Sut ydym yn mynd ati i olrhain a sicrhau cynnydd yn erbyn ein cynllun i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.
Cynnwys
Diweddariadau
Ar 21 Mehefin 2022, gwnaed datganiad llafar ar Falchder a’r cynnydd o ran y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Yn dilyn y broses ymgynghori, cafodd fersiwn derfynol y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2023.
Lansiwyd y Cynllun Gweithredu yn dilyn datganiad llafar ar 7 Chwefror 2023.
Ym mis Mai 2023, lansiwyd prosiect “Fframwaith Asesu Gwerthusiadau”. Rydym yn gweithio gyda’r Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb i lunio fframwaith i asesu effaith a llwyddiant Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.
Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ar 15 Mehefin 2023, i nodi Mis Pride 2023 a'r cynnydd a wnaed ers cyhoeddi'r Cynllun.
Hawliau dynol a chydnabyddiaeth
Cam gweithredu 1: cryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol pobl LHDTC+
Ariannwyd Age Cymru o fis Ionawr i fis Gorffennaf 2022 i gyflawni prosiect hawliau dynol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Pwrpas y prosiect hwn oedd codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, ac ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru. Roedd hyn er mwyn pwysleisio'r neges bod pobl hŷn yn ddinasyddion ac yn rhan o gymdeithas, a bod ganddynt hawl i ddisgwyl y bydd eu hawliau dynol yn cael eu cynnal.
Roedd hyn yn cynnwys pecyn cymorth a fideo ar hawliau dynol sy'n ymdrin â phrofiadau pobl drawsryweddol hŷn, yn enwedig y rhai mewn lleoliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Cam gweithredu 2: helpu pobl LHDTC+ i ddeall yn well sut i fynnu eu hawliau dynol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Stonewall Cymru i lansio ei Raglen Arweinwyr y Dyfodol gyntaf ar 23 Ionawr 2024.
Bwriad y rhaglen yw grymuso pobl LHDTC+ 22 i 30 oed o bob cwr o Gymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut mae ein hunaniaeth yn llunio ein profiadau a sut y gallwn greu amgylcheddau cynhwysol lle gall pob person LHDTC+ ffynnu.
Cafwyd sgyrsiau teimladwy gydol y diwrnod, gan greu ymdeimlad amlwg o undod ymysg y rhai a oedd yn bresennol.
Cam gweithredu 3: gwahardd pob agwedd ar Arferion Trosi LHDTC
Rydym wedi sefydlu Gweithgor ar Wahardd Arferion Trosi. Mae’r Gweithgor yn rhoi cyngor ar gamau a gynigir i wahardd arferion trosi yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys prosiect ymchwil, ymgyrch ymwybyddiaeth, a gwasanaethau cymorth i oroeswyr.
Rydym wedi gweithio gyda Galop i ddatblygu gwasanaethau cymorth dwyieithog newydd ar gyfer goroeswyr arferion trosi yng Nghymru.
Rydym wedi comisiynu ymchwil ar brofiadau goroeswyr arferion trosi yng Nghymru, a ddechreuodd ym mis Mai 2023.
Cam gweithredu 4: cryfhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar fforymau cydraddoldeb
Rydym wedi sefydlu’r Grŵp Cynghori ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Bydd y Grŵp anstatudol yn cynghori ar gamau gweithredu arfaethedig yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Cam gweithredu 8: mae ymgysylltu rhyngwladol yn dangos ein gwerthoedd a’n cymorth i bobl LHDTC+ yng Nghymru ac yn fyd-eang
Ym mis Ebrill a mis Mai 2023, fe wnaethom gyfarfod â’r Cenhedloedd Unedig a’u Harbenigwr Annibynnol ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd yn ystod eu hymweliad â’r DU. Cyfeiriwyd at Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn eu datganiad terfynol fel:
“An example of good practice in human rights policymaking”.
Diogelwch a rhyddid rhag gwahaniaethu
Cam gweithredu 10: parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni atal troseddau casineb ledled Cymru
Rydym wedi diweddaru ein hymgyrch 'Mae Casineb yn Brifo Cymru' gyda ffocws ar gyfeiriadedd rhywiol a materion sy’n wynebu pobl drawsryweddol. Cefnogir hyn gan Ganolfan Cymorth Casineb Cymru sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn cynnwys enghreifftiau o gasineb ar-lein ac yn dangos ffyrdd clir o roi gwybod am gasineb ar-lein i oroeswyr ac unigolion wedi’u targedu.
Cam gweithredu 11: gwrthsefyll agweddau gwrth-LHDTC+ ar-lein a throseddau casineb
Gall ysgolion gefnogi pobl ifanc, dysgwyr a’u teuluoedd drwy ystod o adnoddau a chanllawiau diogelwch ar-lein drwy Hwb. Mae’r adnoddau hyn yn hyrwyddo ymddygiad ystyriol ar-lein sy’n dangos parch.
Rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023, cyflwynwyd pecyn hyfforddi i gefnogi ymarferwyr addysg drwy Hwb. Y nod oedd eu helpu i ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein. Roedd yn cynnwys hyfforddiant pwrpasol ar gyfer arweinwyr diogelu.
Cam gweithredu 13: targedu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ymhlith cymunedau LHDTC+
Llinell Gymorth “Byw Heb Ofn” yw llinell gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Mae’n cynnig cymorth cyfrinachol i holl oroeswyr a dioddefwyr trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn cynnwys trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodas dan orfod.
Ar 24 Mai 2022, fe wnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Genedlaethol bum mlynedd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Fe’i datblygwyd gyda sefydliadau partner fel yr heddlu, y sector arbenigol a goroeswyr. Mae’r Strategaeth Genedlaethol yn cael ei chyflwyno drwy ddull glasbrint. Mae hyn yn cryfhau gweithio mewn partneriaeth rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector arbenigol.
Cam gweithredu 14: mae gwasanaethau digartrefedd yn gynhwysol o ran anghenion penodol pobl LHDTC+
Mae Tŷ Pride yn brosiect sy’n cael ei ariannu drwy gronfa Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae ei staff ar gael 24 awr y dydd ac yn cefnogi pobl ifanc o’r gymuned LHDTC+ a oedd yn dioddef digartrefedd neu sydd mewn perygl o hynny. Mae hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Viva LGBTQ+, a Llamau.
Ym mis Medi 2023, ymwelodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â phrosiect Tŷ Pride yn y Rhyl. Mae'n darparu cefnogaeth i bobl ifanc LHDTC+ sydd naill ai'n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Yn y cyfarfod gyda Chyngor Sir Ddinbych, Llamau, a Viva LGBT+, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Eleni yn unig, rydym wedi buddsoddi dros £210m mewn gwasanaethau atal digartrefedd ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys parhau i fuddsoddi dros £3.1m yn y Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref.
Rwy'n edrych ymlaen at rannu'r gwerthoedd sydd wedi helpu i ffurfio Tŷ Pride gydag awdurdodau lleol eraill i sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn gallu ymgysylltu'n sensitif â phobl LHDTC+."
Cenedl noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid
Cam gweithredu 15: adnabod, diogelu a chyfeirio pobl LHDTC+ sy’n hawlio lloches
Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at Lywodraeth y DU ynghylch prosesu ceisiadau am loches yn Rwanda. Roedd hyn hefyd er mwyn trafod sut i fwrw ymlaen â’r cam gweithredu i ddiwygio’r Ffurflen Gais am Gymorth Lloches (ASF1), a hynny er mwyn caniatáu i geiswyr lloches gofnodi gwybodaeth am gyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd.
Gofal iechyd, gofal cymdeithasol, a llesiant
Cam gweithredu 18: Deall a gwella profiad pobl LHDTC+ yn y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ag arweinwyr gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, grŵp Cydraddoldeb y Bwrdd Iechyd, a grwpiau cymunedol o'r gogledd i drafod anghenion iechyd pobl LHDTC+.
Cam gweithredu 21: cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV newydd a gweithredu arno
Fe wnaethom gyhoeddi ein Cynllun Gweithredu HIV i Gymru 2023 i 2026 ym mis Mawrth 2023.
Mae sawl grŵp gorchwyl a gorffen a Grŵp Goruchwylio’r Cynllun Gweithredu HIV wedi’u sefydlu ers mis Ebrill 2023.
Cam gweithredu 22: goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol
Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) i wneud gwasanaethau atal a phrofion ar-lein am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn fwy hygyrch.
Fe wnaethom hefyd weithio gydag ICC i ddatblygu’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf am y brechiad rhag brech M.
Mae’r profion HIV ar-lein sy’n cael eu danfon i’r cartref a gynigir gan Iechyd Rhywiol Cymru yn cael eu hyrwyddo’n eang gan ICC i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.
Cam gweithredu 24: parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru
Rydym yn parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru (oedolion). Mae’r gwasanaeth wedi’i leoli yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd ac mae ganddo dimau rhywedd lleol ym mhob bwrdd iechyd.
Addysg gynhwysol
Cam gweithredu 26: rhoi canllawiau cenedlaethol ar faterion traws i ysgolion ac awdurdodau lleol
Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am gynnwys y canllawiau.
I helpu wrth ddatblygu polisi mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grwpiau allanol i ddarparu gwybodaeth a galluogi amrywiol safbwyntiau i gael eu hystyried.
Rydym hefyd yn ymgymryd â rhaglen ehangach i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys:
- cyfarfodydd parhaus â sefydliadau unigol
- ymgysylltu drwy rwydweithiau a digwyddiadau
- ymgysylltu â phobl ifanc eu hunain
Mae’r grwpiau allanol yn cynnwys mewnbwn gan:
- awdurdodau lleol
- ymarferwyr addysg o amrywiol leoliadau
- sefydliadau rhanddeiliaid eraill
Mae rhai sefydliadau rhanddeiliaid yn bresennol i arsylwi yn unig.
Mae’r sefydliadau rhanddeiliaid sydd yn ein grwpiau allanol yn cynnwys:
- Barnardos
- Brook, elusen sy’n cefnogi pobl o safbwynt iechyd a lles rhywiol
- Comisiynydd Plant Cymru
- Y Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Cymorth i Ferched Cymru
- Estyn
- Elusen/grŵp gwirfoddol LHDTC+
- Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG
- NAHT Cymru, undeb llafur arweinwyr ysgolion
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
- Sefydliad gwaith ieuenctid
- Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn ystod blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Caiff y canlyniadau eu cyhoeddi yn 2024.
Cam gweithredu 28: llunio dull gweithredu ysgol gyfan sy’n gwbl LHDTC+-gynhwysol a’i roi ar waith
Diweddarwyd y cwricwlwm newydd i Gymru ar 31 Ionawr 2023. Mae’n cefnogi’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
Rydym wedi cefnogi Stonewall Cymru a Peniarth i gyfieithu dau lyfr i’r Gymraeg. Mae ‘Yn gynnar yn y bore’ a ‘Dim Chwarae, Mot!’ yn canolbwyntio ar deuluoedd LHDTC+. Mae’r llyfrau wedi’u dosbarthu i ysgolion cynradd. Mae hyn yn sicrhau bod gan blant fynediad at ddeunyddiau cynhwysol sy’n myfyrio ar amrywiaeth Cymru.
Cam gweithredu 29: sicrhau bod pob coleg a phrifysgol yng Nghymru yn amgylcheddau LHDTC+ gynhwysol i ddysgwyr, myfyrwyr, a staff
Ym mis Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ei adroddiad ar aflonyddu rhywiol ymhlith cyfoedion.
Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd adolygiad o aflonyddu rhywiol ymhlith cyfoedion 16 i 18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru. Comisiynwyd yr adolygiad ar ran Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Cymunedau, bywyd preifat a bywyd teuluol
Cam gweithredu 30: cefnogi bywydau teuluol pobl LHDTC+
Mae ein gwefan ddwyieithog, “Magu plant. Rhowch amser iddo” yn cynnwys dolenni i sefydliadau y gellir ymddiried ynddynt. Mae’n cynnig cefnogaeth i rieni o gymunedau LHDTC+, rhieni plant LHDTC+ neu rieni plant sy’n mynd drwy’r broses drawsnewid. Mae’r wefan hefyd yn darparu cefnogaeth i rieni a gofalwyr sydd angen cymorth ychwanegol.
Cam gweithredu 35: cefnogi sefydliadau Balchder ledled Cymru
Rydym wedi sefydlu’r Gronfa Balchder Llawr Gwlad. Mae’n helpu digwyddiadau Balchder llai i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi. Er enghraifft, rydym wedi cynnig cefnogaeth i:
- Pride y Barri
- Pride y Bont-faen
- Glitter Pride gan Glitter Cymru
- Balchder Gogledd Cymru ym Mangor
- Pride in the Port (Casnewydd)
- Pride Abertawe
- Pride Bae Colwyn
- Pride y Fenni
- Pride y Gelli
Rydym yn parhau i gefnogi a noddi Pride Cymru a’i ddigwyddiad yng Nghaerdydd, yn unol â’n hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.
Cam gweithredu 37: cefnogi cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+
Aethom ati i weithio gyda’r Arglwydd Etherton CB a’i dîm ar yr adolygiad annibynnol o effaith troseddoli bod yn hoyw yn Lluoedd Arfog Prydain. Roedd yr adolygiad yn edrych i mewn i wasanaeth a phrofiad cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog rhwng 1967 a 2000.
Roedd hyn yn cynnwys cydweithio’n agos â’r elusen Fighting with Pride yng Nghymru. Cynigiwyd cyngor ynghylch yr awgrymiadau a’r argymhellion i Gymru yn yr Adolygiad Annibynnol o Gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Dadansoddi ym mis Gorffennaf 2023.
Rhyddhaodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig ar 20 Gorffennaf 2023 ynghylch y cynnydd a wnaed yn y maes hwn.
Cymryd rhan ym mywyd Cymru: diwylliant a chwaraeon
Cam gweithredu 38: gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant, a chyfranogiad pobl LHDTC+ ym myd chwaraeon
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gŵyl newydd Out and Wild 2022 i 2024.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae’n canolbwyntio ar lesiant, yr awyr agored a chwaraeon. Mae hi’n ŵyl sydd wedi’i chynllunio ar gyfer merched LHDTC+ a phobl anneuaidd.
Mae hyn yn unol â’n hymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu LHDTC+; Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 i 2030; a’r amcanion llesiant yn y Rhaglen Lywodraethu er mwyn galluogi ffyniant ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau.
Cam gweithredu 39: gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon
Agorodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Wythnos Gweithredu Football vs Transphobia. Mae’r wythnos, a gafodd ei lansio yn 2023, yn ailddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhwysiant trawsryweddol mewn chwaraeon.
Cam gweithredu 40: dathlu a gwella cynrychiolaeth cymunedau LHDTC+ yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru
Rydym yn ariannu hyfforddiant ar iaith a hanes LHDTC+ ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol. Mae hyn yn helpu staff a gwirfoddolwyr i weithio gyda chymunedau LHDTC+ i arddangos, rhannu a dathlu hanes a diwylliant LHDTC+ lleol yn eu casgliadau.
Mae'r hyfforddiant wedi arwain at brosiect i greu llinellau amser o hanesion LHDTC+, gan gynnwys cyfeiriadau at gasgliadau a straeon mewn casgliadau lleol, ar gyfer pob ardal sirol yng Nghymru. Cyhoeddwyd y prosiect hwn ym mis Chwefror 2024.
Cam gweithredu 41: cael mwy o gyfranogiad gan bobl a sefydliadau LHDTC+ wrth lunio trefniadau a gweithgareddau diwylliannol
Drwy Cymru Greadigol, rydym am sicrhau y gall y diwydiannau creadigol barhau i dyfu. Bydd hyn yn helpu i feithrin talent o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau LHDTC+. Rydym wedi cefnogi Gŵyl Gwobr Iris sawl gwaith drwy Cymru Greadigol.
Trwy’r Gronfa Sgiliau Creadigol, mae Cymru Greadigol yn cyllido 2 brosiect gyda Beacons Cymru.
Mae’r "Resonant project" yn grymuso pobl ifanc rhywedd-amrywiol ac sydd wedi’u hymyleiddio (18 i 25 oed) i weithio y tu ôl i’r llenni yn y diwylliant cerddoriaeth yng Nghymru.
Prosiect “TransForm Music” i ddatblygu pecyn hyfforddi ar gyfer lleoliadau cerddoriaeth a chreadigol. Mae’r bartneriaeth hon yn canolbwyntio ar wneud lleoliadau’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn fwy diogel a chynhwysol i bobl drawsryweddol ac anneuaidd. Mae’n cael ei gyflwyno i 6 o randdeiliaid yn y diwydiant cerddoriaeth ledled Cymru.
Gweithleoedd cynhwysol
Cam gweithredu 44: annog cyflogwyr yn y sector preifat i fod yn LHDTC+-gynhwysol
Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol â rhwydwaith LHDTC+ Cymdeithas Adeiladu Principality i drafod arferion cynhwysol mewn gweithleoedd.
Rydym yn parhau i gefnogi cynllun gweithredu Cyngres Undebau Llafur Cymru, sef 10 cam tuag at weithleoedd LHDTC+-gynhwysol a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023.
Lansiodd Gweinidog yr Economi a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol y Cynllun Gweithredu Manwerthu ym mis Mai 2023. Mae’r Cynllun yn cynnwys camau i hyrwyddo Gwaith Teg a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu.
Cyfarfu'r Dirprwy Weinidog â Lloyds Banking Group a'u Rhwydwaith Enfys, gan siarad yn eu digwyddiad Rhwydwaith Enfys blynyddol yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2023. Trafodwyd pwysigrwydd arferion cynhwysol a rhwydweithiau staff LHDTC+.
Effaith COVID-19
Cam gweithredu 46: cynnal ymchwiliad trylwyr i’r ffordd y mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bobl LHDTC+, yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ a phobl anabl LHDTC+, yng Nghymru
Fe wnaethom gomisiynu ymchwil i weld pa gamau allai helpu i fynd i’r afael â’r effaith a gafodd pandemig COVID-19 ar gymunedau LHDTC+.
Bwletin y Cynllun Gweithredu LHDTC+
Rydym wedi lansio bwletin pwrpasol ar gyfer y Cynllun Gweithredu LHDTC+, sef Bwletin y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru. Tanysgrifio i fwletin y Cynllun Gweithredu LHDTC+.