Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi

Mae ein fframwaith deunyddiau glanhau a gwasanaethau ystafelloedd ymolchi presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2024. Byddwn yn aildendro'r gofynion ac yn rhannu ein cynlluniau ar gyfer ein fframwaith newydd yn y digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad cyflenwyr ar 10 Gorffennaf 2023.

Bydd hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) yn cael ei gyhoeddi ar GwerthwchiGymru syn fuan gyda rhagor o fanylion am y fframwaith a sut i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ymgysylltu â’r farchnad rithwir. I dderbyn diweddariadau ar y fframwaith newydd, sicrhewch eich bod wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi).

Am unrhyw wybodaeth bellach, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru

Deunyddiau adeiladu

Mae'r fframwaith deunyddiau adeiladu presennol (NPS-CFM-0085-18) yn dod i ben ar 1 Chwefror 2024. Cytunwyd y bydd Adra yn aildendro'r fframwaith newydd ac yn cymryd drosodd yr holl gyfrifoldebau rheoli contract yn y cytundeb newydd.

Rydym yn llwyr gefnogi’r fframwaith newydd fel olynydd naturiol i fframwaith y GCC, a fydd yn dal i gyflwyno cyfleoedd i gyflenwyr lleol ac yn cefnogi amcanion polisi Llywodraeth Cymru. Bydd y fframwaith newydd yn rhan o hwb caffael cydweithredol Cymru a bydd yn cael ei hysbysebu ar GwerthwchiGymru i holl awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru unwaith y bydd y broses dendro wedi’i chwblhau. Mae hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw (PIN) bellach wedi'i gyhoeddi ar Sell2Wales (angen mewngofnodi).

Mae ADRA bellach yn chwilio am gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i ffurfio rhan o'u grŵp ffocws cwsmeriaid newydd. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r gwaith o lunio’r cytundeb fframwaith newydd, anfonwch e-bost at: Paul.Painter@adra.co.uk neu Martin.Burger@adra.co.uk