Yn y canllaw hwn
9. Cofrestr y fuches
Mae’n bwysig bod pawb sy’n cadw gwartheg yn llenwi cofrestr buches. Rhaid cadw’r gofrestr yn gyfoes a sicrhau ei bod ar gael i unrhyw un sy’n gofyn am gael ei gweld. Gallech gael eich cosbi neu hyd yn oed eich erlyn am beidio â’i dangos.
Rydyn ni’n eich cynghori i ddefnyddio llyfryn cofrestr y fuches.
Os ydych chi’n hapus â’ch cofrestr electronig neu gofrestr debyg, croeso i chi barhau i’w defnyddio.
Ond gofalwch fod eich cofrestr yn cofnodi’r wybodaeth y mae’n templed ar gyfer y gofrestr yn gofyn amdani, sef:
- 1 – tag clust
- 2 – dyddiad geni
- 4 – brîd
- 5 – rhyw
- 6 – rhif tag clust y fam (neu’r fam fenthyg) (mae manylion y tad yn opsiynol)
- 7 – dyddiad symud
- 8 – CPH neu ddaliad man cychwyn y symudiad
- 9 – dyddiad y symudiad neu farwolaeth
- 10 – CPH neu ddaliad pen taith symudiad
Cadwch eich cofrestr mewn lle diogel ac os ydych yn defnyddio cofrestr electronig, crëwch fersiwn wrth gefn.
Nid oes angen cadw cofrestr bapur a chofrestr electronig. Gwnaiff y naill neu’r llall y tro.
Dyma’r gofynion o ran cofnodi ar gofrestr eich buches:
- Genedigaethau
- 7 diwrnod – Godro
- 30 diwrnod – Eidion
- Symudiadau – 36 awr
- Marwolaeth – 7 diwrnod
Rhaid i chi gadw’ch cofrestr am 10 mlynedd ar ôl y dyddiad olaf a gafodd ei gofnodi yn eich cofrestr.
Am ragor o wybodaeth
Llywodraeth Cymru: cofrestru a symudiadau gwartheg
E-bost: adnaboddabyw@llyw.cymru
Taliadau Gwledig Cymru:
Canolfan Gyswllt: 0300 062 5004
E-bost: rpwonline@llyw.cymru
Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
Swyddfa Adrannol Iechyd Anifeiliaid
Doc Fictoria
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1EP
Ffôn: 0300 303 8268
E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
Ffôn: 0345 050 3456
E-bost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk