais LCA neu WGLG(FE) neu drwy gwblhau cais ar bapur a geir o’r ysgol neu goleg.

Sut i wneud cais: myfyrwyr sy’n dychwelyd

Nid oes gofyn i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur neu electronig. Mae eu Cytundeb LCA neu WGLG (FE) wedi'i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ailymgeisio am gymorth am flwyddyn arall. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ysgrifennu at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod y Gwanwyn i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i Cyllid Myfyrwyr Cymru os yw eu hamgylchiadau wedi newid ers eu cais cychwynnol.

Am wybodaeth a chyngor gellir cysylltu â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.

Cyfradd y lwfans cynhaliaeth addysg (LCA)

Ar 17 Ebrill 2023 cadarnhaodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg bod yr LCA wedi cynyddu i gyfradd newydd o £40 yr wythnos.

2022 i 2023

Bydd myfyrwyr newydd cymwys a myfyrwyr cymwys sy’n parhau yn cael y gyfradd newydd o £40 yr wythnos o 17 Ebrill 2023. Mae hyn yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf gan gynnwys presenoldeb. 

2023 i 2024

Bydd y gyfradd LCA newydd yn cael ei thalu i fyfyrwyr newydd cymwys a myfyrwyr cymwys sy’n parhau o ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad annibynnol o'r LCA. Mae disgwyl iddo ddechrau yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Bydd gwybodaeth am yr adolygiad ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Nid oes unrhyw newidiadau i'r trothwyon incwm cymwys ar gyfer y cynlluniau LCA a WGLG (FE). Bydd grantiau WGLG (FE) hefyd yn aros ar y lefelau presennol yn 2023 i 2024.

Cynlluniau LCA a WGLG (FE): digwyddiadau cymwys

Ar gyfer 2023 i 2024 bydd y cynlluniau LCA a WGLG (FE) yn cynnig darpariaeth os bydd digwyddiad penodol yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Bydd hyn yn sicrhau meini prawf cyson ar gyfer y trefniadau cymorth cynhaliaeth rhwng addysg bellach ac addysg uwch.

Gallai myfyrwyr (newydd neu sy’n parhau) sy'n dilyn cwrs ar 1 Medi 2023, neu ar ôl hynny, ddod yn gymwys i gael cymorth os bydd unrhyw rai o’r digwyddiadau canlynol yn berthnasol:

  • mae'r cwrs myfyrwyr yn dod yn gwrs dynodedig (ar gyfer WGLG (FE)) neu gwrs addysg cymwys (ar gyfer LCA)
  • mae'r myfyriwr neu briod, partner sifil neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur
  • mae'r myfyriwr neu briod y myfyriwr, partner sifil neu riant yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth
  • mae'r myfyriwr neu briod y myfyriwr, partner sifil neu riant yn dod yn berson sydd â ffurf gymwys o ganiatâd i ddod i mewn neu i aros. (Er enghraifft person sydd â chaniatâd yn ôl disgresiwn, caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol, caniatâd i aros ar sail bywyd preifat neu ganiatâd ar sail Erthygl 8 Siarter Hawliau Dynol Ewrop)
  • mae'r myfyriwr neu briod, partner sifil neu riant y myfyriwr yn dod yn berson y rhoddwyd statws diogelwch dyngarol iddo
  • mae'r myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson sydd â chaniatâd i aros (adran 67)
  • mae'r myfyriwr neu riant y myfyriwr yn dod yn berson y rhoddwyd iddo ganiatâd i aros fel partner gwarchodedig (Er enghraifft gadael i aros fel naill ai dioddefwr trais yn y cartref neu gamdriniaeth, neu fel partner mewn profedigaeth)
  • mae’r myfyriwr yn dod yn berson gyda chaniatâd Calais i aros
  • mae’r myfyriwr yn dod yn aelod teulu person a oedd yn wladolyn y Deyrnas Unedig  ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
  • mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio’n barhaol; sylwer, bydd hyn hefyd yn cynnwys lle cafodd y myfyriwr statws sefydlog o dan Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
  • mae’r myfyriwr yn bodloni’r gofynion ar gyfer bod yn weithiwr mudol neu trawsffiniol, person cyflogedig neu berson hunangyflogedig
  • mae'r myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn o’r Swistir
  • mae’r myfyriwr yn dod yn gymwys o dan un o Gynlluniau Afghanistan
  • mae’r myfyriwr yn dod yn wladolyn o Wcráin sy’n warchodedig

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru ond yn gallu penderfynu ar gymhwystra a hawl ar ôl derbyn:

  • ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn
  • tystiolaeth ategol briodol

Diweddariad Medi

Mae’r meini prawf ar gyfer digwyddiadau bellach yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gweithwyr mudol a trawsffiniol penodol, pobl gyflogedig neu bobl hunangyflogedig.

Cyfrifo cyllid yn dilyn digwyddiad

LCA

Bydd taliadau LCA yn parhau i gael eu gweinyddu yn unol â'r prosesau presennol.

Bydd myfyrwyr yn derbyn y lwfans wythnosol o £40 am weddill yr wythnosau y byddant yn bresennol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn amodol ar pryd y derbynnir eu cais, a phryd y digwyddodd y newid mewn sefyllfa.

WGLG (FE)

Cyfrifir hawlogaeth fel hyn:

E/AA x WGLG (FE) = RE

  • E = nifer y dyddiau sydd ar ôl o gwrs y myfyriwr o ddyddiad y digwyddiad hyd at ddiwrnod olaf blwyddyn cwrs y myfyriwr (i'w cynnwys)
  • AA = nifer diwrnodau blwyddyn cwrs y myfyriwr o ddiwrnod cyntaf y flwyddyn cwrs i ddiwrnod olaf y flwyddyn cwrs (i'w cynnwys)
  • WGLG (FE) = yw'r hawl grant llawn yn seiliedig ar flwyddyn academaidd lawn
  • RE = yr hawl grant a ailgyfrifwyd ar gyfer y diwrnodau sydd ar ôl o’r flwyddyn cwrs, o ddyddiad y digwyddiad

Diweddariad Medi

Bydd fformiwla cyfrifo’r WGLG (FE) ar gyfer digwyddiadau bellach yn defnyddio dyddiadau cyntaf ac olaf cwrs y myfyriwr ac nid dyddiadau’r flwyddyn academaidd. Bydd hyn yn darparu cyfrifiad tecach i fyfyrwyr cymwys sy’n bodloni digwyddiad.

Enghraifft

Mae myfyriwr yn dechrau cwrs addysg bellach llawnamser ym mlwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae eu cwrs yn dechrau ar 1 Medi 2023. Ar y dyddiad hwnnw, nid yw'r myfyriwr yn gymwys ar gyfer cymorth WGLG (FE) gan nad oeddent yn bodloni un neu ragor o'r categorïau myfyrwyr cymwys.

Ar 11 Mawrth 2024 rhoddir caniatâd i aros i'r myfyriwr gan y Swyddfa Gartref. Mae hyn yn ddigwyddiad cymwys. Mae’r myfyriwr yn gwneud cais am WGLG (FE) ac mae ei gais yn dod i law o fewn naw mis i ddyddiad dechrau’r cwrs. Mae cais y myfyriwr yn cael ei gymeradwyo, ac maent yn dod yn gymwys i gael cymorth o 11 Mawrth 2024 (dyddiad y sefyllfa).

Yn seiliedig ar incwm aelwyd y myfyriwr, byddai ganddo hawl i'r gyfradd uchaf o'r grant llawnamser £1,500. Bydd hyn yn cael ei roi ar sail pro-rata o 11 Mawrth 2024 tan 31 Gorffennaf 2024 (diwrnod olaf y flwyddyn cwrs).

Defnyddir y cyfrifiad yn y tabl uchod i bennu hawl pro-rata’r myfyriwr ar gyfer diwrnodau sy’n weddill o’r flwyddyn academaidd:

136 o ddiwrnodau (E) / 228 o ddiwrnodau (AA) x £1,500 o hawlogaeth grant (WGLG (FE)) = £894.74 (RE)

£894.74 yw hawl pro rata y myfyriwr ar gyfer WGLG (FE) am weddill diwrnodau’r cwrs, fel a ganlyn:

Tymor 2: £447.37

Tymor 3: £447.37

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau mewn perthynas â digwyddiad:

Mae’r dyddiadau cau i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau sy'n gwneud cais o dan y darpariaethau ar gyfer digwyddiad i’w gweld yn Atodiad 1.

Ceisiadau neu gytundebau wedi’u llofnodi’n hwyr

Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ystyried os gellir defnyddio disgresiwn fesul achos.

Trefniadau COVID-19: presenoldeb, taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio a llofnodi cytundebau dysgu

Bydd y mesurau canlynol bellach yn nodweddion safonol o’r cynllun:

  • y cyfnod ymestyn ceisiadau (13 wythnos o 8 wythnos) er mwyn bod yn gymwys ar gyfer taliadau LCA wedi'u hôl-ddyddio
  • llofnodi Cytundebau LCA a WGLG (FE) yn electronig

Rydym yn disgwyl i'r canolfannau dysgu ddiweddaru a chynnal eu canllawiau a'u polisïau eu hunain.

Rydym hefyd yn disgwyl bod canolfannau dysgu bellach yn ystyried y trefniadau dewisol at ddibenion presenoldeb fel rhai safonol. Er enghraifft:

  • rhesymau sy'n gysylltiedig â salwch
  • hunan-ynysu
  • cau campws

Dylid eu cynnwys yn eu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau wrth:

  • gyflwyno cadarnhad presenoldeb eu myfyrwyr i Cyllid Myfyrwyr Cymru
  • wrth weithredu a chynnal eu polisïau absenoldeb a phresenoldeb eu hunain

Ymholiadau

Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru yn uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, cysylltwch â'r Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.

Mae fersiynau print mawr, Braille ac ieithoedd eraill o'r ddogfen hon ar gael ar gais.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Atodiad 1: darpariaethau digwyddiad dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Math o fyfyriwrDarpariaethau digwyddiad dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Myfyrwyr newydd

Bydd yr ymgeisydd yn derbyn y lwfans o ddyddiad y digwyddiad:

  • os bydd y digwyddiad yn digwydd o fewn 13 wythnos cyntaf o’r dyddiad y mae’r ymgeisydd yn dechrau cwrs yn y flwyddyn academaidd
    ac
  • os bydd y cais LCA yn dod i law Cyllid Myfyrwyr Cymru o fewn y 13 wythnos gyntaf.

Bydd yr ymgeisydd yn derbyn y lwfans o’r dyddiad y daeth y cais i law:

  • os bydd y digwyddiad yn digwydd o fewn 13 wythnos gyntaf o'r dyddiad y mae'r ymgeisydd yn dechrau cwrs yn y flwyddyn academaidd
    ac
  • os bydd y cais yn dod i law wedi'r cyfnod o 13 wythnos.

Bydd yr ymgeisydd yn derbyn y lwfans o’r dyddiad y daeth y cais i law:

  • os bydd y digwyddiad yn digwydd wedi'r cyfnod o 13 wythnos.

Bydd y taliadau ond yn dechrau yn dilyn cadarnhad o'i Cytundeb LCA wedi'i lofnodi.

Myfyrwyr sy’n parhau

At ddibenion digwyddiad, mae myfyriwr sy'n parhau yn wahanol i berson sy'n cael ei drin fel myfyriwr sy'n dychwelyd. Byddai myfyriwr sy'n parhau yn berson nad yw eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer LCA ac sydd ar ei  ail flwyddyn neu flwyddyn ddilynol o’i gwrs/astudiaethau.

Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i fyfyrwyr sy'n parhau yr un fath a’r dyddiad cau i fyfyriwr newydd a nodir uchod.

Myfyrwyr sy’n dychwelydNid yw’r darpariaethau ar gyfer digwyddiad yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd, gan y byddant eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer y lwfans.
Cynllun Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) (WGLG (FE))
Math o fyfyriwrDarpariaethau digwyddiad dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau
Myfyrwyr newydd

Bydd yr ymgeisydd yn derbyn grant WGLG (FE) ar sail pro-rata o ddyddiad y digwyddiad. Bydd yn amodol ar y ffaith bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd yn yr un flwyddyn academaidd. Rhaid bod y cais wedi dod i law o fewn naw mis i ddyddiad dechrau cwrs y myfyriwr yn y flwyddyn academaidd.
 

Bydd y taliadau ond yn dechrau yn dilyn cadarnhad o Gytundeb WGLG (FE) y myfyriwr wedi'i lofnodi.

Myfyrwyr sy’n parhau

At ddibenion y digwyddiad, mae myfyriwr sy'n parhau yn wahanol i berson sy'n cael ei drin fel myfyriwr sy'n dychwelyd. Byddai myfyriwr sy'n parhau yn berson nad yw eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer WGLG (FE) ac sydd ar ei  ail flwyddyn neu flwyddyn ddilynol ei gwrs/astudiaethau. 
 

Mae'r dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i fyfyrwyr sy'n parhau yr un fath a’r dyddiad cau i fyfyriwr newydd a nodir uchod.

Myfyrwyr sy’n dychwelydNid yw’r darpariaethau ar gyfer digwyddiad yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd, gan y byddant eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer y grant.