Mae moderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith yng Nghymru wrth wraidd bil newydd sy’n cael ei osod heddiw (dydd Llun, 12 Mehefin).
Disgrifiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, fod y Bil Seilwaith (Cymru) newydd yn 'gam pwysig' tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i Gymru symud tuag at gyflawni ein targed sero net erbyn 2050.
Dywedodd y Gweinidog:
Mae'r Bil hwn yn cyflwyno trefn fodern a symlach ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru, a hynny ar y tir ac yn y môr.
Mae cael trefn gydsynio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yn amserol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a'n huchelgeisiau sero net.
Yn ogystal â helpu i wella pa mor gystadleuol yw Cymru a sicrhau ein bod yn wlad ddeniadol i fuddsoddi ac i weithio ynddi, bydd yn cynnig cyfle i’n cymunedau lleol i ymwneud â phroses gydsynio agored a thryloyw a fydd yn helpu i lywio datblygiadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae’r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ‘adeiladu economi gryfach a gwyrddach’ ac ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.
Aeth y Gweinidog yn ei blaen:
Mae'r angen am y Bil hwn wedi deillio o Ddeddf Cymru 2017, a ddatganolodd bwerau pellach i Gymru ar gyfer cydsynio prosiectau cynhyrchu ynni, llinellau trydan uwchben, porthladdoedd a harbyrau a gwaith seilwaith arall.
O ganlyniad i'r ffordd y cafodd y pwerau hyn eu datganoli, mae Llywodraeth y DU wedi ein gorfodi i ddefnyddio prosesau cydsynio sydd wedi dyddio nad ydynt yn addas i'r diben.
Mae hyn wedi ein rhoi dan anfantais o gymharu â gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig.
Mae cael cyfundrefn gydsynio effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i gyflawni prosiectau seilwaith pwysig yn amserol yng Nghymru sy'n gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at ein ffyniant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, a'n huchelgeisiau sero net.
I fynd i'r afael â'r materion hyn, mae'r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd, a fydd yn berthnasol ar y tir ac yn y môr.
Bydd yn cynnwys prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol y mae gan Weinidogion Cymru gyfrifoldeb am gydsynio iddynt ar hyn o bryd, megis gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir ac ar y môr, llinellau trydan uwchben sy'n gysylltiedig â gorsafoedd cynhyrchu datganoledig, yn ogystal â gwaith i briffyrdd a rheilffyrdd.
Drwy ddisodli prosesau cydsynio lluosog gydag un broses, byddwn yn helpu i ddenu'r buddsoddiad hanfodol sydd ei angen arnom, yn enwedig yn y sector ynni adnewyddadwy.
Datblygwyd y Bil gyda sawl nod allweddol mewn cof.
- Bydd yn sicrhau proses symlach ac unedig a fydd yn helpu datblygwyr i gael mynediad i 'siop un stop' ar gyfer caniatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill sy’n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd o dan gyfundrefnau cydsynio gwahanol.
- Bydd hefyd yn cynnig proses dryloyw, drylwyr a chyson, a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rhan yn effeithiol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a’u deall yn well.
- Bydd yn sicrhau bod prosesau cydsynio newydd yn gallu ymateb i heriau'r dyfodol mewn modd amserol drwy fod yn ddigon hyblyg i gynnwys technolegau newydd a rhai sy’n datblygu, yn ogystal ag unrhyw bwerau cydsynio pellach a allai gael eu datganoli i Gymru.
Ychwanegodd y Gweinidog:
Mae cyflawni nodau uchelgeisiol o'r fath yn gofyn am fewnbwn a chydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, partïon sydd â buddiant a chymunedau lleol.
Dyna pam mae'r egwyddorion y mae'r Bil yn ceisio deddfu ar eu cyfer wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn a'u datblygu drwy drafod a chyfathrebu’n barhaus â rhanddeiliaid allweddol.
Mae hyn wedi ein galluogi i fesur yr awydd am broses gydsynio newydd yng Nghymru a rhoi cyfle i randdeiliaid, gan gynnwys y cyhoedd yn ehangach, i helpu i lunio'r broses er budd pawb sy'n gysylltiedig.
Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn cyflwyno proses gydsynio ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Cymru'n eu haeddu.