Yn gynharach heddiw gwnaeth y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans gyfarfod â grŵp o fenywod sydd wedi hyfforddi fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm (HGV), diolch i brosiect peilot sy'n targedu prinder sgiliau mewn sectorau traddodiadol o ran rhywedd.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae 19 o fenywod wedi cwblhau eu hyfforddiant trwydded HGV drwy'r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yng Ngholeg Sir Gȃr yn Sir Gaerfyrddin.
Mae llawer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn yr hyfforddiant wedi ailhyfforddi o rolau blaenorol i fynd ymlaen nawr iweithio yn y diwydiant cludo nwyddau.
Cyflwynir yr hyfforddiant gan COTS Training ar ran Coleg Sir Gâr, ynghyd â darparwyr eraill.
Dywedodd Sian Morris, sydd bellach yn gweithio i Gregory Distribution:
"Llwyddais i gwblhau'r cwrs Rheolwr Trafnidiaeth CPC fis Tachwedd diwethaf yn COTS Llandarcy, a ariannwyd gan Goleg Sir Gâr. Mwynheais y cwrs, gan ddysgu a chyflawni nodau. Cawsom diwtor rhagorol ynghyd â chyfleusterau a staff gwych a oedd yn hynod groesawgar a chymwynasgar. Ysgogodd hyn imi gyflawni hyfforddiant pellach i gyflawni uchelgais oes o basio fy nhrwydded dosbarth 1.
“Ar ôl gweithio mewn rôl gweinyddu trafnidiaeth am y rhan fwyaf o ’mywyd, roedd hyn yn ymddangos fel y dilyniant naturiol. Yn byw mewn cartref gyda dau fab sy'n gyrru dosbarth 1 ynghyd â fy ngŵr, rhoddais fy mryd ar basio'r her hon, gan wybod y byddai hyn hefyd yn gwella fy CV ac yn cynnig llawer mwy o gyfleoedd gwaith - na fyddai ar gael imi pe na fyddwn wedi ymgymryd â'r hyfforddiant hwn oedd ar gael imi. Mae hyn wir wedi bod yn achubiaeth gan fy mod wedi bod yn anhapus am amser hir yn fy rôl felly penderfynais ddysgu a datblygu sgiliau newydd a chyda chymorth COTS, llwyddais i wneud hyn. Mae eu hymrwymiad, eu harweiniad a'u cefnogaeth hyd yn oed ar ôl pasio wedi bod yn gwbl anhygoel.”
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Roedd dau nod gan y peilot hwn: cynyddu cyflogaeth mewn sectorau sydd â phrinder sgiliau; a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhywedd yn rhai o'r sectorau hynny. Mae wedi bod yn wych cwrdd heddiw â gyrwyr benywaidd sydd wedi ennill eu trwyddedau drwy gyfrwng y peilot, yn ogystal â'u cyflogwyr yn y diwydiant cludiant.”
Dywedodd Dr Andrew Cornish, Pennaeth Coleg Sir Gȃr:
"Rwy'n falch iawn o'r effaith y mae Cyfrifon Dysgu Personol (PLAs) yn eu cael ar weithwyr a chyflogwyr. Gan ddefnyddio'r fenter hon gan Lywodraeth Cymru, mae llawer o weithwyr ar draws y rhanbarth wedi cael eu huwchsgilio neu eu hailhyfforddi mewn nifer o wahanol sectorau. Mae'r hyfforddiant hwn wedi galluogi gweithwyr i ennill sgiliau newydd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu busnes ac wedi rhoi'r hyder a'r cymwysterau iddynt a fydd yn eu galluogi i ddatblygu eu gyrfaoedd.
"Yn yr achos penodol hwn, rwyf mor falch o'r gwaith rydym wedi'i gyflawni gyda menywod, gan ddarparu hyfforddiant Cerbydau Nwyddau Trwm a fydd yn caniatáu iddynt gymryd eu lle mewn sector logisteg sy'n ehangu'n barhaus."
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn darparu cymorth i bobl sy'n ennill llai na £29,534 y flwyddyn i ennill sgiliau, gan eu helpu i gael mynediad at gyfleoedd gwaith ehangach a sgiliau uwch. Maent yn caniatáu i bobl astudio cyrsiau hyblyg sydd wedi'u hariannu'n llawn o amgylch cyfrifoldebau presennol. Mae cyllid wedi'i dargedu'n benodol lle mae prinder llafur hysbys a bylchau sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth, megis iechyd a gofal cymdeithasol, logisteg, adeiladu gwyrdd ac ynni adnewyddadwy.
Roedd y cwrs HGV yng Ngholeg Sir Gȃr yn rhan o gyfres o gynlluniau peilot Llywodraeth Cymru a oedd yn treialu sut y gallai cyllidebu ar sail rhywedd helpu i gynyddu nifer y dynion neu fenywod sy'n hyfforddi i fynd i mewn i ddiwydiannau sydd â rhwystrau canfyddedig, neu wirioneddol, i'w rhywedd. Mae cyllidebu ar sail rhywedd yn golygu mynd ati i nodi effeithiau gwariant ar gydraddoldeb rhywedd, rhan o gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn llywodraeth ffeministaidd.