Darparu cymorth ariannol i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu cynllun creu coetir ar gyfer arwynebedd o 0.25 hectar o leiaf.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i ddatblygu cynllun creu coetir ar gyfer arwynebedd o 0.25 hectar o leiaf. Os yw'r arwynebedd yn llai na dau hectar, efallai y bydd modd gwneud cais i'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir yn lle’r cynllun hwn.
Bydd y cynllun yn cael ei wirio gan Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau ei fod yn bodloni Safon Coedwigaeth y DU. Gellir wedyn defnyddio'r cynllun i wneud cais i'r Grant Creu Coetir am gyllid i blannu'r coed.
Pwy sy'n cael gwneud cais
Mae'r cynllun wedi cael ei gynllunio i ffermwyr, perchnogion tir eraill a rheolwyr tir wneud cais am gyllid i ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig i greu cynllun creu coetir.
Yr hyn mae'r cynllun yn ei gynnig
Mae'r cynllun yn darparu grantiau rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer:
- Cyngor proffesiynol gan Gynllunydd Coetir Cofrestredig
- Datblygu cynllun creu coetir sy'n cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU, wedi'i wirio gan CNC ac yn ddilys am bum mlynedd
Mae'r cymorth yn talu 80% o gost cynnal arolygon arbenigol o gynefinoedd neu rywogaethau fel:
- ystlumod
- adar bridio
- llystyfiant
- mawn
Sut i wneud cais
Gall yr ymgeisydd neu gynllunydd coetir cofrestredig wneud cais ar Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein drwy gyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Mae'r cynllun ar agor drwy gydol y flwyddyn.
Mae CNC yn cynnig gwasanaeth cyn-ymgeisio yma Y Tîm Gwirio Cynlluniau Coetir, i drafod y cynnig creu coetir cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb, i sicrhau bod y safle yn addas ar gyfer plannu coed.
Mae rhagor o wybodaeth am:
- sut i wneud cais
- canllawiau technegol
- rheolau'r cynllun
- telerau ac amodau
- chanllawiau sut i lenwi
ar gael yn Cynllun Cynllunio Creu Coetir
Rhagor o wybodaeth
Mae rhestr o Gynllunwyr Coetir Cofrestredig ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch ddefnyddio'r rhain i baratoi eich cynllun creu coetir.
Mae gwasanaeth cyn-ymgeisio CNC ar gael yma Y Tîm Gwirio Cynlluniau Coetir, fel y gallwch drafod y cynnig creu coetir
Ceir cyngor technegol gan Cyswllt Ffermio a Hyb Creu Coetiroedd CNC.