Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

1. Pwyntiau i'w nodi

  • Nid yw'r wybodaeth a amlinellir yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol nac yn gyngor statudol, ac ni fwriedir iddo fod yn gynhwysfawr. Ni fwriedir ychwaith iddi ddisodli'r rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sy'n berthnasol i Awdurdodau Contractio Sector Cyhoeddus Cymru – dylai partïon contractio geisio eu cyngor cyfreithiol annibynnol eu hunain fel sy’n briodol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson a dylid ceisio cyngor mewn perthynas â phob achos unigol. Mae'r ddogfen hon yn adlewyrchu'r sefyllfa ar 26 Mai 2023.
  • Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn adeiladu ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymrua deddfwriaeth gyfredol y DU ar gaffael fel y'i diwygiwyd, ac mae'n cyd-fynd â'r datganiad a’r ddeddfwriaeth honno (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023).
  • Mae'r nodyn hwn yn rhagdybio lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru LLYW.CYMRU a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at PolisiMasnachol@llyw.cymru neu drwy wasanaethau cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

2. Pwnc

Mae'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn yn amlinellu newidiadau i rwymedigaethau caffael cyhoeddus sy'n codi o ddau Gytundebau Masnach Rydd y mae'r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt, un gydag Awstralia a'r llall gyda Seland Newydd, yn gymaint ag y maent yn ymwneud ag awdurdodau datganoledig Cymru. Mae deddfwriaeth weithredu debyg wedi cael ei gosod gan Lywodraeth y DU ar gyfer awdurdodau contractio yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a chan Llywodraeth yr Alban ar gyfer awdurdodau contractio yn yr Alban. Mae rheoliadau Llywodraeth y DU hefyd yn berthnasol i awdurdodau contractio yng Nghymru nad ydynt yn awdurdodau wedi'u datganoli i Gymru.

Er bod y diwygiadau yn codi o'r cytundeb penodol hwn, maent yn berthnasol i unrhyw gaffael o 26 Mai 2023, nid i'r rhai sy'n gysylltiedig â chyflenwyr yn Awstralia a Seland Newydd yn unig.

Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar y ffordd rydym yn ymdrin â chontractau nad oes modd amcangyfrif eu gwerth, defnyddio Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw, a'r amgylchiadau y caniateir terfynu contractau o danynt.

3. Dosbarthiad a chwmpas

Mae'r Nodyn Polisi hwn yn berthnasol i awdurdodau contractio y mae eu swyddogaethau wedi cael eu datganoli yn llwyr neu'n bennaf i Gymru, fel y’u diffinnir gan Reoliad 1(7) ac 1(8) o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Mae canllawiau ar wahân wedi cael eu llunio gan Lywodraeth y DU (PPN 05/23) sy'n berthnasol i'r awdurdodau contractio yng Nghymru nad ydynt yn y categori hwn.

Rhaid i awdurodau contractio gymryd camau i gymhwyso’r Nodyn Polisi hwn i bob contract caffael pan fydd gwneud hynny'n berthnasol. Mae hyn yn golygu contractau caffael dros y trothwyon a amlinellir yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Cyfleustodau 2016 a Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016.

Gofynnir ichi ddosbarthu'r Nodyn Polisi Caffael Cymru hwn ar draws eich sefydliad ac i sefydliadau perthnasol eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt, gan dynnu sylw penodol y rhai mewn rolau caffael, masnachol a chyllid ato.

4. Y cefndir

Llofnodwyd y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac Awstralia ym mis Rhagfyr 2021, a llofnodwyd y Cytundeb Masnach Rydd newydd rhwng y DU a Seland Newydd ym mis Chwefror 2022.  Mae'r Cytundebau Masnach Rydd newydd yn cynnwys rhwymedigaethau newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol diwygio rheoliadau caffael cyhoeddus y DU er mwyn sicrhau y gellir cydymffurfio'n llwyr.

Rhoddodd Llywodraeth y DU bweriau i Weinidogion Cymru o fewn Deddf Masnach (Awstralia a Seland Newydd) 2023 i wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn gweithredu'r rhwymedigaethau'n llawn. Ymhlith pethau eraill, mae'r OS yn diwygio'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau a'r Rheoliadau Contractau Consesiwn er mwyn:

  1. Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio a chyfleustodau nad ydynt yn gallu amcangyfrif gwerth contract caffael ei drin fel pe bai'n cyfateb i’r trothwy perthnasol, ac o ganlyniad bydd yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn lawn
  2. Dileu'r opsiwn i awdurdodau contractio a chyfleustodau is-ganolog ddefnyddio Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw neu Hysbysiad Dangosol Cyfnodol fel yr alwad am gystadleuaeth
  3. Ei gwneud y glir bod rhaid i awdurdodau contractio beidio â therfynu contract er mwyn osgoi rhwymedigaethau rhyngwladol.

Disgwylir na fydd y gofynion hyn ond yn arwain at newidiadau bach yn y ffordd mae ymarferwyr yn cynnal ymarferion caffael.

5. Canllawiau

Newidiadau ar gyfer yr awdurdodau contractio:

Contract na wyddys ei gwerth

Roedd y rheoliadau caffael blaenorol yn darparu amryw ddulliau ar gyfer amcangyfrif gwerth contractau er mwyn penderfynu a oedd y trothwyon perthnasol yn gymwys. Mae'r offeryn statudol hwn yn golygu bod rhaid ymdrin â chontractau nad oes modd amcangyfrif eu gwerth fel pe baent yn cyfateb i'r trothwy perthnasol gan awdurdodau contractio, ac felly yn ddarostyngedig i'r gyfundrefn lawn.

Dileu'r opsiwn i ddefnyddio Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw neu Hysbysiad Dangosol Cyfnodol mewn rhai amgylchiadau

Roedd rheoliadau caffael blaenorol yn caniatáu i awdurdodau contractio a chyfleustodau is-ganolog ddefnyddio Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw neu Hysbysiad Dangosol Cyfnodol fel yr alwad am gystadleuaeth, yn lle hysbysiad contract safonol, pan fodlonid gofynion penodol. Mae'r offeryn statudol hwn yn golygu na chaniateir bellach i awdurdodau contractio a chyfleustodau wneud hyn. Fel arall ganiateir defnyddio Hysbysiadau Gwybodaeth Ymlaen Llaw a Hysbysiadau Dangosol Cyfnodol at unrhyw ddiben arall, fel y'i caniateir o dan y rheoliadau perthnasol.

Terfynu contractau

Roedd rheoliadau caffael blaenorol yn cynnwys darpariaethau a oedd yn sicrhau na allai endidau caffael ddefnyddio opsiynau, canslo ymarfer caffael sicredig neu addasu contractau a ddyfarnwyd er mwyn osgoi rheoliadau. Mae'r Cytundeb Masnach Rydd yn gosod gofyniad ychwanegol sy'n gwahardd awdurdodau contractio rhag terfynu contractau a ddyfarnwyd i osgoi rhwymedigaethau caffael. Mae'r OS hwn yn golygu bod rhaid i awdurdodau contractio nodi'r rhwystr statudol ychwanegol.

6. Camau gweithredu y mae'n ofynnol i awdurdodau contractio eu cymryd

Mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud offeryn statudol sy'n diwygio rheoliadau caffael cyhoeddus y DU er mwyn i Gymru weithredu'r rhwymedigaethau newydd yn y Cytundebau Masnach Rydd gydag Awstralia a Seland Newydd. Rhaid i bob awdurdod contractio weithredu'n unol â'r newidiadau i reoliadau caffael y DU yn yr is-ddeddfwriaeth hon, a ddaeth y rym ar 26 Mai 2023.

7. Deddfwriaeth

Enw'r rheoliadau yw Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundebau Masnach Ryngwladol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2023.

8. Amserlen

Rhaid i'r Nodyn hwn gael ei gymhwyso i gaffaeliadau ar ôl i'r Rheoliadau ddod i rym ar 26 Mai 2023, nes bod y Nodyn Polisi yn cael ei ddisodli neu ei ganslo.

9. Perthnasedd Datganiad Polisi Caffael Cymru

Mae'r Nodyn Polisi hwn yn cyd-fynd â'r egwyddorion yn Natganiad Polisi Caffael Cymru.

10. Gwybodaeth ychwanegol

Mae rhestr lawn o Nodiadau Polisi Caffael Cymru ar gael yn llyw.cymru.

11. Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Nodyn Polisi hwn, cysylltwch â'r Tîm Polisi Masnachol yn: PolisiMasnachol@llyw.cymru.