Y newyddion diweddaraf am ddeddfwriaeth caffael.
Ymgynghori ar Is-ddeddfwriaeth
Rydym wedi bod yn datblygu’r is-ddeddfwriaeth (rheoliadau) niferus sydd eu hangen i gefnogi’r drefn Gaffael newydd a’i rhoi ar waith.
Bydd y rheoliadau, sy’n ymdrin ag ystod eang o feysydd ar draws y Bil ac sydd â chynnwys technegol manwl, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus rydym yn disgwyl ei gynnal dros yr haf.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei rannu’n ddwy, gyda Rhan 1 yn ymdrin â’r rheoliadau nad ydynt yn ymwneud â thryloywder, a Rhan 2 yn canolbwyntio ar y rheoliadau sy’n ymwneud â thryloywder. Bydd y dull hwn yn sicrhau y gall rhanddeiliaid ganolbwyntio ar y rheoliadau sy’n ymwneud â thryloywder a’r rhai nad ydynt yn ymwneud â thryloywder ar wahân a chael y cyfle mwyaf posibl i roi adborth ar fanylion technegol.
Byddwn yn darparu mwy o fanylion am amseriad y cyfnodau ymgynghori ar wahân maes o law.
Newidiadau i'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus
Daeth y cytundebau masnach rydd rhwng y DU ac Awstralia; a’r DU a Seland Newydd i rym ar 31 Mai 2023. Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau rhyngwladol, defnyddiodd Gweinidogion Cymru eu pwerau i osod offeryn statudol (“OS”) yn y Senedd i ddiwygio’r rheoliadau caffael presennol yn unol â’r rhwymedigaethau caffael cyhoeddus sydd wedi’u cynnwys yn y ddau gytundeb masnach rydd mewn perthynas ag Awdurdodau datganoledig Cymru.
Mae tri mân ddiwygiad technegol yn cael eu gwneud i’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus:
1. Gwerth contract anhysbys
pan nad oes modd amcangyfrif gwerth caffael, mae angen trin y caffaeliad fel pe bai wedi’i brisio ar y trothwy perthnasol ar gyfer y math hwnnw o gaffael.
2. Hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw
Dileu'r posibilrwydd o ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth ymlaen llaw a hysbysiad dangosol cyfnodol, yn y drefn honno, fel yr alwad am gystadleuaeth.
3. Terfynu contractau a ddyfarnwyd er mwyn osgoi rhwymedigaethau o dan ein cytundebau rhyngwladol
Gwahardd awdurdodau contractio a chyfleustodau rhag terfynu contractau mewn modd sy'n osgoi rhwymedigaethau cyfreithiol.
Daeth y newidiadau hyn i rym ar 26 Mai 2023, ac mae Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) wedi’i gyhoeddi. Mae’r WPPN yn cynnwys rhagor o fanylion am y newidiadau a’r camau y mae’n rhaid i Awdurdodau Contractio Cymru eu cymryd o ganlyniad i’r OS.
Newidiadau i Godau Geirfa Caffael Cyffredin (CPV)
Yn ddiweddar, mae Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi cydsynio i Lywodraeth y DU osod offeryn statudol (“OS”) yn y Senedd sy’n effeithio ar awdurdodau contractio yng Nghymru.
Mae’r OS, a fydd yn cael ei osod ar ar 8 Mehefin, yn gwneud newidiadau i’r rhestr bresennol o godau CPV a ddefnyddir mewn caffaeliadau yn y sector cyhoeddus oherwydd pryderon nad oedd rhywfaint o’r eirfa’n gydnaws â deddfwriaeth cydraddoldeb gyfredol. Mae'r ddau god CPV yr effeithiwyd arnynt bellach wedi'u diwygio i:
- 85311200-4 - Gwasanaethau lles i bobl anabl (Welfare services for disabled people), a
- 85312120-6 - Gwasanaethau gofal dydd i blant a phobl ifanc anabl (Day-care services for disabled children and young people).
Mae’r diwygiadau, a ddaw i rym ar unwaith, yn sicrhau bod unrhyw gyfeiriadau at y codau CPV hyn naill ai mewn deddfwriaeth caffael neu gaffael cyhoeddus yn defnyddio’r iaith briodol.