Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

211. Mae’r diwygiadau a nodir yn y Papur Gwyn hwn yn bwysig ynddynt eu hunain. Ond maent hefyd yn gamau pwysig ar daith hwy setliad datganoli Cymru tuag at fframwaith cyfansoddiadol cynaliadwy sydd â’r cyfreithlondeb democrataidd mwyaf posibl, ac sydd yn y sefyllfa orau i ddiwallu anghenion pobl Cymru.

212. Yn benodol, drwy sefydlu Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru a Thribiwnlys Apêl Cymru, mae potensial i allu datganoli rhannau o’r system gyfiawnder yn llwyddiannus; ac yn fwy anuniongyrchol, mae’n ddangosydd o’r dull gweithredu y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio wrth ddylunio a goruchwylio system gyfiawnder ddatganoledig.

213. Mae’r bennod hon yn edrych yn benodol ar:

  1. Sut gall system dribiwnlysoedd ddiwygiedig gefnogi datblygu system gyfiawnder gryfach, hyd yn oed cyn rhagor o ddatganoli posibl
  2. Y rhyngweithio rhwng diwygio tribiwnlysoedd ac unrhyw gam pellach o ddatganoli cyfiawnder, gan gynnwys cyfiawnder ieuenctid ac (yn dilyn hynny) y system gyfiawnder yn ehangach – yn anad dim, y llysoedd.

Cryfhau’r system gyfiawnder o dan y setliad cyfansoddiadol presennol

214. Bydd y diwygiadau yr ydym yn eu cynnig yn y Papur Gwyn hwn yn gwneud cyfraniad sylweddol at wella gweithrediad y system gyfiawnder yng Nghymru. Hyd yn oed os na fydd ein cynlluniau ar gyfer diwygio yn cael eu hehangu ymhellach y tu hwnt i’r mesurau rhesymoli cychwynnol a nodir yn y papur hwn, bydd y mesurau hynny’n rhoi rhagor o annibyniaeth, cydlyniaeth, hygyrchedd ac effeithlonrwydd iddo.

215. Fodd bynnag, mae’r diwygiadau strwythurol i’r system dribiwnlysoedd a nodir yn y papur hwn yn gamau hefyd ar daith i wella cyfiawnder yng Nghymru.

216. Rhan o’r daith wella honno fydd dod â mwy o swyddogaethau, dros amser, o fewn cwmpas y system dribiwnlysoedd newydd. O fewn ei feysydd cymhwysedd, gall y Senedd sefydlu rhagor o dribiwnlysoedd neu ddyrannu swyddogaethau newydd i’r tribiwnlysoedd datganoledig presennol. Yn union fel y bydd apeliadau gwaharddiadau o ysgolion yn dod o fewn cwmpas y Tribiwnlys Haen Gyntaf a’r Tribiwnlys Apêl newydd pan gânt eu sefydlu, bydd swyddogaethau eraill yn dilyn dros amser, lle credir y gallent elwa o’r dull gweithredu a ddefnyddir gan dribiwnlysoedd a’r nodweddion cysylltiedig (fel yr anffurfioldeb cymharol – o’i gymharu â llys, o leiaf).

217. Wrth benderfynu pa anghydfodau y dylid eu cyflwyno i’r strwythur tribiwnlysoedd newydd, bydd yn bwysig ystyried y dulliau eraill o ddatrys anghydfod a allai fod ar gael – nid dim ond llysoedd, ond hefyd ffyrdd eraill o ddatrys anghydfod fel ombwdsmyn, cyfryngu, cyflafareddu neu gymodi. Adolygodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru (“Comisiwn Thomas”) weithrediad y systemau cyfiawnder yng Nghymru, a gwnaeth argymhellion ynghylch y system cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru).

218. Daeth Comisiwn Thomas i’r casgliad, ymysg pethau eraill, fod:

datrys anghydfod yn gymhleth am nifer o resymau, gan gynnwys y diffyg cydlynu rhwng y llysoedd, y tribiwnlysoedd a gwahanol fathau o ddulliau amgen o ddatrys anghydfod (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, Crynodeb Gweithredol, gweler paragraff 15).

219. Roedd Comisiwn Thomas yn argymell y dylai:

Datrys anghydfodau gerbron llysoedd, tribiwnlysoedd, dulliau amgen o ddatrys anghydfod ac ombwdsmyn, yn ogystal â datrys anghydfodau mewn perthynas â chyfraith weinyddol, gael ei hyrwyddo a’i gydlynu yng Nghymru drwy gorff sy’n cael ei gadeirio gan uwch farnwr (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru argymhelliad 21, paragraff 5.55, tudalen 267).

220. Roedd adolygiad Pwyllgor Cymru y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd o dribiwnlysoedd sy’n gweithredu yng Nghymru yn awgrymu dull unedig system gyfan ar gyfer systemau tribiwnlysoedd yng Nghymru fel sail i gyfiawnder gweinyddol mwy effeithiol yng Nghymru.

221. Mae cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru fel y nodir yn y Papur Gwyn yn gam sylweddol ymlaen i system gyfiawnder eginol Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r dirwedd weinyddol sifil ac ehangach. Y tu hwnt i ddatblygu cynigion deddfwriaethol ar unwaith ar sail yr ymgynghoriad hwn, mae’n hanfodol bod gweithrediad y dirwedd ehangach yn cael ei adolygu’n gyson.

Cwestiwn ymgynghori 40

Ydych chi’n cytuno y dylid parhau i adolygu gweithrediad cyfiawnder sifil a gweinyddol yng Nghymru? Os felly, sut dylid gwneud hyn?

222. Ym Mhennod 5, rydym hefyd yn nodi sut, drwy sefydlu bwrdd i lywodraethu Tribiwnlysoedd Cymru a gofynion adrodd ar gyfer y bwrdd hwnnw, y gallem sicrhau bod perfformiad y system, boddhad defnyddwyr, a gwybodaeth sy’n ymwneud ag amrywiaeth yn y system yn cael ei fonitro’n dryloyw. Nid yw monitro’r wybodaeth hon yn gyson yn nod ynddo’i hun – ond bydd yn caniatáu llwyfan y gall y system adeiladu cynlluniau arno ar gyfer y dyfodol sy’n sefydlu diwylliant o welliant parhaus.

223. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau hefyd ar yr hyn y gallwn ei gyflawni i wella’r system gyfiawnder yng Nghymru o fewn cyfyngiadau’r system bresennol, lle mae’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder yn parhau i fod yn nwylo Llywodraeth y DU i raddau helaeth. Felly, mae rhagor o heriau o’n blaenau i gysoni materion sy’n ymwneud â chyfiawnder yn briodol ac yn llawn â gweithrediad gwasanaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru ac sy’n cael eu darparu yng Nghymru.

Datganoli cyfiawnder

224. Roedd Comisiwn Thomas yn argymell yn unfrydol y dylid datganoli cyfiawnder a phlismona yn llawn yn ddeddfwriaethol. Yr argymhelliad pwysicaf yng nghyd-destun y papur hwn oedd creu system unedig o lysoedd a thribiwnlysoedd yng Nghymru, ar gyfer penderfynu (ymysg pethau eraill) ar bob anghydfod cyfraith sifil a gweinyddol (Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru, argymhelliad 22, paragraff 5.56, tudalen 260).

225. Wrth gwrs, mae gweithrediad llysoedd a thribiwnlysoedd gan un gwasanaeth yn rhywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Lloegr, ac yn yr Alban. Argymhellwyd yng ngoleuni sylwadau ynghylch a yw'r rhaniad presennol o gyfrifoldebau rhwng llysoedd a thribiwnlysoedd yn rhesymegol ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr gwasanaethau. 

226. Mae’r ddeddfwriaeth a nodir yn y papur hwn yn nodi’n glir sut y gallem weithredu gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn y dyfodol – fel corff statudol, gyda’r sicrwydd o annibyniaeth y mae’r model hwnnw’n ei gynnig.

227. Fel y dywedasom yn Sicrhau Cyfiawnder i Gymru, “nid un digwyddiad fydd diwygio'r system gyfiawnder yng Nghymru; yn hytrach, bydd yn broses o newid dros amser, gan flaenoriaethu'r meysydd hynny lle gallwn wella canlyniadau i bobl Cymru fwyaf”.

228. Mae’r Comisiwn ar Ddyfodol y DU (“Comisiwn Brown”) a sefydlwyd gan Blaid Lafur y DU wedi rhoi un ateb ynghylch sut y gallai’r broses newid honno ddechrau. Nododd Comisiwn Brown mai un o’r gwahaniaethau amlwg rhwng setliadau datganoli Cymru a’r Alban yw datganoli materion yn ymwneud â chyfiawnder a phlismona, ac nad oes unrhyw reswm o egwyddor pam y dylai datganoli o’r fath fod yn llai yng Nghymru. Yn ei adroddiad, argymhellodd Comisiwn Brown y dylai llywodraeth Lafur nesaf y DU ddechrau datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf (A New Britain: Renewing our Democracy and Rebuilding our Economy. Gweler “Enhancing Wales’ powers of self-government” ac argymhelliad 24, tudalennau 112-113), gan ymgysylltu’n adeiladol ag argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sydd i fod i gyflwyno adroddiad erbyn diwedd 2023.

229. Fel lle i ddod â’r papur hwn i ben, mae datganoli cyfiawnder ieuenctid yn cynnig esiampl wych o’r cyfleoedd posibl a gynigir gan ddiwygio tribiwnlysoedd a thrwy ddatganoli cyfiawnder. Mae’n hawdd gweld sut gallai lleoliad tribiwnlys fod yn well na llys ar gyfer materion cyfiawnder ieuenctid, gan fod tribiwnlysoedd yn ddull mwy anffurfiol o ddyfarnu ar faterion o’u cymharu â llysoedd. Mae gan dribiwnlysoedd fel Tribiwnlys Addysg Cymru brofiad hir o roi’r flaenoriaeth uchaf i lais y plentyn, o deall anghenion plant a gwneud argymhellion yn eu cylch, ac o greu amgylcheddau a ffyrdd o weithio sy’n caniatáu i blant gymryd rhan mewn achosion mewn ffordd sy’n lleihau trawma iddynt.

230. Mae rhai ynadon yn cael hyfforddiant penodol ac yn datblygu profiad ac arbenigedd sylweddol wrth weithio gyda phlant sy'n troseddu, ac ystyried eu hawliau a'u lles. Mae rhai achosion yn y Llysoedd Ynadon hefyd yn cael eu clywed gan Farnwyr Rhanbarth neu Ddirprwy Farnwyr Rhanbarth, a fydd â chymwysterau cyfreithiol proffesiynol ac a allai fod â chymwysterau penodol o ran gweithio gyda phlant a theuluoedd. Fodd bynnag, mae anghyfartalwch o hyd rhwng y sail ar gyfer recriwtio ynadon a'r rhagofynion angenrheidiol i'w penodi i'r Tribiwnlys Addysg, yn seiliedig ar y swyddogaethau gwahanol y mae'r ddwy awdurdodaeth yn eu gwasanaethu fel arfer.

231. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn elwa ar waith grŵp cynghori o dan gadeiryddiaeth Dr Jonathan Evans, sy’n ystyried cryfderau a gwendidau’r system cyfiawnder ieuenctid bresennol yng Nghymru, canlyniadau buddiol posibl datganoli, a’r mecanweithiau ar gyfer cyflawni’r manteision hynny. Fel rhan o’r broses o fwrw ymlaen â’r gwaith hwnnw, rydym yn cynnig ystyried y potensial ar gyfer rôl i’r system dribiwnlysoedd newydd, gan gynnwys profiad rhyngwladol o weithredu model o’r fath.

232. Ar hyn o bryd, dim ond un syniad yw hwn ymhlith llawer ynghylch sut y gellid darparu cyfiawnder ieuenctid yn wahanol gyda datganoli. Ond mae wedi’i gynnwys yma fel un enghraifft yn unig o’r creadigrwydd a fyddai’n cael ei ganiatáu drwy ddatganoli cyfiawnder – a’r cyfle y mae’n ei roi i fabwysiadu agwedd wirioneddol gyfannol at lunio polisïau am y tro cyntaf.

233. Yn y cyfamser, mae ein diwygiadau i dribiwnlysoedd yn gosod cynsail clir i’r dull y byddem yn ei ddefnyddio i reoli cyfiawnder yng Nghymru, wedi’i lywio gan yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol a’r angen i sicrhau bod gan holl bobl Cymru fynediad priodol at gyfiawnder, lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen.