Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ailbenodi Aelodau Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol (WIDAB) am gyfnod arall o 3 blynedd a ddechreuodd ar 1 Tachwedd 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd WIDAB ei sefydlu'n wreiddiol o dan Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975, ac mae’n rhoi cyngor i Weinidog yr Economi ar faterion sy’n ymwneud ag Economi Cymru ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru yn ei huchelgais i sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ar draws rhanbarthau Cymru drwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Rhan ganolog o waith WIDAB yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am gymorth o fwy na £1 filiwn oddi wrth y cynlluniau perthnasol sy’n dod o dan Gronfa Dyfodol yr Economi.

Dyma’r Aelodau a ailbenodwyd i’r Bwrdd:

  • Alun Jones
  • Ben Pritchard
  • Mark Rhydderch-Roberts
  • Yr Athro Nigel Morgan
  • Sioned Edwards

Cadeirydd y Bwrdd, Michael Macphail, a gafodd ei ailbenodi ym mis Gorffennaf 2022 am gyfnod arall o 3 blynedd, fydd yn arwain y trafodion yng nghyfarfodydd y Bwrdd, gan helpu’i gyd-Aelodau ar y Bwrdd i gyrraedd consensws er mwyn cyflwyno argymhellion addas i'r Gweinidog.

Ar hyn o bryd, cynigir tâl cydnabyddiaeth o £198 y dydd i bob Aelod o’r Bwrdd am ymrwymiad o un diwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd yn fisol.

Ailbenodwyd yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus. Penodir pawb ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.

Nid oes unrhyw un o'r Aelodau wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf heblaw Sioned Edwards, sy’n aelod o Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Ynys Môn a Chyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf. Nid oes unrhyw Aelod wedi’i benodi i rolau Gweinidogol eraill. 

Yr aelodau a ailbenodwyd i Fwrdd WIDAB:

Alun Jones

Mae Alun Jones wedi bod gweithio yn y sector datblygu economaidd ers 30 mlynedd. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr gweithredol gyda Menter a Busnes ym 1997 a bu'n Brif Weithredwr y Grŵp rhwng mis Medi 2003 a mis Rhagfyr 2022.

Ben Pritchard

Ben Pritchard sy'n arwain gwaith Arup yng Nghymru ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn cynorthwyo cleientiaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Mae wedi arwain prosiectau ledled y DU, Seland Newydd ac Awstralia, gan ganolbwyntio’n benodol ar sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a datblygu, ac yna cyflawni’r prosiectau hynny.

Mark Rhydderch-Roberts

Mae Mark Rhydderch-Roberts yn gyn-Fanciwr Buddsoddi sydd wedi bod mewn swyddi ar y lefel uwch mewn nifer o Fanciau Buddsoddi Byd-eang, gan gynnwys UBS, Lehman Brothers, Schroders a Societe Generale. Ar hyn o bryd, mae'n un o Gyfarwyddwyr Anweithredol Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, yn Drysorydd ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Glwb Criced Sir Forgannwg ac yn un o Gyfarwyddwyr Gweithredol Clwb Rygbi Pontypridd.

Athro Nigel Morgan

Mae'r Athro Nigel Morgan yn Athro Cynaliadwyedd Cymdeithasol ym Mhrifysgol Surrey, ar ôl bod yn athro mewn sawl prifysgol yn y DU ac yn Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Sioned Edwards

Mae Sioned Edwards yn gyn-Fanciwr Corfforaethol sydd wrthi ar hyn o bryd yn cynorthwyo busnesau i ddatblygu’n strategol.