Gall cwmnïau preifat gysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru sydd am brynu credydau carbon ar gyfer ffermwyr i wrthbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Er y gallai fod cyfle i ffermwyr greu ffrwd incwm newydd trwy werthu credydau carbon, efallai y bydd angen i dirfeddianwyr fod yn ofalus ynghylch gwerthu credydau carbon nes eu bod yn gwybod faint o garbon y gall eu tir ei ddal a faint o garbon y maent yn ei allyrru fel busnes.
Gall ffermwyr ddefnyddio cyfrifiannell garbon i'w helpu i asesu a allai fod ganddynt gredydau carbon dros ben sydd ar gael ar gyfer masnachu. Bydd hyn yn caniatáu i fusnesau gyfrifo a oes unrhyw credydau dros ben y gellir eu masnachu i drydydd parti, heb effeithio ar allu'r fferm i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net nawr ac yn y dyfodol.
Unwaith y bydd ffermwyr yn gwerthu credydau carbon, ni allant eu cyfrif tuag at eu hymdrechion eu hunain i leihau carbon.
Yr haf hwn, bydd Awdurdod ETS y DU, a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn cyhoeddi ei ymateb i'r ymgynghoriad ar 'Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS)' a oedd yn cynnwys ystyried cynnwys tynnu nwyon tŷ gwydr sy'n seiliedig ar natur (megis coedwigo). Er bod hyn mewn cam meddwl cynnar, gallai rôl tynnu nwyon tŷ gwydr mewn unrhyw farchnad bosibl effeithio ar y pris a'r farchnad ar gyfer credydau carbon ar y tir yn y dyfodol a gallai olygu y bydd credydau carbon ar y tir yn dod yn fwy gwerthfawr yn y dyfodol.