Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn Nhîm Cymru nawr yn gweithio i gymryd y cam nesaf i ddod yn arweinydd byd yn yr economi gylchol.
Cymru ar hyn o bryd yw’r wlad drydydd orau yn y byd am ailgylchu. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwnnw, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn Nhîm Cymru nawr yn gweithio i gymryd y cam nesaf i ddod yn arweinydd byd yn yr economi gylchol.
Yr uchelgais yw troi cefn ar gymdeithas wastraffus a cheisio defnyddio eitemau ac adnoddau am gyn hired â phosibl. Yn hytrach na dim ond prynu ac ailgylchu eitemau, mae Llywodraeth Cymru eisiau helpu pobl i arbed amser a gwarchod y blaned drwy drwsio ac ailddefnyddio, rhentu a rhannu mwy o’r pethau mae arnyn nhw eu hangen.
Mae Angela Langley, Arbenigwr Sector Cyswllt dros Drwsio ac Ailddefnyddio yn WRAP yn egluro:
“Er mwyn sicrhau’r newid hwn at ddiwylliant o drwsio ac ailddefnyddio, mae angen inni adeiladu’r seilwaith fel bod pob un ohonom yn gallu cael mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau. Mae hefyd yn holl bwysig ein bod yn meithrin y sgiliau iawn yn ein cymunedau.”
Un o’r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu, fodd bynnag, yw’r bwlch sgiliau rhwng cenedlaethau:
“Yn gyffredinol, caiff caffis trwsio a chanolfannau ailddefnyddio eu rhedeg gan wirfoddolwyr o’r genhedlaeth hŷn,” ychwanega Angela. “I sicrhau ein bod yn gallu cyflawni’r newid aruthrol hwn mewn diwylliant, mae angen inni sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol hyn yn cael eu pasio ymlaen i’r genhedlaeth iau ac mae gennym bartneriaid sy’n gweithio gyda ni i gyflawni hyn. Mae angen inni weithio gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion i ennyn diddordeb pobl ifanc a darparu iddynt y cyfleoedd ymarferol i feithrin sgiliau, hyder ac yn y pendraw yrfaoedd yn yr economi gylchol.
“Mae yna gaffis trwsio sy’n cael eu rhedeg nawr gan Gaffi Trwsio Cymru a’i bartneriaid mewn amrywiol ysgolion gan helpu teuluoedd drwy’r argyfwng costau byw. Mewn ysgolion ar draws Casnewydd, er enghraifft, bu RE:MAKE Casnewydd yn cynnal gweithdai yn addysgu sgiliau gwnïo i rieni a disgyblion er mwyn iddynt allu trwsio gwisg ysgol a chotiau gaeaf. Mae Ysgol Gynradd Maindy wedi agor ‘llyfrgell pethau’ er mwyn i bobl allu benthyg peiriannau gwnïo a pheiriannau gwneud bara i’w defnyddio yn y dosbarth neu yn nigwyddiadau’r ysgol.”
Mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref hefyd yn rhan o’r ateb ac mae siopau ailddefnyddio ar y safle yn llawer mwy cyffredin erbyn hyn. Ar flaen y gad yng Nghymru y mae’r gwaith a wna Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ochr yn ochr â’i ddarparwr gwasanaethau Wastesavers Charitable Trust Ltd.
Mae yna bellach dair o siopau ailddefnyddio i’w cael ar draws y fwrdeistref. Agorodd y cyngor y safle cyntaf yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llantrisant yn 2017. Y 'Sied oedd' yr enw ar y lle, ac yn fuan iawn roedd yn boblogaidd gyda thrigolion lleol, gyda dros 70 o dunelli o wastraff yn cael ei ddefnyddio, a daeth yn hunangynhaliol yn ariannol yn y 12 mis cyntaf. Ers hynny, mae rhagor o siopau ailddefnyddio wedi agor mewn parc busnes cyfagos ac ar stryd fawr brysur Aberdâr. Mae’r cynllun yn dal i fod yn hunangynhaliol yn ariannol ac ar hyn o bryd mae’r cyngor yn ystyried agor pedwerydd cyfleuster yn ardal de-ddwyrain y fwrdeistref.
Dywed Lee Foulkes, Rheolwr Gwastraff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fod eu hymdrechion yn cael effaith fawr iawn ar ddatblygu sgiliau:
“Rydyn ni nid yn unig yn byw yn fwy cynaliadwy, ond mae’r ymdrechion i drwsio ac ailddefnyddio hefyd yn creu swyddi a hyfforddiant i bobl leol. Mae pobl yn dysgu sut i drwsio eitemau ac adnewyddu dodrefn a chyfarpar domestig mawr. Mae pobl hefyd yn cael eu hyfforddi i glirio tai mewn ffordd gynaliadwy a sut i ddiffinio gwerth adeg gwaredu. Caiff hyfforddiant ei gynnal mewn adwerthu, cyllid, trafnidiaeth a’r cyfryngau cymdeithasol. Ac wrth i’r gwirfoddolwyr ddatblygu sgiliau, mae llawer yn dod yn aelodau staff cyflogedig.”
Yn y cyfamser, yng Ngogledd Cymru, mae’r elusen gofrestredig gydweithredol Crest yn atal dodrefn, nwyddau gwynion, tecstilau ac offer trydanol bychan rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Mae’n fusnes mawr gydag aelodau staff cyflogedig (crefftwyr medrus, peirianwyr cymwysedig, cynorthwywyr adwerthu a gweinyddwyr) yn cyflenwi ac yn rheoli pedair uned adwerthu a hyb ailddefnyddio at y pwrpas.
Ffocws mwyaf Crest Cooperative, fodd bynnag, yw sicrhau bod ei weithgaredd yn darparu hyfforddiant a chyfleoedd i bobl sydd mewn angen yn ogystal â’r bobl hynny yn ein cymdeithas sy’n cael eu diystyru neu eu gadael ar ôl yn draddodiadol, fel yr eglura’r Rheolwr-Gyfarwyddwr Rod Williams:
“Drwy gyfrwng ein gwaith ailddefnyddio, rydyn ni’n hybu lles unigolion bregus a phobl sy’n wynebu argyfwng ac yn rhoi cefnogaeth iddynt. Rydyn ni’n helpu i ddatblygu sgiliau a chynyddu hyder, gan ddarparu hyfforddiant cydnabyddedig ac achrededig. Ein nod yw arwain yr unigolion hyn i waith neu addysg amser llawn drwy’r cyfleoedd a ddarparwn.
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth prawf ers 21 o flynyddoedd ac rydyn ni wedi cael llwyddiant cyson yn cefnogi pobl i feithrin sgiliau er mwyn iddynt fynd ymlaen i gael gwaith amser llawn. Maent yn dod atom i gyflawni eu horiau ar y cynllun Gwneud Iawn â'r Gymuned gan weithio ar ein faniau, yn ein siopau neu yn ein gweithdai.”
Dyn ifanc o’r enw Diogo yw un o’n llwyddiannau diweddaraf. Ar ôl cwblhau ei oriau drwy’r cynllun Gwneud Iawn â'r Gymuned, treuliodd ddau fis arall gyda’r tîm fel gwirfoddolwr. Mae’n awr yn Gynorthwyydd Adwerthu amser llawn:
“Deuthum i Crest drwy’r Gwasanaeth Cymunedol. Roeddwn i’n ddi-waith, wastad mewn trwbl a phenderfynais fy mod am wella fy mywyd. Mae wedi newid fy agwedd at waith yn llwyr ac mae bod yma wedi rhoi dechrau o’r newydd imi,” meddai Diogo.
Mae Crest yn dal i ehangu ei wasanaethau er mwyn ceisio hybu cynhwysiant cymdeithasol a darparu cyfleoedd i bobl leol. Gan weithio gyda Chanolfan Gogledd Cymru i Ferched a menywod-droseddwyr drwy’r gwasanaeth prawf, mae wedi agor gweithdy newydd yn Llandudno lle gall merched ddysgu sgiliau fel uwchgylchu dodrefn.
“Mae llawer o’r menywod sy’n dod atom wedi dioddef cam-drin domestig,” ychwanega Rod. “A drwy ddatblygu’r sgiliau hyn, maen nhw nid yn unig yn gwella eu hyder a’u hunan-barch, maen nhw hefyd yn dysgu sut i fyw yn fwy annibynnol.”
Prosiectau fel y rhain yng Ngogledd Cymru a Rhondda Cynon Taf, sy’n helpu i greu’r newid angenrheidiol mewn diwylliant, sy’n ein hannog i fod yn fwy ystyriol a medrus o safbwynt trwsio ac ailddefnyddio.
Mae’r ymgyrch i drwsio ac ailddefnyddio yn bendant yn tyfu. Cafodd rhaglen gydlynus, dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ei lansio i gynyddu maint a nifer y cynlluniau trwsio ac ailddefnyddio ar draws Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ResourceEfficiencyAndCircularEconomy@gov.wales