Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion ynghylch cymorth ardrethi annomestig ar gyfer ynni adnewyddadwy.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Mae'r ymgynghoriad yn nodi ein cynigion ar gyfer eithriad rhag ardrethi ar gyfer peiriannau a pheirianwaith a ddefnyddir i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle a storio trydan ar gyfer cerbydau trydan, a darparu rhyddhad newydd ar gyfer rhwydweithiau gwres carbon isel.
Bwriad y mesurau hyn yw cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i symud i ffwrdd o ddefnyddio tanwyddau ffosil ac i ddatgarboneiddio gwres. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad, rydym yn cynnig darparu'r cymorth hwn o 1 Ebrill 2024.
Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, a gofynnir am ymatebion erbyn 15 Awst 2023.
Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: Cymorth trethi ynni adnewyddadwy