Taliadau Gwledig Cymru (RPW): diweddariad gwasanaeth ynghylch prosiectau ar-lein Rhaglen Datblygu Gwledig, Taliadau Gwledig Cymru (RPW): Mehefin 2023
Diweddariad gwasanaeth diweddaraf ar Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG), Cynllun Buddsoddi Mewn Busnesau Gwledig (RBIS) Bwyd ac Anamaethyddol, a Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prosiectau sydd â chontractau â dyddiad dod i ben o 30 Mehefin 2023
Disgwylir bod pob prosiect sydd â chontract â dyddiad dod i ben o 30 Mehefin 2023 wedi ysgwyddo holl wariant cymwys y prosiect erbyn y dyddiad hwn yn ogystal â chyflwyno eu hawliad terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023 fan bellaf.
Os oes gennych eitemau neu weithgareddau buddsoddi o ran y prosiectau sydd wedi’u proffilio cyn neu ar gyfer mis Mehefin 2023, rhaid i chi gyflwyno eich hawliad(au) terfynol erbyn 7 Gorffennaf 2023 drwy’r cais am hawliad sydd ar gael ar eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.
Y Gofrestr Wariant a chofnodion Tendro Cystadleuol
Cofiwch gyflwyno’r wybodaeth sy’n ymwneud â thendro cystadleuol i RPW i’w chymeradwyo cyn cyflwyno’ch cais.
Ar gyfer eitemau prosiectau dros £500 ac o dan £5,000:
- cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer cymeradwyo gwariant
Ar gyfer eitemau prosiectau dros £5,000:
- cyflwynwch gofnod Tendro Cystadleuol ar gyfer cymeradwyo gwariant
- cyflwynwch dystiolaeth ategol h.y. copïau o 3 dyfynbris a gafwyd
Gellir dod o hyd i’r Cofnodion Tendro Cystadleuol gan ddilyn y ddolen hon: Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020: templedi cofnod tendro cystadleuol a chaffael cyhoeddus.
Archwilio prosiectau yn fewnol
Mae’n ofynnol i RPW gynnal archwiliad mewnol ar bob prosiect cyn y gellir rhyddhau’r taliad terfynol.
Bydd yr archwiliad yn gwirio:
- bod eitemau a hawlir yn eu lle
- tystiolaeth o wariant y prosiect, lle bo’n briodol
- bod allbynnau a dangosyddion ar gyfer eich prosiect wedi’u bodloni, a
- bod amodau arbennig sydd o dan gontract wedi’u cwblhau
Bydd angen i brosiectau’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) ddarparu adroddiadau gwerthuso hefyd.
Er mwyn helpu i leihau’r amser sydd ei angen ar gyfer cynnal yr archwiliad yn ogystal ag osgoi oedi gyda’ch taliad terfynol, gofynnwn ichi ddechrau casglu’r wybodaeth o dan sylw cyn yr archwiliad.
Lle bo’n briodol, byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch cyn yr archwiliad ac yn rhoi rhagor o fanylion ichi am yr wybodaeth y bydd angen ichi ei chyflwyno.
Ymholiadau am brosiectau
Dylid cyfeirio a chyflwyno pob ymholiad a thystiolaeth ddogfennol:
- i Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW, neu
- drwy eich cyfrif diogel RPW ar-lein
Os nad ydych yn gallu cael mynediad at eich cyfrif RPW ar-lein, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn syth.
Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid
Mae gwasanaeth ffôn y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid yn gweithredu fel a ganlyn:
Cyfnod |
Oriau agor |
Dydd Llun i ddydd Gwener |
9:00am tan 4:00pm |
Lle bo’n bosibl, dylid cyflwyno ymholiadau neu geisiadau cyffredinol ynghylch prosiectau drwy’r cyfrif RPW ar-lein sydd ar gael 24 awr y dydd.