Rydym yn adnewyddu Twnelau Bryn-glas ac atgyweirio Pont yr Afon Wysg.
Trosolwg
Ein rhesymau dros wneud hyn
Cafodd y twnelau eu hadeiladu’n unol â hen safonau dylunio ac nid ydynt bellach yn cydymffurfio â’r safonau dylunio presennol. Yn ogystal, mae angen gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar Bont yr Afon Wysg a Thraphont Malpas.
Y gwaith
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ailosod holl systemau mecanyddol a thrydanol y twnelau a hefyd y cerbytffyrdd, systemau draenio a leinin y twnnel. Roeddem hefyd wedi gosod wyneb newydd ar Bont yr Afon Wysg.
Roedd y gwaith adeiladu wedi’i amserlennu er mwyn sicrhau bod y prif waith yn digwydd yn ystod y nos.
Rydym wedi cwblhau'r gwaith a ddylai olygu na fydd angen gwneud cymaint o weithrediadau cynnal a chadw ar y darn hwn o’r M4.
Am wybodaeth ar gau ffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru.
Amserlen
Dylunio: o 29 Chwefror 2016 am 24 wythnos
Gwaith adeiladu’n cychwyn: 20 Mehefin 2016
Gwaith adeiladu’n gorffen: Gorffennaf 2018