Arolwg Pobl Awdurdod Cyllid Cymru: 2022
Canfyddiadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) 2022. Yn mesur ymgysylltiad â chyflogeion er mwyn helpu i wella perfformiad, darpariad gwasanaethau a llesiant staff sefydliadau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb
Cynhaliwyd yr arolwg Pobl rhwng 22 Medi a 31 Hydref.
- Cymerodd 74 o staff ACC ran yn yr arolwg.
- Cyfradd ymateb o 89%.
- Roedd mynegai ymgysylltiad gweithwyr ar gyfer ACC yn 77% cadarnhaol.
Mae ymgysylltu â gweithwyr yn ddull gweithle sydd wedi'i gynllunio er mwyn sicrhau bod gweithwyr wedi ymrwymo i nodau a gwerthoedd eu sefydliad, a'u bod yn cael eu cymell i gyfrannu at lwyddiant sefydliadol.
Prif ganlyniadau
Thema |
% Cadarnhaol |
O’i gymharu â’r arolwg blaenorol | O’i gymharu â Meincnod y Gwasanaeth Sifil |
---|---|---|---|
Mynegai ymgysylltu |
77% |
-1 |
+13 |
Fy ngwaith |
89% |
0 |
+11 |
Amcanion a diben sefydliadol |
92% |
0 |
+9 |
Fy rheolwr |
88% |
0 |
+11 |
Fy nhîm |
92% |
-3 |
+9 |
Dysgu a datblygu |
67% |
0 |
+12 |
Cynhwysiant a thriniaeth deg |
93% |
+1 |
+12 |
Adnoddau a llwyth gwaith |
93% |
+3 |
+18 |
Cyflog a buddion |
79% |
-5 |
+52 |
Arweinyddiaeth a rheoli newid |
79% |
+2 |
+25 |
Atodiad
Term | Diffiniad |
---|---|
% Cadarnhaol | Y gyfran a ddewisodd 'gytuno' neu 'gytuno'n gryf', ar gyfartaledd ar draws yr holl gwestiynau o fewn y thema |
Arolwg blaenorol | Mae cymhariaethau â'r arolwg blaenorol yn ymwneud â chanlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2021 |
Meincnod y Gwasanaeth Sifil | Canolrif y ganran gadarnhaol ar draws yr holl sefydliadau a gymerodd ran yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022 |
Mynegai ymgysylltiad gweithwyr
Mae'r arolwg yn cynnwys 5 cwestiwn sy'n creu'r mynegai ymgysylltiad.
Mae’r sgôr mynegai yn cynrychioli lefel gyfartalog yr ymgysylltu yn yr uned honno ac yn amrywio o 0 i 100. Mae sgôr mynegai o 0 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn yr uned honno’n dweud eu bod yn anghytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu ac mae sgôr o 100 yn cynrychioli'r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn cytuno'n gryf â phob un o'r pum cwestiwn ymgysylltu.
Talgrynnu
Cyflwynir y canlyniadau fel rhifau cyfan er mwyn hwyluso'r darllen, gan dalgrynnu yng ngham olaf y cyfrifo er mwyn sicrhau’r cywirdeb gorau posibl. Felly mewn rhai achosion, ni fydd y gwahaniaethau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cyfateb i ffigurau wedi’u talgrynnu y sgoriau sy'n cael eu cymharu.
Er enghraifft, os yw eich sgôr Mynegai Ymgysylltiad, heb ei dalgrynnu, yn 75.4%, sgôr cyffredinol eich sefydliad yw 74.6%, yn yr adroddiad hwn byddai'r sgorau hyn yn ymddangos fel 75%.
Cyfrinachedd
Cynhaliwyd yr arolwg fel rhan o Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022, a reolir gan Swyddfa'r Cabinet ar ran yr holl sefydliadau sy’n cymryd rhan. Comisiynir sefydliad allanol gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal yr Arolwg.
Er mwyn diogelu anhysbysedd unigolion, ni adroddir ar grwpiau o lai na 10 ymatebydd, ond mae eu hymatebion yn cyfrannu at y sgoriau cyffredinol ar gyfer yr uned a'r sefydliad y maen.
Mae Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil i’w weld ar GOV.UK