Rydym wedi gwella diogelwch a'r llif traffig ar gyffyrdd o gwmpas Casnewydd.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud
Roeddem ni am leihau’r oedi ar yr M4 ac annog mwy o draffig i ddefnyddio'r ffordd ddosbarthu ddeheuol. Hefyd fe wnaethom ni’r cylchfannau'n haws i'w defnyddio.
Y Cynllun
Cylchfan Parc Tredegar
Fe wnaethom ychwanegu goleuadau traffig, ehangu'r gylchfan ddeheuol ac adeiladu llwybr drwy'r gylchfan.
Cylchfan Basaleg
Wnaethom ni wella capasiti traffig y gylchfan, ac ychwanegu goleuadau traffig.
Y ffordd dosbarthu ddeheuol a chylchfan Pont Ebwy
Fe adeiladwyd ffordd drwy'r gylchfan sydd yn cysylltu’r ffordd dosbarthu ddeheuol â'r A48.
Amserlen
Gwahoddiadi dendro: haf 2014
Dyfarnu contract: gaeaf 2015
Cymeradwyo cynllun cychwynnol: haf 2016
Cymeradwyo cynllun manwl: gaeaf 2016
Dechrau adeiladu: gwanwyn 2017
Cwblhau'r gwaith adeiladu: haf 2018
Diswedd cyfnod cywiro diffygion: gaeaf 2019
Cynnydd cyfredol
Trefniadau lôn newydd, signalau traffig ac adrannau newydd wedi'u hagor.
Gallwch chi ymgyfarwyddo â'r newidiadau rydym wedi'u gwneud gyda'r mapiau (rhestru o dan gyhoeddiadau).
Sut y cynhaliwyd yr ymgynghoriad
Wnaethom ni ymgynghori fel rhan o ymgynghoriadau Mesurau Gwella Coridor yr M4.